Dyma rai o ohebwyr a golygyddion Golwg, golwg360 a Lingo yn sôn am y llyfr – a’r llyfrau – a daniodd ynddyn nhw gariad mawr at ddarllen…


Cadi Dafydd, Uwch Ohebydd golwg360

Heb ddim math o bendroni, Pippi Hosan-hir ydy’r ateb. Yn hogan fach, roedd mam yn darllen trosiad Cymraeg Siân Edwards o glasur Astrid Lindgren o Sweden i fi’n aml ac roedd direidi Pippi’n gwneud i’r ddwy ohonom ni grio chwerthin bob tro. Cymaint oedd yr hwyl, dw i’n cofio perswadio fy ffrind gorau i eistedd lawr ryw ddiwrnod a gorfodi mam i adrodd anturiaethau Pippi i ni.

Dw i ddim yn siŵr i’r llyfr wneud yr un argraff arni hi, ond cafodd rhai o arferion digon rhyfedd Pippi effaith arna i fi. Cysgu efo’i thraed ar y gobennydd a’i phen ar waelod y gwely fyddai Pippi’n gwneud, a phan fyddwn i’n cael trafferth cysgu’n blentyn fyddwn innau hefyd yn troi rownd a rhoi fy mhen wrth droed y gwely – er roeddwn i’n mynd â’m gobennydd efo fi. A dw i dal i feddwl mai ‘dodohydiwr’, sef enw i ddisgrifio rhywun sy’n chwilota am bob math o drysorau ar hyd y lle, ydy’r bathiad gorau erioed yn yr iaith Gymraeg.


Lowri Larsen, Gohebydd Lleol golwg360

Y llyfr a wnaeth fy nghymell gyntaf i garu darllen oedd Matilda gan Roald Dahl. Mwynheais ddarllen am fywyd teuluol ac ysgol anodd Matilda â’i phwerau hud. Roedd yn gymysgedd perffaith o ffuglen a ffantasi. Roeddwn yn caru ei hathrawes Miss Honey a oedd yn glyfar ac addfwyn. Mwynheais ddarllen am berthynas Miss Honey a Matilda yn datblygu. Pleser oedd gweld y llyfr yn gorffen ar nodyn hapus wrth i Miss Honey a Matilda fyw efo’i gilydd.


Alun Rhys Chivers, Golygydd golwg360

Pwy sy’n cofio anturiaethau “Owen John Owen, Bwlch-y-gwynt ar hyd y ffordd i ddysgu” yn Owen John Owen, Bwlch-y-gwynt – Yn Hwyr Unwaith Eto? Mae hwn ymhlith y llyfrau Cymraeg cyntaf dwi’n cofio’u darllen, ac mae’n rhaid cyfadde’ y galla i uniaethu â’r bachgen bach drwg sydd, yn nhyb y prifathro, yn dyfeisio pob math o esgusodion am fod yn hwyr i’r ysgol! Cipiodd crocodeil ei fag ysgol, rhwygodd llew ei drowsus a daeth ton anferthol i’w sgubo oddi ar ei draed. Wrth gwrs, doedd y prifathro ddim yn ei gredu ac fe gâi ei gosbi bob tro – o orfod ysgrifennu llinellau i gael ei guro â chansen (oedd, roedd y gansen yn dal i gael ei defnyddio bryd hynny yn yr oes ymhell cyn gwahardd smacio plant, hyd yn oed!). Ond wrth gwrs, fel yn achos pob llyfr da i blant, mae tro bach doniol yn y gynffon wrth i’r prifathro gael ei haeddiant – ac wrth gwrs, does neb yn ei gredu pan gaiff gyfarfod â gorila!

Dyma addasiad Eleri Rogers o’r llyfr poblogaidd John Patrick Norman McHennessy – The Boy Who Was Always Late gan John Burningham. Os am fod yn fachgen drwg (neu ferch ddrwg…) llawn esgusodion, wel byddwch fachgen drwg (neu ferch ddrwg!) llawn esgusodion yn Gymraeg…! Er, ro’n i wrth fy modd â bod yn fachgen bach direidus yn Saesneg neu Gymraeg, cofiwch!

A sôn am lyfrau Saesneg, roedd No, No, Charlie Rascal gan Lorna Kent yn dipyn o ffefryn gen i tua’r un pryd, gyda gwahanol anturiaethau y tu ôl i bob ffenest stori – roedd hi wastad yn dod â phleser mawr cael adrodd y stori ar lafar wrth iddi adeiladu tua’r uchafbwynt. Cath fach ddrwg oedd Charlie – iawn, ocê, mae ’na thema yn dechrau datblygu yn fan hyn, on’d oes? Oes rhaid i fi ddweud mwy amdanaf fi fy hun?!


Bethan Lloyd, Golygydd Lingo

Dw i ddim yn cofio cyfnod pan dw i heb fod â llyfr yn fy llaw. Fy atgof cyntaf ydy fy mrawd yn trio darllen Elen Benfelen a’r Tair Arth i fi pan o’n i ryw dair oed ac yntau’n bump. Wedi hynny, roedd straeon T Llew Jones, yn enwedig Dirgelwch yr Ogof, a Malory Towers Enid Blyton yn ddylanwad mawr.

Yn fy arddegau cynnar ges i fy nghyflwyno i lyfrau Paul Zindel, y dramodydd ac awdur llyfrau pobl ifanc o’r Unol Daleithiau. Roedd teitlau bisâr ei lyfrau yn atyniad mawr – Confessions of a Teenage Baboon; Pardon Me, You’re Stepping on My Eyeball!, a My Darling, My Hamburger yn eu plith. Ro’n i wrth fy modd yn mynd i Lyfrgell Llandudno bob bore Sadwrn a phori drwy’r llyfrau a dw i’n dal i gael yr un wefr pan dw i’n mynd i lyfrgell neu siop lyfrau y dyddiau yma.


Non Tudur, Gohebydd Celfyddydau golwg

Dw i’n cofio cael blas mawr ar Trysor Plasywernen, T Llew Jones a’i hantur afaelgar – unwaith i mi ddechrau darllen ‘go-iawn’ tua’r wyth, naw oed yma. A dwlu ar lyfr The Secret Diary of Adrian Mole, Aged 13¾ (Sue Townsend) – a’i ddarllen mewn tridiau ar wyliau yn Lloegr cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd yn 1985.

Ond cefais fy swyno go iawn gan ddwy nofel i’r ifanc pan oeddwn yn 11 oed, y naill yn Saesneg a’r llall yn Gymraeg. Dwy a ddangosodd sut mae nofel yn gallu mynd â’r meddwl am dro, a chynnig cysur, hwyl a chwmnïaeth. Yr un Saesneg oedd A Stitch in Time gan Penelope Lively, a ddarllenais un haf, llawer ohoni mewn adlen lawog. Dw i’n dal i gofio’r tywod rhwng y tudalennau tamp. Agorodd y drws i fyd llenyddiaeth Saesneg. Roedd y clawr yn rhan fawr o’i hapêl; byddwn yn syllu ar lun y ferch ar y clawr am oriau. Y llall oedd Cyffro Clöe, Irma Chilton. Nofel newydd ar y pryd – un i ni, ferched ifanc Cymru. Y clawr cyfoes eto’n denu, a’r stori’n ein cymell draw i dir mawr yr arddegau. Roeddwn i’n trysori’r ddwy. Mae hi’n wobr gyfartal rhwng y ddwy yma.


Elin Owen, Gohebydd Digidol golwg360

Nid un llyfr penodol wnaeth cymell fi i garu darllen ond casgliad cyfan gan Bethan Gwanas. Mae llyfrau Bethan Gwanas yn bendant yn rhai dw i’n eu cofio’n glir o fy mhlentyndod. Dw i’n cofio bod wrth fy modd efo popeth roedd hi’n sgrifennu o’r dudalen gyntaf. Ro’n i’n mwynhau’r antur wahanol roedden ni’n cael ei dilyn ym mhob llyfr a’r cymeriadau gwirion roedd hi’n gallu eu creu i blant. O’r clasuron yn yr ysgol fel Llinyn Trôns, Sgôr, Ceri Grafu a Pen Dafad i ddarllen ei gwaith fel Dyddiadur Gbara pan o’n i ychydig yn hŷn, dw i wastad wedi mwynhau ei ffordd o sgrifennu.


  • Byddai’n dda clywed gennych am eich dewisiadau chi – pa lyfr a newidiodd eich byd a gwneud i chi fopio ar ddarllen? Nodwch eich ateb yn y sylwadau..