Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi mai Kate Wasserberg yw eu Cyfarwyddwr Artistig newydd.

Yn gyfarwyddwr hynod brofiadol ac uchel ei pharch, hi oedd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni ysgrifennu newydd Stockroom a The Other Room yng Nghaerdydd, ac mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau mawr sydd wedi teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Yn grëwr theatr arobryn, mae ganddi gysylltiad hir â Theatr Clwyd, gan wasanaethu’r Theatr yn rhagorol fel Cyfarwyddwr Cyswllt o dan arweiniad y diweddar Terry Hands, yn ogystal â chyfarwyddo’r cynyrchiadau poblogaidd All My Sons, Insignificance a The Rise and Fall of Little Voice yn y lleoliad yn Sir y Fflint.

“Rydw i mor falch o gael ymuno â’r tîm anhygoel yn Theatr Clwyd i fynd â’r sefydliad hynod yma ymlaen i ddyfodol disglair,” meddai, wrth ymateb i’w phenodiad.

“Mae gan Gymru’r artistiaid gorau yn y byd ac mae’n anrhydedd enfawr i mi gael y cyfle i wneud fy nghartref yno.

“Yn ein hadeilad newydd rhyfeddol, fe fyddwn ni’n creu cartref i gynulleidfaoedd, artistiaid a’r gymuned sydd o safon byd o ran y cynnyrch artistig a’r ffordd mae’n gofalu am bobol.

“Rydw i wedi gwylio gyda llawenydd y diwylliant o garedigrwydd ac uchelgais sy’n cael ei feithrin yn Theatr Clwyd, ac rydw i eisiau diolch i’r bwrdd am weld ynof i arweinydd a all barhau i adeiladu ar y gwerthoedd yma.

“Rydw i’n edrych ymlaen gymaint at ddechrau arni!”

Pwy yw Kate Wasserberg?

Yn un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig, roedd Kate Wasserberg yn Gyfarwyddwr Artistig Stockroom, yn Gyfarwyddwr Artistig a sefydlodd The Other Room yng Nghaerdydd, ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Theatr Clwyd a’r Finborough Theatre.

Mae ei chynyrchiadau wedi cynnwys The Glee Club, Close Quarters a Rita, Sue and Bob Too (Stockroom); Blasted, The Dying of Today, Play/Silence, Sand a Seanmhair (The Other Room); Aristocrats, Salt, Root and Roe, Glengarry Glen Ross, Roots, Gaslight, Dancing at Lughnasa, Pieces (hefyd Brits Off Broadway), The Glass Menagerie, A History of Falling Things, All My Sons, Insignificance a The Rise and Fall of Little Voice (Theatr Clwyd); Mirror Teeth, The Man, Sons of York, Little Madam, The Representative, I Wish to Die Singing a The New Morality (Finborough Theatre); The Barnbow Canaries (Leeds Playhouse); Ten Weeks (Paines Plough); The Knowledge (Dirty Protest yn y Royal Court); Switzerland (Hightide) a Last Christmas (Gŵyl Caeredin).

Mae wedi ennill dwy o Wobrau Theatr Cymru fel y Cyfarwyddwr Gorau a Chyfarwyddwr Artistig The Other Room yng Nghaerdydd, ac enillodd y lleoliad Wobr Papur Newydd The Stage i Theatr Fringe y Flwyddyn.

Mae hi’n gyd-olygydd Contemporary Welsh Plays (Methuen).

Mae’r prosiectau sydd ganddi ar y gorwel yn cynnwys Alice in Wonderland wedi’i addasu gan Stockroom (Liverpool Playhouse a’r Theatre Royal Plymouth), a Boys from the Blackstuff gan James Graham (Liverpool Royal Court).

Ymateb i’w phenodiad

Bydd Kate Wasserberg yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford.

“Rydw i’n hynod gyffrous,” meddai hwnnw.

“Dim ond rhai o’r rhesymau dros gyffro o’r fath ydi safon creu theatr Kate, yr wybodaeth a’r gwerthfawrogiad sydd ganddi o’r Theatr yng Nghymru a thalentau Cymru, a’i chariad at a’i gwerthfawrogiad dwfn o Theatr Clwyd.

“Bydd gweithio ochr yn ochr â Kate yn anrhydedd ac rydw i’n sicr, gyda’i harweinyddiaeth artistig hi, y byddwn ni’n adeiladu ar lwyddiant y cwmni, ar y llwyfan ac oddi arno, wrth i ni baratoi i agor ein hadeilad newydd a pharhau i gyflwyno gwaith o ansawdd uchel i’n cymunedau ni.”

Mae Theatr Clwyd ‘wrth eu boddau’ o gael ei phenodi i’r swydd yn ôl Helen Watson, Cadeirydd y Bwrdd.

“Fe wnaeth Kate gryn argraff drwy gydol y broses gyda’i thalent aruthrol, ei henw da amlwg a’i hangerdd dros y Theatr yng Nghymru,” meddai.

“Does dim amheuaeth, gyda Chyfarwyddwr Artistig mor fedrus wrth y llyw yn ein theatr ni, y bydd hwn yn gyfnod arbennig iawn i gymunedau, ac yn bennod newydd gyffrous i Theatr Clwyd.”

Mae Kate Wasserberg yn olynu Tamara Harvey, fydd yn dod yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company yn ddiweddarach eleni.