Fe fydd ‘NON’ yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Mawrth 2), i lansio cysyniad ‘Diwrnod Non’.
Yn dilyn blwyddyn o waith ymchwil i gynaladwyedd yng Nghymru fel rhan o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, mae Heledd Wyn wedi dyfeisio gwaith theatrig a pherfformiad promenâd o NON, sef dathliad o fam Dewi Sant, y fam ddaear, a’i ddysgodd i wneud y pethau bychain, i arafu, i fyfyrio, i rannu gweledigaeth dyner.
Drwy rannu saith stori am y cnwd cywarch a chodi ymwybyddiaeth o gnydau bwyd a chynaliadwyedd Cymru’r Dyfodol, lles ac ymateb cadarnhaol i’r argyfwng hinsawdd, bydd Rhys Slade Jones yn portreadu Non, gydag elfennau symbolaidd o Theatr Noh (ffurf o ddrama ddawns glasurol o Japan), i gyplusu ac adrodd straeon am ddefnydd a phwysigrwydd cywarch ar hyd yr oesoedd: o saith mil o flynyddoedd yn ôl i’r dyfodol.
Bydd symudiadau a straeon pwrpasol a lliwgar am ffermwyr a phob un ohonom sy’n breuddwydio am fyd gwell yn y dyfodol.
Wedi’i wisgo mewn gwisg theatrig syfrdanol, bydd NON yn arwain y dorf trwy daith o amgylch lleoliad tawel a gwyrddni coed fel rhan o berfformiad symbolaidd, myfyriol, emosiynol a phersonol, gyda delweddau trawiadol ac eiliadau hyfryd fydd yn gofyn i’r gynulleidfa ystyried a myfyrio ar wneud y pethau bychain.
Pe bawn ni fel cenedl i gyd yn diffodd un peth ar ddiwrnod Non, sef Gŵyl Banc Cenedlaethol ar Fawrth 1, fe fyddai ystadegau yr impact amgylcheddol yn syfrdanol.
Heledd Wyn
Mae Heledd Wyn eisioes wedi sicrhâu perfformiadau cyhoeddus ar gyfer eleni, gan gynnwys yn y Senedd yng Nghaerdydd, yr Eisteddfod, ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, ond mae angen cefnogaeth i gynllunio, creu a pherfformio’r gwaith.
Fel cyfarwyddwr creadigol, mae Heledd Wyn yn artist gweledol, cyfarwyddwr a chynhyrchydd angerddol a phrofiadol sy’n creu straeon dramatig a chynnwys creadigol ar gyfer ffilm, arddangosfeydd a theledu.
Mae hi wedi gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu ac o fewn y byd addysg, ac wedi ennill enw da am gyflwyno prosiectau o ansawdd.
Mae’r perfformiwr Rhys Slade-Jones yn pontio cabaret, perfformio a chrefft ac yn ymdrin â syniadau am le, hanes, a hunaniaeth.
Daeth ei syniad ar gyfer ‘NON’ o weithio am flwyddyn fel Cymrawd Cymru’r Dyfodol, rhaglen sydd wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i geisio ffyrdd creadigol o fynd i’r afael â Chyfiawnder yr Hinsawdd.
Bu’n canolbwyntio ar botensial mawr cywarch i Gymru, o ran olew, ffibr, protein a llaeth.