“Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023”, meddai Cyngor Llyfrau Cymru ar Ddiwrnod y Llyfr heddiw (dydd Iau, Mawrth 2).

Eleni, mae ganddyn nhw’r nod o weithio mewn partneriaeth i helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at lyfrau a darllen.

Pryd mae Diwrnod y Llyfr?

Eleni, mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, Mawrth 2.

Beth yw Diwrnod y Llyfr?

Diwrnod sydd wedi’i ddynodi’n arbennig i sicrhau bod pob plentyn yn gallu datblygu cariad at ddarllen yw Diwrnod y Llyfr.

Bydd Diwrnod y Llyfr yn darparu nifer fawr o gyfleoedd i sicrhau bod teuluoedd a phlant yn cael nodi’r diwrnod mewn dulliau hwyliog a fforddiadwy sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw.

Mae Diwrnod y Llyfr yn bodoli i annog mwy o blant, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, i gael budd o’r arfer o ddarllen er pleser ar hyd eu hoes.

Bob blwyddyn, gyda chefnogaeth eu noddwr hirdymor National Book Tokens, a thrwy weithio ochr yn ochr â chyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn dosbarthu dros bymtheg miliwn o docynnau llyfrau £1/€1.50 ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon drwy ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, carchardai ac elusennau eraill.

Does dim cost o gwbl ynghlwm â hawlio llyfr £1 Diwrnod y Llyfr.

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â World Book Day a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i ddosbarthu dros 10,000 o lyfrau am ddim, yn Gymraeg a Saesneg, i fanciau bwyd a phrosiectau cymunedol ledled Cymru.

Bydd y detholiad yn cynnwys teitlau £1 Diwrnod y Llyfr yn ogystal â llyfrau eraill i blant ac oedolion ifanc eu mwynhau.

Caiff llyfrau eu dosbarthu i fanciau bwyd drwy gydol 2023.

Beth mae Cyngor Llyfrau Cymru’n ei ddweud?

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Mae dathlu darllen er pleser, a gwneud llyfrau’n hygyrch i bawb, wrth galon ein gwaith ni yn y Cyngor Llyfrau,” meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

“Rydw i wrth fy modd yn cael gweithio gyda’n ffrindiau yn World Book Day a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i sicrhau bod llyfrau ar gael drwy eu rhwydweithiau hwy eleni, ac rwy’n gobeithio y bydd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn dod o hyd i lyfrau fydd yn eu diddanu a’u hysbrydoli.”

Mae’r Cyngor Llyfrau’n cydweithio â World Book Day a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol.

Beth mae Diwrnod y Llyfr yn ei ddweud?

“Cenhadaeth ein helusen yw newid bywydau drwy gariad at lyfrau a darllen,” meddai Cassie Chadderton, Prif Weithredwr World Book Day.

“Yn 2023, wrth i’r argyfwng costau byw roi pwysau cynyddol ar deuluoedd ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at lyfr yn y cartref.

“Gyda gostyngiad yn y rhai sy’n darllen er pleser, a’r niferoedd ar eu lefel isaf ers 2005, mae hyn yn bwysicach nag erioed.

“Y llynedd, cafodd dros ddwy filiwn o lyfrau eu rhoi i blant gan lyfrwerthwyr a chyhoeddwyr, ac eleni rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddathlu gyda theuluoedd, cymunedau ac ysgolion, a gweld sut y bydd plant yn gwneud Diwrnod y Llyfr yn eiddo iddynt hwy eu hunain.”

Beth mae’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol yn ei ddweud?

“Yn yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at lyfrau, fel y gallant ddarganfod y pleser o ddarllen,” meddai Jonathan Dougles, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol.

“Mae canfyddiadau ein hymchwil yn dangos bod cael llyfrau yn y cartref wedi’i gysylltu â lefelau darllen uwch a’r mwynhad o ddarllen ymhlith plant.

“Ac eto, mae un ym mhob deg plentyn rhwng wyth a 18 oed o gefndiroedd difreintiedig yn dweud nad ydyn nhw’n berchen ar yr un llyfr eu hunain gartref.

“Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â’n cyfeillion yn World Book Day a Chyngor Llyfrau Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma a chael llyfrau am ddim i ddwylo plant sydd eu hangen fwyaf.”

Pa becynnau neu adnoddau sydd ar gael?

Mae ystod eang o ddeunyddiau addysgol a phecynnau gweithgareddau i’w lawrlwytho, ac adnoddau ac offer ar-lein ar gael i athrawon, rhieni, gofalwyr a mwy, i ddod â darllen er pleser yn fyw i blant mewn dulliau cyffrous a pherthnasol.

Yng Nghymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru’n darparu adnoddau dwyieithog ar gyfer ysgolion, llyfrgelloedd cyhoeddus, siopau llyfrau, meithrinfeydd a sefydliadau eraill; mae’r Cyngor hefyd yn comisiynu llyfr £1 Cymraeg newydd bob blwyddyn.

Mae adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Bydd siopau llyfrau ym mhob rhan o Gymru’n cymryd rhan yn Niwrnod y Llyfr 2023, gan groesawu plant, teuluoedd, ysgolion a chymunedau lleol i ddewis llyfr a darganfod mwy am fyd cyffrous darllen.

Mae detholiad o deitlau Cymraeg ar gael i’w prynu gyda’r tocyn £1.

Pa lyfrau Cymraeg sydd ar gael yn benodol ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni, a sut mae cael gafael ar y llyfrau?

Y teitlau Cymraeg newydd eleni yw Gwisg Ffansi Cyw gan Anni Llŷn, ynghyd â Lledrith yn y Llyfrgell gan yr un awdur, Ha Ha Cnec! gan yr awdur, darlunydd a chartwnydd Huw Aaron; a Stori Cymru – Iaith a Gwaith gan Myrddin ap Dafydd.

Mae modd cyfnewid y tocynnau £1 Diwrnod y Llyfr am unrhyw lyfr £1 Diwrnod y Llyfr rhwng dydd Iau, Chwefror 16 a dydd Sul, Mawrth 26 mewn siopau llyfrau, siopau llyfrau cadwyn, a manwerthwyr sy’n rhan o’r cynllun.

Fel arall, mae modd eu defnyddio fel cyfraniad o £1 tuag at unrhyw lyfr arall.

Mae modd hefyd lawrlwytho’r tocyn digidol un-tro o wefan Diwrnod y Llyfr.

Sut mae cael hyd i ragor o wybodaeth am Ddiwrnod y Llyfr?

Gallwch ddod o hyd i’ch siop lyfrau annibynnol leol ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Ewch i wefan World Book Day, ac ymunwch yn y dathlu!