Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymhlith y rhai sydd wedi lleisio’u barn am y newidiadau sydd wedi’u gwneud i rai o lyfrau’r awdur o Gaerdydd, Roald Dahl.

Mae argraffiadau newydd o nifer o’i straeon i blant, gan gynnwys The BFG a Charlie and the Chocolate Factory, wedi cael eu haddasu gan gyhoeddwyr yn sgil pryderon am y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â nodweddion personol rhai o’r cymeriadau.

Tra bod rhai yn cydweld â’r newidiadau, mae eraill fel Rishi Sunak yn dadlau na ddylid eu newid ac y dylid “eu cadw” ac mae’r awdur Salman Rushdie yn dadlau mai “sensoriaeth abswrd” sy’n gyfrifol am yr ymdrechion i fod yn fwy gwleidyddol gywir.

Dywed Rushdie y dylai Puffin Books ac ystad yr awdur “fod â chywilydd”.

Yn ôl eraill, fel Philip Pullman, dylid gadael i’r llyfrau fynd yn angof dros gyfnod o amser yn hytrach na’u haddasu nhw.

“Gadewch iddo fynd allan o brint,” meddai.

Beth sydd wedi cael ei newid?

Mae’r gair ‘enormous’ bellach yn cael ei ddefnyddio yn lle ‘fat’ yn Charlie and the Chocolate Factory, yn ôl adroddiadau.

Mae’r gair ‘ugly’ wedi’i ddileu wrth ddisgrifio Mrs Twit o’r Twits, cyfrol sydd wedi’i golygu ymhellach fel ei bod yn dileu’r cyfeiriad at “weird African language”.

Does dim lle bellach, chwaith, i’r geiriau ‘crazy’ a ’mad’ gan y gallen nhw sarhau pobol â salwch iechyd meddwl.

Ac erbyn hyn, fydd Matilda ddim yn cael ei tharo’n “fflat”, ond yn hytrach yn cael “right talking to”.

Yn y newid rhyfeddaf, dydy côt y BFG ddim bellach yn ddu.