Fel sawl un ohonoch, mae’n siŵr, wnes i dreulio llawer iawn mwy o amser ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo. Trwy Twitter, ddes i’n ymwybodol o gyfrif newydd cyffrous o’r enw ‘Doctor Cymraeg’. Mwynheuais hiwmor y sylwadau, a hefyd dysgais fwy am ramadeg y Gymraeg – dyna gyfuniad annisgwyl!
Roedd sawl llinyn trafodaeth hefyd yn teimlo fel rhyw fath o barti i nyrds iaith, gyda chyfieithwyr, ysgolheigion, a dechreuwyr pur yn cyfrannu’n frwd, gan drafod pwyntiau o ddiddordeb. Bu hefyd yn gofod i ddathlu llwyddiannau dysgwyr ac annog darpar-ddysgwyr yr iaith.
Roedd ‘Doctor Cymraeg’ hefyd yn hyrwyddo ei lyfrau cysylltiedig, megis ‘Cymraeg efo Ffrind’ a ‘Cymraeg wrth Foncio’! Nawr te, nid wyf yn gwybod y rheol treiglo sydd ar waith fa’ma, gan newid ‘boncio’ i ‘foncio’… ond o leiaf os medraf gofio teitl y llyfr, mae gen i enghraifft gadarn… rhag ofn bod angen i mi sgwennu hyn rywbryd!
Mae fformiwla Doctor Cymraeg wedi bod yn hynod o boblogaidd, ac mae ganddo 11,900 o ddilynwyr ar Twitter – gan gynnwys rhai ‘dysgwyr’ enwog iawn.
A des i i nabod ‘Doctor Cymraeg’ ychydig trwy sgyrsiau ar-lein, er nad oeddwn erioed wedi ei gyfarfod wyneb yn wyneb, nac ychwaith yn gwybod dim byd amdano – ddim hyd yn oed ei enw; ffenomenon fodern iawn, ynte.
Cwrdd â datblygu syniadau…
Yna un diwrnod, gwanwyn diwethaf, es i draw i Lyfrgell yr Wyddgrug i gymryd rhan mewn gŵyl lyfrau a sgwennu; roeddwn wedi cael cynnig bwrdd a slot ar y rhaglen ar ôl holi amdani trwy Fenter Iaith Fflint a Wrecsam.
Cyrhaeddais â llond bag o gylchgronau, megis Barddas, lle rwy’n cyhoeddi fy ngholofn ‘O’r Gororau’, a rhai eraill lle rwy’ wedi cyhoeddi cerddi yma ac acw. Roedd gen i hefyd un llyfr copi caled – y blodeugerdd dwyieithog A470, sy’n cynnwys fy ngherdd ‘Cynhadledd yn y Gwesty Gwyrdd’ (a’r cyfieithiad).
Ond roeddwn yn genfigennus iawn o fwrdd Stephen Rule – enw go iawn Doctor Cymraeg – oherwydd roedd ganddo lond bwrdd ohonynt! Wrth drafod, ges i hanes taith cyhoeddi’r llyfrau, y siwrne trwy fyd cyhoeddwyr Cymraeg, hyd at hunangyhoeddi a’i fuddion. Erbyn diwedd y sgwrs roeddwn wedi fy argyhoeddi taw dyma’r ffordd orau i mi fynd ati i gyhoeddi fy ngwaith i.
Yna, wrth gwrs, wnaeth bywyd ymyrryd, ac mae prysurdeb wedi fy atal rhag acshyli cyrraedd pwynt o gynhyrchu cyfrol newydd, gaiff ei chyhoeddi’n gopi caled… ond rwy’ ar fy ffordd… mwy am hyn mewn erthyglau ar y gweill!
O Dregaron i’r Saith Seren…
Draw yn Eisteddfod Tregaron, dechreuais rili ddod i nabod Stephen, a datblygodd ryw agwedd gystadleuol i ddechrau, gan blagio ein gilydd am bwy oedd yn fwy ‘Welsh famous’ ac yn nabod y nifer fwyaf o bobol oedd yn ‘Welsh famous’. Yna, trodd rhain yn drafodaethau o sut fedrwn weithio hefo’n gilydd.
Mewn sawl ffordd, rwy’ dal yn ‘ddysgwr’, er i mi siarad Cymraeg o’r crud. Oherwydd anghenion addysgol arbennig, mae gafael mewn llythrennedd o gwbl wedi bod yn her, ac er i mi wario blynyddoedd yn astudio, mae treigladau a ballu dal yn ddirgelwch i mi.
Un o’r cynlluniau diddorol sydd gen i ar y gweill, felly, hefo Doctor Cymraeg a hefyd (gobeithio) Aran Jones o ‘Say something in Welsh’, yw ffeindio ffyrdd creadigol i harneisio rhai o fy medrau i daclo’r heriau sydd i mi goncro’r gremlins iaith sy’n tarfu arnaf.
Hynny ydy, medraf ailadrodd sgript gyfan i ffilmiau megis Mary Poppins, ond methu cofio yr un rheol ramadegol – a hynny er i mi ddarllen cryn dipyn o lyfrau Cymraeg dros y blynyddoedd (cyn i neb gynnig hynny fel datrysiad!)
Siwrne podlediad ar hyd sbectrwm yr iaith…
Anodd iawn yw ceisio cynllunio rhywbeth fydd yn plesio pawb. Yn wir, mae yna fan cyfaddef nad yw hynny’n bosib o gwbl. Mae ‘Taith Iaith’ pawb yn unigol, ac rydym ni i gyd ar lefydd gwahanol ar hyd y sbectrwm iaith.
Ond dyma ni’n taro ar y syniad, felly, o ddechrau trwy gyfrwng y Saesneg, gan esbonio rhai rheolau a geiriau, a hefyd cael bach o hwyl hefo cerddoriaeth ac enwau lleoedd. Yna, dod â mwy o Gymraeg mewn fesul pennod, gan osod llwybr clir i wrandawyr ei ddilyn.
Ys gwn i faint ohonoch sy’n cofio’r hen raglenni deledu yn y 1990au oedd yn datgan bod y rhaglen wedi ei pherfformio ‘o flaen cynulleidfa fyw’? Rhaglenni comedi gan amlaf. Ac felly, dyma anelu am yr un syniad gan gatecrash-io noson gyfarfod ‘Clwb Clebran’ Wrecsam, sy’n cwrdd yn y Saith Seren bob nos Iau am 7.30yh.
Rydym am fynd ati i berfformio a recordio pennod gynta’r podlediad ar nos Iau, Chwefror 23. Os dych chi’n digwydd bod yn yr ardal, beth am ddod draw i fod yn rhan o’r gynulleidfa?