Mae perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon yn cefnogi Cyngor Llyfrau Cymru ar ôl iddyn nhw ddweud yn ddiweddar fod angen codi prisiau llyfrau er mwyn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi.

Mae costau llyfrau Cymraeg wedi bod yn sefydlog ers blynyddoedd, ac yn rhatach na llyfrau Saesneg ar y cyfan.

Er bod cyhoeddwyr wedi ceisio cadw prisiau i lawr, dydy hi ddim yn bosib peidio codi prisiau o gwbl erbyn hyn, yn ôl Eirian James.

Dydy hi ddim yn siŵr sut y bydd cynnydd mewn prisiau llyfrau’n effeithio ar werthwyr llyfrau, meddai, ond mae hi’n teimlo’n gryf y dylen nhw gael eu codi i dalu awduron a chyhoeddwyr yn deg, yn enwedig gan fod costau cynhyrchu yn codi.

“Does neb eisiau gweld prisiau llyfrau yn codi,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n teimlo ei fod yn anorfod ei fod e am ddigwydd, oherwydd mae pris papur, pris inc ac yn y blaen wedi codi.

“Mae hwnnw’n cael effaith, yn enwedig ar ein cyhoeddwyr ni sydd hefyd yn printio.

“Rwy’n teimlo’n gryf y dylai awduron gael eu talu am eu gwaith; mae o’n bwysig bod y cyhoeddwyr yn gallu talu eu ffordd.

“Mae cyhoeddwyr wedi bod yn ceisio cadw costau i lawr oherwydd eu bod nhw’n ymwybodol bod gwasgfa ar gyllid pawb.

“Mae’n naturiol eu bod nhw eisiau cadw costau lawr, ond yn naturiol mae costau cynhyrchu yn codi iddyn nhw.

“Byddwn yn meddwl ei fod yn rywbeth mae cyhoeddwyr yn gorfod gwneud o flwyddyn i flwyddyn a’u bod nhw yn edrych ar bethau fel yna.

“Does neb eisiau talu mwy ond mae’n anorfod wrth fod costau tanwydd a phethau felly yn codi, pris papur ac inc ac yn y blaen.

“Dwi ddim yn meddwl ei fod yn stori negyddol, rwy’n meddwl ei fod yn stori bositif.

“Mae’n stori realistig.”

Effaith ar bryniant

Dydy Eirian James ddim yn siŵr faint fydd codi costau’n effeithio ar bryniant, ond dydy hi ddim yn meddwl bod codi’r prisiau rywfaint am wneud llawer o wahaniaeth i’r rhan fwyaf o bobol.

Mae hi’n gweld darllen yn ddiddanwch rhatach na llawer o weithgareddau hamdden eraill.

“Mae’n dibynnu faint maen nhw’n codi costau llyfrau, os yw pobol am eu prynu,” meddai.

“Dydy o ddim dim ond am y siopau.

“Mae’n hawdd i fi ddweud dydy £10 ddim yn llawer i dalu am lyfr; os mai dim ond £10 sydd gennyt ti, wrth gwrs mae hynny’n lot.

“Pan dw i’n cymharu llyfrau gyda phethau eraill, dw i’n meddwl eu bod nhw’n [cynnig] werth am arian.

“Wrth gwrs, mae pobol am edrych ar eu cyllideb bersonol nhw a phenderfynu.

“Rydym i gyd yn gwybod fod costau bwyd wedi mynd fyny.

“Rydym i gyd yn edrych ar ein cyllidebau, ond dwi ddim yn credu y gwneith rwystro pobol rhag prynu llyfrau.

“Ti dal yn gallu cael gymaint, gymaint allan o lyfr; faint o oriau o bleser wyt ti’n gallu cael allan o lyfr sy’n gymharol resymol?

“Mae’n rhatach na mynd allan am bryd o fwyd neu fynd i’r sinema, neu beth bynnag.

“Rwy’n siŵr y bydd pobol yn prynu llai o lyfrau, neu’n fwy pwrpasol yn eu prynu.

“Rydym ni fel siop yn fwy pwrpasol yn ein prynu ni.

“Mae’n anodd iawn ond dwi ddim yn gweld bod ychwanegu £1 at bris nofel newydd yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr o ran faint o bobol sy’n ei brynu fo ai peidio.

“Fyddai mynd o £8 i £9 ddim yn rhwystro fi rhag prynu llyfr ond alla i ddim dweud bod hynny’n wir i bawb.

“Dw i mewn sefyllfa ffodus iawn, ond yn ymwybodol fod llawer o bobol ddim.”

Llyfrgelloedd a siopau ail law

Gyda’r cynnydd mewn prisiau, a fydd mwy o bobol yn troi at lyfrgelloedd i fenthyg llyfrau neu at siopau ail law i’w prynu’n rhatach?

“Mae’n falans,” meddai Eirian James wedyn.

“Efallai os fyswn i ddim yn berchen siop lyfrau, byddwn yn dweud, ‘Wna’i fynd i’r llyfrgell i ’nôl hwnna’.

“Dw i’n gwybod fod llawer o’n cwsmeriaid ni’n gwneud hynny.

“Mae hynny’n fine.

“Beth sy’n bwysig yw bod pobol yn darllen ac yn cael pleser o ddarllen.”

Yn ôl Eirian James, yn groes i gred nifer o bobol, mae llyfrau Cymraeg yn rhad er eu bod nhw wedi bod yn codi’n raddol.

Mae’r diwydiant yng Nghymru yn ceisio cadw prisiau i lawr, yn enwedig llyfrau plant, er mwyn i bobol eu darllen.

“Mae yna syniad allan yna ymhlith rhai pobol fod llyfrau Cymraeg yn ddrud,” meddai. “Dydyn nhw ddim.

“Mae llyfrau Cymraeg, yn gyffredinol, yn rhesymol iawn.

“Pan dw i’n mynd o gwmpas y siop fan hyn, gei di lawer mwy am £15 yn Gymraeg nag yn Saesneg.

“Dw i’n gwybod fod y diwydiant yng Nghymru drwyddi draw yn gwneud ymdrech i gadw prisiau llyfrau plant i lawr er mwyn eu gwneud nhw’n accessible i gymaint o bobol ag sy’n bosib.

“Dw i’n meddwl bod hynny yn bwysig, ond mae rhaid i ni hefyd gydnabod fod y cyhoeddwyr a’r awduron angen ennill eu tamaid.

“Dw i’n meddwl bod y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gwneud eu gorau i fod mor gynnil â phosib.

“Rydym i gyd yn gorfod edrych ar ein costau o flwyddyn i flwyddyn.

“Hynny yw, dw i’n meddwl bod prisiau llyfrau yn codi’n raddol bach.

“Dw i’n meddwl ’nôl i ugain mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n cychwyn, roedd ambell nofel ar y silff oedd yn £5.95.

“Ti’n gweld pan mae rhywun yn argraffu rhywbeth, mae’r pris yn codi i adlewyrchu’r cynnydd mewn costau, mewn ffordd.

“Dydw i ddim yn siŵr os yw prisiau llyfrau Cymraeg yn artiffisial o isel, dw i ddim yn meddwl eu bod nhw.

“Dw i’n meddwl eu bod yn cadw prisiau i lawr i roi gymaint o access â phosib i gymaint o bobol â phosib, i gymaint o lyfrau â phosib.

“Dydy hwn ddim yn rhywbeth newydd.

“Byddwn dal i ddweud bod llyfrau yn gyffredinol, a llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru, yn good value for money.”

Cymhariaeth â llyfrau Saesneg

Yn ôl Eirian James, yn y blynyddoedd diwethaf mae prisiau llyfrau Saesneg wedi cynyddu, yn enwedig rhai clawr caled.

Dydy hi ddim yn meddwl ei fod yn beth da i siopau llyfrau bach fod llyfrau clawr caled wedi codi i’r fath raddau, er bod gan gyhoeddwyr gostau uwch.

“O ran y gymhariaeth efo prisiau llyfrau Saesneg, rydyn ni wedi sylweddoli bod prisiau llyfrau Saesneg wedi codi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf,” meddai.

“Mae paperbacks, er enghraifft, wedi mynd o £8.99 i £9.99.

“Rydym wedi gweld rhywfaint o hyn yn digwydd.

“Dw i ddim yn gwybod os yw hynny yn gwneud digon o wahaniaeth i bobol feddwl, ‘Wna’i ddim prynu hwnna’.

“Ble dw i yn ei weld yn cael impact gyda llyfrau Saesneg yw gyda llyfrau clawr caled, lle roedd pobol yn hapus i dalu £15 yn achlysurol am nofel newydd clawr caled oherwydd bod e’n hoff awdur nhw neu beth bynnag.

“Dw i’n meddwl ei fod yn anodd i bobol gyfiawnhau talu £22.

“Dw i ddim yn siŵr beth yw’r logic tu ôl i hwnna.

“Dw i’n meddwl am y tai cyhoeddi mawr, pobol fel Penguin a Harper Collins a rheina.

“Dydyn nhw ddim dim ond yn codi prisiau llyfrau newydd, ond y core stock, y pethau rydym wastad yn eu cadw ar y silff.

“Mae’n fy mhoeni i weithiau, ydy cyhoeddwyr yn codi prisiau yn artiffisial o uchel er bod siopau mawr yn gallu cynnig disgownt.

“Dw i ddim yn meddwl bod hwnna’n dda i’r diwydiant mewn unrhyw fath o ffordd.

“Dw i ddim yn meddwl bod hwnna yn rywbeth sy’n digwydd yn y diwydiant yng Nghymru i’r un graddau.

“Alla i ddim siarad ar ran y cyhoeddwyr Saesneg, ond cyhoeddwr mawr fel Penguin, efallai eu bod nhw’n heicio prisiau i adlewyrchu costau cynhyrchu.

“Os maen nhw’n printio rhywbeth yn Tsieina, maen nhw’n gorfod ship-io fo mewn i wledydd Prydain, felly mae hwnna’n cael ei adlewyrchu yn y pris mae rhywun yn talu wrth y til, o bosib.

“Dw i’n meddwl y byddai rhaid siarad efo’r cyhoeddwyr ynglŷn â hynny.”