Nôl yn 2019, a finnau newydd ddechrau fy siwrne fel llenor llawrydd, sgwennais y gerdd ‘Y dywysoges arian’ – cerdd am y trawsnewidiad es i drwyddo wrth golli pigment a dechrau colli fy nghlyw, gan ddatblygu cyflyrau cysylltiedig, megis hyperacusis a tinitws. Roedd yn rhan allweddol yn fy siwrne o oroesi body dysmorphia, a dysgu byw hefo’r cyflwr Syndrom Waardenburg Math 1.
Dechreuais waith celf i fynd hefo fy ngwaith ysgrifenedig; roedd hyn yn cynnwys hunanbortread, gyda synau tinitws wedi eu cynrychioli gan bethau megis gwenyn, radio, a diod pefriog yn cael ei hagor. Gwnes i hefyd lun anatomegol o’r glust, gan ddangos y cochlea, hefo blaengudyn wen yn dod ohoni, yn symbol o’r ffaith fod pigment y cochlea wrth wraidd y colli clyw.
Cyfieithais y gerdd a’i defnyddio hefo fy nghelf i ddarlunio erthyglau a sleidiau Powerpoint a.y.b. Tyfodd cymeriad ‘Y Dywysoges Arian’ yn gymeriad megis Ziggy Stardust! Rhoddais yr enw Glesni arni, gan fod lliwiau’r sbectrwm o lesni yn ei siwtio hi (a fi!), oherwydd colli pigment. Yna, gwnes i gais tyngedfennol i Theatr Genedlaethol Cymru am fwrsariaeth ‘Datblygu Syniad’…
Ysgrifennais pitch am ‘opera fyddarclywed tair-ieithog’, yn seiliedig ar fy ngherdd, celf, a chymeriad fy alter-ego – ac er syndod i mi, fues i’n llwyddiannus! Dyma oedd y tro cyntaf i mi fentro i fyd theatr ers mynd i wylio sioe yn Theatr Clwyd yn blentyn, ond dwi’n falch i mi wneud.
Cefais gyfle i weithio gyda llawer o bobol dalentog, greadigol a ffeind. Rhoddwyd hyfforddiant, cyngor, anogaeth, adborth a chefnogaeth i mi. Datblygais ‘libreto’ hybrid, oedd yn rhyw fath o balé gweledol, wrth i mi drio plethu Cymraeg, Saesneg a BSL; yn y bôn, ro’n i moyn creu rhywbeth fyswn yn medru mynd â fy modryb Brenda, sy’n f/Fyddar (yn diwylliedig ac yn awdiolegol) i’w gweld… yn Y Stiwt, os yn bosib.
Mi oedd hyn wastad yn mynd i fod yn waith heriol ac roedd yn sicr yn brosiect uchelgeisiol. Yn y bôn, daeth y siwrne i ben heb ei gomisiynu. Ond cyn hynny, cefais gyfle i fynd lawr i Chapter yng Nghaerdydd i weithio hefo actorion. Roedd hynny’n brofiad mor werthfawr, a sgwennais un o fy hoff golofnau yng nghylchgrawn Barddas yn seiliedig arni.
Yn y cyfamser, roeddwn wedi creu llun newydd, ‘Tywod amser y clyw’, tra’n rhan o’r breswylfa ddigidol ‘Manifesto for Accessible Arts Festival’, ac mi roedd y fersiwn hon o Glesni, hefo’i cochlea wedi ei disodli gan awrwydr, wedi datblygu’r cymeriad ymhellach yn fy meddyliau amdani.
Disability Arts Cymru (DAC) a’r arddangosfa ‘Aildanio’
Mentrais gyflwyno ‘Tywod amser y clyw’ ar gyfer gwobr Disability Arts Cymru, a chefais wybod ei bod hi wedi ei dewis i fod yn rhan o arddangosfa ‘Aildanio – roeddwn mor gyffrous! Wnes i hefyd ennill wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Geiriau Creadigol gyda fy ngherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’, ac es i lawr i Gaerdydd i’r lansiad yn g39, lle wnes i ddarllen fy ngherdd fel rhan o’r digwyddiad; aeth yr arddangosfa wedyn ar daith lawr i Amgueddfa Cwm Cynon.
Daeth yr arddangosfa wedyn i ‘Galeri’ Caernarfon, lle y bydd yn aros tan Ebrill 8, cyn mynd yn ei blaen i Tŷ Pawb yn Wrecsam. Cafwyd lansiad i’r arddangosfa yn Galeri ar Fawrth 3, ac es i draw hefo fy ngŵr a chael amser hyfryd yn sbïo ar y celf a siarad hefo artistiaid eraill.
Llun gan Roy BarryGlesni yng Nghylchgrawn Cip
Yn y cyfamser, roedd troad cyffrous newydd yn y stori. Roeddwn wedi bod ar gwrs ‘Stori i bawb’ draw yn Nhŷ Newydd, a thrwy hynny wedi dod i wybod fod cyfleoedd i sgwennu storïau i ddarllenwyr 7-11 oed yng nghylchgrawn cip (Urdd gobaith Cymru). Felly, es ati unwaith yn rhagor i weithio hefo Glesni, fel dwi’n dueddol o weld pethau erbyn hyn.
Profiad hyfryd dros ben oedd hyn, er fy mod braidd yn nerfus ac ansicr i ddechrau, gan nad oeddwn wedi sgwennu stori lwyddiannus i blant o’r blaen. Gwnes i bach o ymchwil, gan ddarllen ôl-rhifynnau o Cip, a hefyd ‘Cranogwen’, o’r gyfres ‘Enwogion o Fri’. Yna es i amdani!
Yn ogystal â’r stori ysgrifenedig, darllenais y stori i’r podlediad, sydd ar gael trwy Y Pod, Apple Podcasts, Spreaker a.y.b., a hefyd ar Youtube. Gan fod Syndrom Waardenburg Math 1 mor gymhleth, cefais sgwrs hefo Heulwen, a rhennais wybodaeth gan gynnwys fy ngwaith celf.
Cafodd fy stori ei chyhoeddi ar Fawrth 2, gyda fy nghelf fel darluniau, gan gynnwys ‘Tywod amser y clyw’, a dw i wrth fy modd hefo hi! Dwi mor browd o’r ffaith fy mod wedi llwyddo i herio rhagfarn a hyrwyddo amrywiaeth, tra hefyd yn creu stori brydferth. Gobeithiaf y bydd hi o ddiddordeb ac yn difyrru darllenwyr Cip, ac efallai y bydd hyd yn oed o fudd i rai plant sydd yn cael profiadau tebyg.
Ac yna, mewn troad meta, bu modd i mi, y dywysoges arian wreiddiol, gael tynnu fy llun hefo Glesni ar y wal, a hefyd Glesni yng nghylchgrawn Cip!