Mae corff llenyddol newydd eisiau i’r Cymry ddechrau traddodiad o brynu llyfr yn anrheg i anwyliaid ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Ar Chwefror 27, rhannodd Cyhoeddi Cymru/Publishing Wales y neges yma ar eu cyfrif Twitter, ac mewn swigen goch oddi tano, roedd y geiriau ‘Wyddech chi? Ar ddiwrnod Sant Jordi yng Nghatalonia – bydd pobol yn rhoi rhosyn neu lyfr i’w gilydd’.

 

 

Gofynnodd golwg360 i Gyngor Llyfrau Cymru, oedd wedi aildrydar y neges, a fydden nhw’n hoffi gweld y traddodiad yma yn cydio yng Nghymru.

“Mae’r syniad o brynu llyfr yn anrheg i rywun ar Ddydd Gŵyl Dewi yn syniad hyfryd,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau.

“Mae llyfr ar gael i blesio pawb ac mae’n ffordd wych o wneud y #PethauBychain a dangos i rywun eich bod chi’n meddwl amdanyn nhw – ac i gefnogi’ch siop lyfrau leol hefyd.”

Ar Chwefror 25, fe bostiodd Cyngor Llyfrau Cymru y neges hon ar eu cyfrif Twitter:

Cofiwch Ddiwrnod y Llyfr hefyd

Fe bostiodd Cyngor Llyfrau Cymru neges arall ar Twitter ar Chwefror 26, y tro yma yn hyrwyddo Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 2:

Yn y neges roedd linc i stori yn crynhoi’r hyn mae’r Cyngor Llyfrau yn ei wneud i hybu Diwrnod y Llyfr eleni.

Mae Diwrnod y Llyfr yn bodoli “i annog mwy o blant, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, i gael budd o’r arfer o ddarllen er pleser ar hyd eu hoes”.

Mae Cyngor Llyfrau yn cydweithio gydag elusen World Book Day a sefydliadau eraill i rannu llyfrau i ysgolion, a chymunedau breintiedig.Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd wedi sicrhau bod rhai llyfrau Cymraeg i blant ar gael ar werth am £1, sef Gwisg Ffansi Cyw a Lledrith yn y Llyfrgell gan Anni Llŷn; Ha Ha Cnec! gan Huw Aaron; a Stori Cymru – Iaith a Gwaith gan Myrddin ap Dafydd.

“Mae dathlu darllen er pleser, a gwneud llyfrau’n hygyrch i bawb, wrth galon ein gwaith ni yn y Cyngor Llyfrau,” meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

“Rydw i wrth fy modd yn cael gweithio gyda’n ffrindiau yn World Book Day a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i sicrhau bod llyfrau ar gael drwy eu rhwydweithiau hwy eleni, ac rwy’n gobeithio y bydd plant, pobol ifanc a’u teuluoedd yn dod o hyd i lyfrau fydd yn eu diddanu a’u hysbrydoli.”

Pwy yw Cyhoeddi Cymru/Publishing Wales?

Cafodd y corff dwyieithog Cyhoeddi Cymru ei sefydlu yn 2021 a’i ffurfioli yn ystod haf 2022 – gyda’r nod o ddatblygu gwaith cyhoeddi o Gymru a’i hyrwyddo i’r byd.

Cafodd ei ffurfio gan grŵp o dai cyhoeddi, sef Gwasg Prifysgol Cymru, Graffeg, Gwasg Addysgol Cymru, Crown House, Y Lolfa, Firefly Press, Honno a Parthian.

Mae tua 25 o dai cyhoeddi a chyhoeddiadau yn aelodau o’r corff, gan gynnwys Rily, Gwasg Carreg Gwalch, ac Aderyn Press.

Fe fydd cynrychiolwyr Cyhoeddi Cymru yn teithio i ffeiriau llyfrau rhyngwladol – fel rhai Llundain, Frankfurt a Köln – er mwyn “ennill cydnabyddiaeth ryngwladol i gyhoeddi o Gymru”.

Un o amcanion eraill y corff yw ennyn trafodaeth ymysg y gweisg yng Nghymru ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y byd cyhoeddi drwy Brydain a thu hwnt.

Dyma flas o’r diwrnod sy’n cael ei ddathlu yng Nghatalwnia ar Ebrill 23 bob blwyddyn.