Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl i’r argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru waethygu, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ffigurau sy’n dangos bod 14% o ddeintyddion Cymru ar fin ymddeol.
Mewn rhai ardaloedd gwledig fel Powys, mae’r ffigwr yn codi mor uchel ag 20% ac yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ar beiriant cynnal bywyd”.
Rhybuddiodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ddechrau’r wythnos y gallai gwasanaethau deintyddol Cymru ddiflannu’n llwyr yn y misoedd nesaf, ac y bydd deintyddion yn gadael y maes oni bai bod Llywodraeth Lafur Cymru’n gwella’u cynlluniau ar gyfer dyfodol deintyddiaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mewn arolwg diweddar o 250 o ddeintyddion ar y stryd fawr yng Nghymru, gafodd ei gynnal gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain, dywedodd mwy na thraean ohonyn nhw y bydden nhw’n lleihau eu cytundeb gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol eleni, tra bod 13% yn dweud y bydden nhw’n dychwelyd eu cytundebau’n llawn erbyn y mis yma.
Roedd pôl gafodd ei gomisiynu gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn flaenorol yn dangos bod un ym mhob pump o bobol oedd wedi methu cael apwyntiad deintyddol wedi cael tynnu eu dannedd eu hunain gartref.
Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae 15,500 o bobol yn aros i weld deintydd.
Galw am wario mwy o arian
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynyddu eu gwariant y pen ar ddeintyddiaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i lefelau tebyg i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Maen nhw hefyd yn awyddus i weld mwy o therapyddion a nyrsys deintyddol yn cael eu hyfforddi er mwyn ehangu’r math o waith maen nhw’n gallu’i wneud er mwyn lleddfu’r pwysau ar ddeintyddfeydd a lleihau rhestrau aros.
Yn ogystal, maen nhw’n galw ar Lafur i ymgysylltu’n fwy adeiladol â deintyddion tros ddiwygio cytundebau.
“Mae deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ar beiriant cynnal bywyd, ac os nad ydyn ni’n ofalus byddwn yn ei gweld yn diflannu’n llwyr o fewn ein hoes,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Mae Llafur wedi galluogi system ddwy haen i ddatblygu, lle mae’r rheiny sydd â’r arian yn gallu mynd yn breifat, ac mae pawb arall yn cael eu gadael ar restr aros, yn aml mewn poen ac am fisoedd.
“Rhaid i ni weld y gwariant ar ddeintyddiaeth yng Nghymru’n cynyddu i lefelau tebyg i Ogledd Iwerddon a’r Alban.
“Mae hefyd angen i ni weld mwy o therapyddion a nyrsys deintyddol yn cael eu cyflogi er mwyn ehangu’r math o waith maen nhw’n cael ei wneud i helpu i leddfu’r pwysau ar ddeintyddfeydd ac i glirio rhestrau aros.
“Allwn ni ddim parhau yn y cyfeiriad hwn, ac all Llafur Cymru ddim parhau i gysgu wrth y llyw.
“Rhaid iddyn nhw ymgysylltu’n adeiladol â phryderon deintyddion tros ddiwygio cytundebau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi darparu mwy na £27 miliwn yn fwy o gyllid ar gyfer deintyddiaeth o’i gymharu â 2018-19.
“Mae hyn yn cynnwys £2 filiwn a ychwanegwyd yn benodol yn 2022-23 i gynorthwyo byrddau iechyd i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chael mynediad at ddeintydd yn lleol.
“Yn ogystal â hyn rydym wedi dyblu nifer y llefydd hyfforddiant therapi deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd a dechreuodd rhaglen hylendid deintyddol newydd ym Mhrifysgol Bangor fis Medi y llynedd.
“Rydyn ni’n yn parhau i weithio gyda’r sector i edrych ar sut y gall diwygio’r contract deintyddol cenedlaethol annog practisau deintyddol i gydweithio ac ymateb yn y ffordd orau i anghenion eu cymunedau.
“Mae hyn wedi galluogi i 140,000 o gleifion sydd wedi methu cael apwyntiad deintyddol yn y gorffennol i gael gofal eleni.
“Mae gan bob Bwrdd Iechyd drefniadau ar waith i ddarparu triniaeth, cyngor a chymorth deintyddol ar frys.
“Dylai pobol sydd angen triniaeth ffonio’r llinell gymorth ddeintyddol neu GIG 111 a byddant yn gallu asesu a oes angen triniaeth ar frys neu a fydd yn bosibl gweld y claf cyn gynted â phosibl yn ystod oriau arferol.”