Mae aelodau undeb addysg NEU Cymru, yn athrawon ac yn staff cynorthwyol, yn streicio heddiw (dydd Iau, Mawrth 2).

Mae aelodau’n ceisio codiad cyflog uwch na chwyddiant sydd wedi’i ariannu’n llawn.

Bydd David Evans, ysgrifennydd yr undeb yng Nghymru; Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru; a nifer o aelodau’r pwyllgor gwaith yng Nghymru’n cymryd rhan yn y streiciau ledled y wlad.

Bydd gweithredu’n ddiwydiannol yn cynnwys mynd i rali yn y Senedd yng Nghaerdydd, ac ymhlith y siaradwyr fydd cynrychiolwyr o’r NEU, TUC, NAHT Cymru, a Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

‘Siom’

Mae’r streiciau newydd yn destun “siom”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dw i’n siomedig dros ben o weld nad yw Llafur wedi gallu dod i gytundeb â’r undebau athrawon a bod streiciau’n amharu ar addysg plant yng Nghymru unwaith eto,” meddai Laura Ann Jones, llefarydd addysg y blaid.

“Bydd rhieni a gofalwyr unwaith eto’n wynebu’r straen o wneud trefniadau gofal plant anodd, ac mewn nifer o achosion bydd yn rhaid iddyn nhw addasu eu hamserlenni gwaith.

“Mae dirfawr angen i Lywodraeth Cymru fynd o gwmpas y bwrdd a datrys hyn cyn gynted â phosib er mwyn atal gweithredu trwy streiciau, gan nad yw’r sefyllfa hon o streiciau parhaus a cholli allan ar ddiwrnodau ysgol yn iawn, ar ôl i gymaint o ysgol gael ei golli yn ystod cyfnodau clo.”