Mae’r Celtiaid ac Iwerddon wedi cael dylanwad mawr ar waith y crefftwr sydd wedi dylunio Cadair Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni.
Fis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y byddai coedyn o’r Lôn Goed yn cael ei ddefnyddio i greu’r Gadair.
Cafodd Stephen Faherty, crefftwr 50 oed sy’n arbenigo mewn cerflunio ac sy’n byw ger Rhuthun ond yn hanu o Brenteg ger Porthmadog, ei ddewis i greu’r Gadair.
Ei dasg oedd defnyddio darn mawr o goeden dderw gafodd ei phlannu dros 200 mlynedd yn ôl ar ymyl y Lôn Goed, sef y llwybr sy’n adnabyddus o’r gerdd Eifionydd gan R Williams Parry.
Dyma dro cyntaf Stephen Faherty yn rhoi cynnig ar greu Cadair o’r fath.
‘Sgleinio’ a ‘thynnu llygaid’
Cyflwynodd Stephen Faherty ei gynllun i banel o swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol a theulu’r diweddar Dafydd Orwig, cyn-gynghorydd ac arweinydd Cyngor Gwynedd ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, sy’n noddi’r gadair.
“Roedd Stephen wedi creu model o’r gadair ac wedi dod â fo i’r cyfarfod,” meddai Huw Orwig, mab y diweddar gynghorydd.
“Ro’n i wedi fy syfrdanu a dwi’n siŵr nad y fi oedd yr unig un ac fe gafodd Stephen y comisiwn.”
Dechreuodd y gwaith yn ystod yr hydref pan gafodd y bonyn ei gludo i’r gweithdy, ac mae’n naddu’r gadair o’r bonyn yn hytrach na’i dorri i fyny a’i siapio i ffurf cadair.
Bydd y Gadair orffenedig yn un o’r ychydig rai fydd wedi’u naddu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Dwi’n credu mai dim ond un arall sydd wedi ei chreu fel hyn,” meddai’r crefftwr wedyn.
“Mae’n ddarn arbennig o bren ac mae o’n gweddu i’w gerfio i gadair.
“Wrth gwrs, dwi wedi gorfod defnyddio llif i dorri’r bonyn yn siâp cadair ond mae’n gadair sy’n cael ei chreu o un darn o bren.”
Ychwanegodd fod y bonyn, sy’n pwyso tua 150kg (330 pwys neu 23 stôn), wedi ei ffurfio i siâp y Gadair y diwrnod cyntaf.
“Fy mwriad o’r cychwyn cyntaf yw gadael y bonyn i siarad drosto ei hun,” meddai.
“Mae graen prydferth i’r bonyn a dwi am i hwnnw ddod allan a sgleinio.
“Yn bendant bydd yn tynnu llygaid!”
Hanes y Celtiaid yn dylanwadu
“Dydw i heb wneud Cadair fel hon o’r blaen a doeddwn ddim wedi meddwl am wneud chwaith,” meddai Stephen Faherty wedyn, wrth drafod ei ysbrydoliaeth.
“Doedd gen i ddim cefndir Eisteddfodol er fy mod yn cofio’r un ym Mhorthmadog yn 1987 wrth gwrs.
“Fy ffrind, Bleddyn, awgrymodd fy mod yn rhoi cynnig arni.
“Doeddwn i ddim yn gwybod be’ i’w ddisgwyl pan es i draw i weld y bonyn gynta’ a ddim yn siŵr y baswn yn medru gwneud cadair chwaith ond fe welais y posibiliadau yn syth ar ôl cyrraedd.
“Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y Celtiaid a’u harfer o godi cerrig hir.
“Mae yna un heb fod ymhell o’r Lôn Goed a wnes i feddwl y byddai’n bosib gwneud rhywbeth tebyg efo’r bonyn yma.
“Ar ôl mesur ac archwilio’r bonyn yn fanwl, ro’n i’n siŵr.”
Taith i Iwerddon
Fel rhan o’r cynllun, a hynny’n cadw at ddymuniadau’r teulu, bydd darn o lechen o ardal enedigol Dafydd Orwig yn cael ei ysgythru gyda’r Nod Cyfrin a’i osod ar ben y bonyn.
Y bwriad hefyd yw rhoi darn arall o lechen ym mraich y Gadair, lle mae hollt naturiol yn y bonyn ar hyn o bryd.
Gan fod Dafydd Orwig wedi treulio bron i ddegawd yn byw ym mhentref Carnew yn Swydd Wicklow, Iwerddon wedi i’w dad dderbyn swydd rheolwr mewn chwarel yno, mae’r teulu a Stephen Faherty yn gobeithio teithio i Iwerddon i ddod o hyd i ddarn o lechen addas i gymryd ei le yn y Gadair.
Bydd y siwrnai yn un hiraethus iddo, gan fod ei ddiweddar dad wedi ei eni a’i fagu yn swydd Connemara yng ngorllewin Iwerddon, ac wedi teithio i Gymru yn ystod y 1960au i weithio ar adeiladu atomfa Trawsfynydd ger Blaenau Ffestiniog.
Wedi cwblhau’r atomfa, arhosodd yn yr ardal i fagu ei deulu.
“Roedd yn gweld tebygrwydd rhwng Eifionydd a Connemara ac yn dweud hynny’n aml gan ychwanegu fod gwaith yma yng Nghymru ac nid yn ei fan enedigol,” meddai.
“Roedd yn siarad Gaeleg ac yn gwrando ar y newyddion ar radio Iwerddon.
“Doeddwn ddim yn deall ond ambell i air, ond roedd yn dysgu rhywfaint inni.
“Cyn noswylio ro’n i’n cyfri i ddeg yn yr iaith.”
Wedi byw yn yr Unol Daleithiau, Sbaen ac ambell fan yn Lloegr, mae’n falch o’r cyfle i ddod yn ôl i Gymru.
Un o’i obeithion yw creu cyfres o gerfluniau o bobol amlwg a’u gosod mewn mannau priodol.
“Y cerflyn cyntaf i mi ei greu oedd yr un o William Alexander Maddocks ar y Cob ym Mhorthmadog, ond dwi’n awyddus i greu cerfluniau o bobol fel Twm o’r Nant a Dic Aberdaron a’u gosod yn agos i le roeddan nhw’n byw,” meddai.
“Gawn ni weld os daw’r freuddwyd yn wir.”