Fe fydd y digwyddiad Gwyddeleg mwyaf o’i fath yn cael ei gynnal yn ninas Belfast dros y penwythnos, fel rhan o ddathliadau Seachtain na Gaeilge le Energia.
Mae disgwyl i gannoedd o siaradwyr Gwyddeleg ymgynnull yng nghanol y ddinas wrth i fudiadau Conradh na Gaeilge a Féile an Phobail lansio partneriaeth newydd sbon, gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Belfast, ar gyfer Wythnos yr Iaith Wyddeleg a Féile an Earraigh.
Spraoi Cois Lao fydd y diwrnod hwyl Gwyddeleg cyntaf erioed yn y ddinas, ac fe fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (Mawrth 4) fel prif ddigwyddiad Wythnos yr Iaith Wyddeleg.
Cafodd ei lansio’n swyddogol ddoe (dydd Mercher, Mawrth 1) gan Tina Black, Arglwydd Faer Belfast.
Yn rhan o’r carnifal, fe fydd cerddorion, dawnswyr, gweithgareddau, gemau, bwyd ac adloniant amrywiol i’r teulu oll.
‘Dod â’r Wyddeleg yn ôl i galon dinas Belfast’
“Mae Spraoi Cois Lao yn ddigwyddiad eithriadol o gyffrous sy’n anelu i ddod â’r iaith Wyddeleg yn ôl i galon dinas Belfast,” meddai Cuisle Nic Liam ar ran Conradh na Gaeilge.
“Rydym wrth ein boddau o gael partneru â Féile an Phobail ac o ddod â Seachtain na Gaeilge a Féile an Earraigh ynghyd, gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Belfast.
“Dydy adfywiad yr iaith Wyddeleg ledled Belfast ddim fel pe bai’n arafu, ac rydyn ni eisiau i bobol weld a defnyddio’r iaith fwyfwy yng nghanol y ddinas.
“Rydyn ni eisiau i’r iaith gael ei dathlu, ei chydnabod, ei pharchu a’i normaleiddio, yn enwedig yn y gofodau rydyn ni’n eu rhannu.
“Spraoi Cois Lao fydd y diwrnod hwyl mwyaf o’i fath i’r teulu oll yma drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg, ac fe fydd yn ceisio adeiladu ar waith arloesol grwpiau cymunedol ledled Belfast.
“Felly p’un a oes gennych chi cúpla focal (ambell air), yn dysgu’r iaith, plant mewn ysgol Wyddeleg leol, yn rhugl neu ddim ond yn chwilfrydig am yr iaith, Spraoi Cois Lao yw’r lle i chi y penwythnos hwn.
“Bígí linn (ymunwch â ni).”
Dathlu’r iaith a’r diwylliant
Kevin Gamble, Director, Féile an Phobail, commented:
“Mae Féile an Phobail wrth eu boddau o gael partneru â Conradh na Gaeilge i ddod â Féile an Earraigh a Seachtain na Gaeilge le Energia ynghyd,” meddai Kevin Gamble, Cyfarwyddwr Féile an Phobail.
“Mae disgwyl i Spraoi Cois Lao ddod â channoedd o siaradwyr a dysgwyr Gwyddeleg, teuluoedd a ffrindiau ynghyd i ddathlu’r iaith Wyddeleg a’r diwylliant Gwyddelig.
“Mae dod â’r iaith Wyddeleg i ganol dinas Belfast ar gyfer digwyddiad fel hwn yn bwysig dros ben i’r gymuned, ac rydyn ni eisiau i bawb yn Belfast ddod draw a phrofi pleser yr iaith Wyddeleg drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu.
“Dyna yw Féile an Earraigh, a gyda’r bartneriaeth newydd â Seachtain na Gaeilge le Energia mae gennym ni gyfle anhygoel i adeiladu ar y digwyddiadau Gwyddeleg a chymunedol gwych sy’n digwydd ledled Belfast.
“Mae’r iaith Wyddeleg yn perthyn i bawb, ac rydyn ni eisiau i gynifer o bobol â phosib ddod draw i fwynhau’r diwrnod yn Spraoi Cois Lao.
“Can mil croeso i bawb.”