Fe fydd pennod nesa’r gyfres Stori’r Iaith ar Ddydd Gŵyl Dewi yn adrodd hanes perthynas y digrifwr Elis James â’r Gymraeg.

Mae’r gyfres ddogfen newydd sbon ar S4C wedi bod yn dilyn trywydd hanes y Gymraeg, a pherthynas unigryw pedwar cyflwynydd gwahanol â’r iaith.

Bydd y digrifwr o Sir Gaerfyrddin yn edrych yn ôl dros ganrif heriol yn hanes y Gymraeg, ac ar rai o’r newidiadau mwyaf tyngedfennol yn ei hanes, gan holi am ei dyfodol hefyd.

Cafodd Elis James, sydd hefyd yn ddarlledwr ac yn bodlediadwr, ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, a threuliodd ei blentyndod yng Nghaerfyrddin ar aelwyd Gymraeg.

Mae bellach yn byw yn Llundain â’i bartner Isy Suttie, digrifwraig sy’n hanu o Swydd Derby, a’u dau o blant.

“Mae ein stori ni’n debyg i stori miloedd o bobol,” meddai Elis James.

“Bydden i’n teimlo’n euog iawn taswn i ddim yn treial pasio hwnna ymlaen, ond fi’n trio fy ngorau.”

‘Dydy’r Gymraeg ddim yn marw’

Yn ystod y rhaglen, mae Elis James yn cwrdd â’r Athro David Crystal, yr ieithydd o Sir Fôn.

Wrth ddarllen ei lyfr, Language Death, fe wnaeth yr awdur ateb llawer o gwestiynau oedd gan y digrifwr.

Mae 6,000 o ieithoedd yn y byd, gydag un yn marw bob pythefnos, ond dydy’r Gymraeg ddim ar y rhestr honno, yn ôl David Crystal.

Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae un iaith leiafrifol arall wedi cyrraedd hyn yn barod, sef Basgeg, ac mae Elis James yn ymweld â Donostia, neu San Sebastian, lle mae’r iaith ar ei chryfaf.

Mae’n clywed am gyfnod pan oedd yr iaith wedi’i gwahardd, a’r adfywiad anhygoel sy’n golygu ei bod hi’n mynd o nerth i nerth.

Roedd canol yr ugeinfed ganrif yn gyfnod cythryblus i’r iaith, a bydd Elis James yn mynd ar drywydd hanes rhai o’r arwyr sydd wedi brwydro dros y Gymraeg.

Yn eu plith mae Trefor ac Eileen Beasley, a’u safiad o wrthod talu bil treth tan eu bod nhw’n derbyn un Cymraeg; Saunders Lewis a’i araith enwog Tynged yr Iaith yn 1962; Gwynfor Evans yn herio’r llywodraeth am fynd yn ôl ar eu haddewid o sefydlu sianel Gymraeg; a Dafydd Iwan a’r ymgyrch am arwyddion dwyieithog.

“Mae’n rhaid i chi rhoi gymaint o barch i’r protestwyr a’r bobol oedd yn ymgyrchu ar y pryd,” meddai Elis James.

“Achos mae beth wnaethon nhw… dyw e ddim byd llai na chwyldro.”

Agweddau at y Gymraeg

Mewn sgwrs gyda chriw o gefnogwyr pêl-droed Cymru, bydd Elis James yn trafod y newid mewn agweddau tuag at y Gymraeg ar y terasau, a sut mae hynny wedi treiddio trwy’r gymdeithas yn ehangach dros y blynyddoedd diweddar.

Bydd hefyd yn holi am ddyfodol yr iaith, a pha mor barod ydyn ni ar gyfer y newid ieithyddol fydd yn digwydd wrth ddenu siaradwyr newydd.

“Mae Cymraeg yn ddarn o jigsô’r byd,” meddai.

“Mae e’n fwy na ffordd o gyfathrebu, mae e’n ffordd o fyw, yn ffordd o edrych ar y byd.”

Mae penodau blaenorol o Stori’r Iaith gyda Sean Fletcher, Lisa Jên ac Alex Jones ar gael i’w gwylio ar alw ar S4C Clic.