Unwaith eto eleni, mae Diwrnod y Llyfr yn dosbarthu dros bymtheg miliwn o docynnau llyfrau £1/€1.50 ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon drwy ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, carchardai ac elusennau eraill.

Yn ôl un o awduron y cynllun, mae’n “ofnadwy o bwysig” fod llyfrau ar gael i bawb.

Y teitl Cymraeg newydd eleni yw Gwisg Ffansi Cyw gan Anni Llŷn, ynghyd â Lledrith yn y Llyfrgell gan yr un awdur, Ha Ha Cnec! gan Huw Aaron, a Stori Cymru – Iaith a Gwaith gan Myrddin ap Dafydd.

Mae modd cyfnewid y tocynnau £1 Diwrnod y Llyfr am unrhyw lyfr £1 Diwrnod y Llyfr rhwng dydd Iau, Chwefror 16 a dydd Sul, Mawrth 26, mewn siopau llyfrau, siopau llyfrau cadwyn, a manwerthwyr sy’n rhan o’r cynllun.

Fel arall, mae modd eu defnyddio fel cyfraniad o £1 tuag at unrhyw lyfr arall.

Mae modd hefyd lawrlwytho’r tocyn digidol un-tro o wefan Diwrnod y Llyfr.

‘Dim pwynt ymgyrchu oni bai bod llyfrau ar gael’

“Mae Diwrnod y Llyfr yn ymgyrch enfawr i hybu darllen ond mae’n rhaid gallu gwneud siŵr bod yna lyfrau ar gael i bob plentyn os wyt ti am annog nhw i ddarllen,” meddai Anni Llŷn wrth golwg360, a hithau ar ei thrydedd tro yn ysgrifennu llyfr ar gyfer Diwrnod y Llyfr trwy Gyngor Llyfrau Cymru.

“Does yna ddim pwynt ymgyrchu a chodi sylw am drio cael plant i ddarllen oni bai bod yna lyfrau ar gael iddyn nhw a’u bod nhw’n gallu’u fforddio nhw, a bod pob plentyn yn gallu cael gafael ar un.

“Mae o’r un fath efo cefnogaeth i lyfrgelloedd a chefnogaeth i ysgolion allu darparu llyfrau, ond mae hwn jest yn ffordd arall o drio cael plant i arfer efo mynd i siop lyfrau a deall eu bod nhw’n gallu bod yn berchennog ar lyfr hefyd, a gobeithio y bydd hynna’n eu hannog i gario ymlaen i brynu llyfrau.

“Ond mae gallu cael llyfr am £1 neu am ddim yn golygu bod pob plentyn, beth bynnag ydy cefndir nhw, yn gallu cael gafael ar lyfr a’u cadw iddyn nhw eu hunain bach.

“Mae hynna’n ofnadwy o bwysig.”

World Book Day yn rhoi llwyfan i’r Gymraeg

Mae llyfrau Cymraeg y cynllun yn cael eu cynnwys ar restr World Book Day ar gyfer Prydain, ac nid dim ond Cymru.

Mae hyn yn golygu y gall plant yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddefnyddio eu tocynnau ar gyfer llyfrau Cymraeg.

“Mae World Book Day yn arddel llyfr Cymraeg ac mae hynny’n wych o ran rhoi’r Gymraeg ar lwyfan mor eang â phosib,” meddai Anni Llŷn.

“Mae yna gyfres o lyfrau Cyw sy’n uniaith Cymraeg, ond mae yna gyfres ohonyn nhw hefyd sydd efo’r testun yn Saesneg hefyd i rieni di-Gymraeg allu darllen gyda’u plant.

“Mae gallu rhoi unrhyw lyfrau Cyw ar lwyfan World Book Day yn agor y drws i weddill y llyfrau hefyd wrth gwrs.”

Diwrnod y Llyfr 2023: beth sydd angen ei wybod?

“Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023”