Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu panel beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023.
Mae’r panel Cymraeg eleni’n cynnwys y bardd Ceri Wyn Jones; Megan Angharad Hunter, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; a Savanna Jones, ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant.
Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, actores ac enillydd BAFTA Emily Burnett; yr awdur ac athro Emma Smith-Barton; y bardd a golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn, Mike Parker.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion o Gymru sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y beirniaid yn dewis enillwyr mewn pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobol Ifanc, gydag un o enillwyr y categorïau hyn yn mynd yn eu blaen i ennill y Brif Wobr, a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.
‘Braint’
“Mae’n fraint cael bod yn rhan o unrhyw broses sy’n hyrwyddo a gwobrwyo llenyddiaeth yng Nghymru,” meddai Ceri Wyn Jones.
“Ac mae hynny’n arbennig o wir yn achos gwobr Llyfr y Flwyddyn, gwobr sy’n dathlu’r ffaith ein bod ni nid yn unig yn genedl o awduron, ond yn genedl o ddarllenwyr hefyd.”
Mae’n “fraint” cael beirniadu’r gystadleuaeth, meddai Savanna Jones.
Ac yn ôl Megan Angharad Hunter, “roedd derbyn y cais i feirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni yn sioc hyfryd ac yn anrhydedd llwyr”.
“Dwi’n arbennig o ddiolchgar am y cyfle i feirniadu yn ystod blwyddyn mor gref â hon sy’n gyforiog â lleisiau newydd a gwreiddioldeb eithriadol,” meddai.
“Adlewyrcha’r llyfrau gyfoeth yr arlwy o lenyddiaeth sydd wedi bod erioed yma yng Nghymru; mae darllen pob un wedi bod yn bleser ac yn fraint.”