Mae cwmni cynhyrchu teledu Cwmni Da yn y gogledd, sy’n eiddo i’r gweithwyr, yn rhoi gŵyl banc ychwanegol i’w holl staff ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae’r cwmni o Gaernarfon, sydd wedi ennill amryw o wobrau yn y diwydiant teledu, yn annog Llywodraeth Cymru i bwyso eto i wneud diwrnod nawddsant Cymru yn ŵyl banc genedlaethol i bawb yn y wlad.
Yn ôl Llion Iwan, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, mae’r syniad wedi cael cefnogaeth pob un o’r 54 o bobol sy’n gweithio yno.
Bydd y diwrnod ychwanegol i ffwrdd ar Fawrth 1 yn ychwanegol at y lwfans gwyliau arferol.
Mae’r penderfyniad i roi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc i staff hefyd yn un sydd wedi’i wneud gan gwmni golwg.
Mentrau i gefnogi staff
Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o fentrau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi gweithlu Cwmni Da.
Yn gynharach eleni, datgelodd y cwmni eu bod nhw wedi rhoi bonws costau byw o £500 i bob aelod o staff, ac mae polisïau mewn perthynas â mamolaeth, tadolaeth a chamesgor hefyd wedi’u cryfhau.
Ar yr un pryd, mae’r swm sy’n cael ei wario ar hyfforddi staff wedi cael ei gynyddu bedair gwaith drosodd.
“Fel cwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr, rydym wedi bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein staff o ran cydbwysedd bywyd a gwaith yn ogystal â darparu cymorth ar wahanol adegau ym mywydau pobol,” meddai Llion Iwan.
“Y peth cyntaf rydyn ni’n ei wneud o eleni ymlaen yw ein bod ni’n gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc â thâl i’n holl staff.
“Os yw’n disgyn ar benwythnos, byddant yn dal i gael diwrnod i ffwrdd, naill ai ar y dydd Gwener blaenorol neu’r dydd Llun canlynol.
“Un neges bwysig y mae’n ei hanfon yw ein bod ni, fel gweithlu, yn gallu penderfynu beth rydyn ni eisiau ei wneud.
“Yn amlwg, mae goblygiadau ariannol oherwydd bydd pawb mewn gwirionedd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau ond rydym yn teimlo ei fod yn bwysig oherwydd dyma’r diwrnod rydym yn dathlu ein nawddsant yng Nghymru.
“Mae hefyd yn ddatganiad am Gymru a’n hunaniaeth fel cenedl. Rydym yn falch o fod yn gwmni Cymreig wedi ei leoli yng Ngwynedd ac mae’r syniad wedi cael cefnogaeth 100 y cant gan bawb sy’n gweithio yma.
“Ar y diwrnod bydd gan bob un ohonom neges ar ein e-bost yn dweud ein bod allan o’r swyddfa gan egluro pam nad ydym ar gael.
“Mae gennym wyliau banc ar gyfer coroni a dathliadau brenhinol ar lefel y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i Gymru gael gŵyl banc i ddathlu ein Cymreictod.
“Ar wahân i Gyngor Gwynedd, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw un arall sy’n gwneud hyn ar hyn o bryd.
“Rydym yn gobeithio y bydd cwmnïau a sefydliadau eraill yn dilyn ac yn datgan Mawrth 1 fel gŵyl banc fel y gallwn greu momentwm a rhoi pwysau ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i’w wneud yn ŵyl genedlaethol swyddogol.”
Hanes Cwmni Da
Cafodd Cwmni Da ei sefydlu yn 1994, a daeth yn Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth Gweithwyr yn 2018.
Mae eu cynnyrch yn cynnwys sioeau hynod boblogaidd fel Noson Lawen, Garddio a Mwy, FFIT Cymru, Bwyd Epic Chris, Canu Gyda Fy Arwr, Gogglebocs Cymru a Deian a Loli.
Yn ogystal â gwneud rhaglenni ar gyfer darlledwyr eraill yn y Deyrnas Unedig fel y BBC, mae gan Cwmni Da hanes cryf mewn cyd-gynyrchiadau rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau.
“Mae Cwmni Da eisoes yn lle gwych i weithio ac rydym yn credu bod y pecyn o fuddion y gallwn ei gynnig heb ei ail, yn ogystal â chyfleoedd gwych ar gyfer datblygu gyrfa,” meddai Llion Iwan.
“Mae hyn oll yn dangos mai ein blaenoriaeth fel busnes yw cefnogi ein staff fel y byddwn ni fel cwmni yn elwa yn y pen draw. Bydd gweithlu hapus bob amser yn fwy ymroddedig ac yn y pen draw yn fwy cynhyrchiol.
“Ymhlith ein nodau yw cadw a gwella sgiliau’r gweithlu a darparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda yng ngogledd-orllewin Cymru sy’n cyfrannu ar roi hwb i’r economi leol.”