Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig eleni, wrth i’r gyfres boblogaidd o lyfrau i ddysgwyr, cyfres Amdani, gyrraedd ei phumed pen-blwydd.

Yn ystod 2023, bydd pob teitl yn y gyfres ar gael fel llyfr llafar am y tro cyntaf.

Mae 40 o lyfrau yn y gyfres, gan amrywiol weisg, gafodd eu comisiynu drwy grantiau’r Cyngor Llyfrau.

Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel dysgu – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, a nod y gyfres yw rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau.

Mae’r gyfres yn ffrwyth partneriaeth rhwng y Ganolfan Genedlaethol a’r Cyngor Llyfrau.

Mae Gŵyl Amdani, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol rhwng Chwefror 27 a Mawrth 3, yn dathlu’r gyfres, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â darllen yn y Gymraeg.

Mae’r teitlau yng nghyfres Amdani yn cynnwys Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare gan Elin Meek (Atebol, lefel Mynediad), Yn ei Gwsg gan Bethan Gwanas (Atebol, lefel Sylfaen), 20 o Arwyr Cymru gan J. Richard Williams (Gwasg Carreg Gwalch, lefel Canolradd) a Cawl a Straeon eraill (Y Lolfa, lefel Uwch).

Mae llyfrau Amdani ar gael o siopau llyfrau lleol neu i’w benthyg o’r llyfrgell leol.

Mae fformatau digidol, megis e-lyfrau a llyfrau llafar, ar gael o Ffolio.cymru gyda rhagor o lyfrau llafar yn cyrraedd yn ystod 2023.

Mae modd i siopwyr ddewis siop lyfrau benodol i elwa o’u pryniant ar Ffolio.

‘Creu cyfleoedd’

“Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth yn rhan hollbwysig o’n gwaith yn y Ganolfan, ac mae’r gyfres Amdani yn boblogaidd tu hwnt,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae’r dewis eang o lyfrau difyr yn golygu y bydd llyfr i chi ei fwynhau, p’un a ydych chi newydd ddechrau dysgu, neu’n siaradwr hyderus.

“Bydd y llyfrau llafar yn galluogi’n dysgwyr i fagu hyder trwy glywed yr iaith, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau i gyflwyno hyd yn oed mwy o deitlau i’r gyfres.”

Llyfrau llafar

“Bum mlynedd yn ôl, doedd dim llyfrau ar gyfer dysgwyr oedd wedi eu cynhyrchu yn benodol i gyd-fynd â’r lefelau dysgu cenedlaethol,” meddai Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.

“Penderfynodd y Cyngor Llyfrau, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan, gomisiynu 20 o lyfrau pwrpasol o bob math a’u galw yn gyfres Amdani.

“Bellach mae’r cyhoeddwyr yn cyhoeddi llyfrau Amdani yn rheolaidd ac mae 40 ohonyn nhw ar gael.

“Diolch i Grant Cynulleidfaoedd Newydd a ddarparwyd gan Gymru Greadigol, rydyn ni wedi cefnogi creu fersiwn llafar o bob llyfr fel y bydd yn fuan fodd eu mwynhau trwy wrando yn ogystal â’u darllen.”

Gŵyl Amdani

Trwy gydol yr wythnos rhwng Chwefror 27 a Mawrth 3, bydd golwg360 a Lingo360 yn dewis a dethol rhai straeon newyddion i’w haddasu, gyda geirfa ar gael i’ch helpu, ynghyd â rhai eitemau eraill i ddathlu Gŵyl Amdani.

Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth ysgrifennu stori ar gyfer lefel Mynediad ar y thema ‘Y Gwanwyn’.

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, Amdani, sy’n cynnwys teitlau gwahanol, o hunangofiannau a nofelau serch i lyfrau llawn hiwmor a straeon byrion.

Mae’r ŵyl yn tynnu sylw at y cyfleoedd di-ri i fwynhau darllen yn Gymraeg.

Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ac mae’r rhaglen lawn i’w gweld ar wefan Amdani.