Dydy hunaniaeth Gymreig ddim yn “gul”, ac mae “gan lawer o bobol hunaniaeth gymhleth a newidiol”, yn ôl Swyddog Polisi Ymgysylltu Du, Asiaidd a Lleifrifol Ethnig Cymru gyfan gyda’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru.
Mae’r fforwm O ble ydych chi’n dod? Hunaniaeth a Pherthyn yng Nghymru ar Fawrth 8 rhwng 10yb-12yp, gyda phedair dynes o leiafrifoedd ethnig yn trafod eu teimladau o berthyn ac o hunaniaeth yng Nghymru.
Mae’r fforwm ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, a phenderfynwyd cael merched fel siaradwyr gwadd i ddathlu.
Mae’n cael ei drefnu gan Raglen Ymgysylltu Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, prosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sydd â’r nod o roi llais cryf i gydraddoldeb hiliol yng Nghymru.
Gwahanol siapiau a meintiau
Gyda Chymreictod yn rhan fawr o hunaniaeth llawer o bobol, mae Grainne Connolly yn teimlo nad peth cul yw bod yn Gymro neu Gymraes, a bydd y fforwm yn archwilio hyn.
Gyda Chymru’n dod yn wlad fwy cynhwysol, teimla fod hunaniaeth Gymraeg yn datblygu.
I rai, mae hunaniaeth Gymraeg a Chymreig yn syml, tra ei fod yn fwy cymhleth i eraill.
“Pwrpas y fforwm yw codi ymwybyddiaeth o sut mae bod yn Gymro neu Gymraes yn dod mewn gwahanol siapiau a meintiau,” meddai wrth golwg360.
“Mae ystyr eang i fod yn Gymro neu Gymraes, mae’n golygu gwahanol bethau i wahanol bobol.
“Mae ein hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn yn bwysig i unigolion.
“Rwy’n meddwl bod llawer o bobol yn cymryd llawer o gysur a balchder o fod yn Gymry, hyd yn oed os nad ydyn nhw efallai’r darlun nodweddiadol o fod yn Gymry.
“Mae bod yn Gymro neu Gymraes yn gymaint o sbectrwm.
“Mae cymaint o bobol yn nodi eu bod yn `Gymreig, a dw i’n meddwl bod hynny’n rywbeth i’w ddathlu.
“Rwy’n meddwl bod hunaniaeth yn unigryw, mae’n eang iawn.
“O bosib, yn flaenorol, roedd syniad mwy cul o beth yw bod yn Gymro neu Gymraes.
“Rwy’n meddwl nawr fod Cymru’n dod yn wlad amrywiol a chynhwysol iawn.
“Rydym yn genedl sy’n noddi, rydym wedi cynnig llawer o gartrefi i ffoaduriaid, mae amrywiaeth o fewn Cymru yn newid, mae wyneb Cymru yn newid.
“Rwy’n meddwl bod bod yn Gymro neu Gymraes yn newid.
“Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n dweud, fel pwynt cyffredinol, fod hunaniaeth Gymreig yn gymhleth.
“Dw i’n meddwl bod hunaniaeth unigolyn yn gymhleth.
“Mae’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig yn newid, mae yna hunaniaeth genedlaethol o fod yn Gymro.
“Yna mae hunaniaeth unigol o fod yn Gymro.
“Alla i ddim siarad ar ran unigolion, ond byddwn yn dweud bod gan lawer o bobol hunaniaethau cymhleth a newidiol.
“Rwy’n meddwl bod ein hunaniaeth yn newid wrth i ni fynd yn hŷn a chael profiadau gwahanol, er enghraifft ers faint rydyn ni wedi byw yn rhywle.
“Mae pob math o bethau yn chwarae rhan mewn hunaniaeth.
“Fel hunaniaeth genedlaethol, byddwn yn dweud bod yr hunaniaeth Gymreig yn gymhleth.”
‘O ble wyt ti’n dod?’
Gyda’r siaradwyr gwadd i gyd yn dod o leafrifoedd ethnig gwahanol, bydd y fforwm yn edrych ar y cwestiwn “O ble wyt ti’n dod?”, sut mae’n cael ei ofyn a sut mae’n gwneud i bobol deimlo.
Bydd elfennau eraill o Gymreictod yn cael eu harchwilio – fel iaith, ehangder a chanfyddiadau o wahanol lefydd.
“Mae gennym bedair siaradwr gwadd benywaidd sydd i gyd yn dod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig,” meddai Grainne Connolly.
“Mae gennym fenyw sy’n Gymraes gyda threftadaeth Bacistanaidd, mae gennym fenyw sy’n Gymraes gyda threftadaeth Gambian, ac mae gennym ddwy ddynes sy’n ystyried eu hunain yn Gymry â threftadaeth gymysg.
“Byddwn yn edrych ar eu profiadau unigol a’u hymdeimlad o berthyn yng Nghymru, a’u profiad o gael eu holi, “O ble wyt ti’n dod?” yn y lle y maent yn galw adref.
“Byddwn yn edrych cyd-destunau gwahanol y cwestiwn hwnnw.
“Sut y gall y cwestiwn hwnnw gael ei ganfod neu ei awgrymu pan fyddwch chi’n edrych fel eich bod chi’n dod o rywle arall os ydych chi’n dod o grŵp ethnig lleiafrifol.
“Dyna’r math o beth rydyn ni’n mynd i fod yn ei drafod.
“Beth mae bod yn Gymraes yn ei olygu i’r merched hyn sydd naill ai wedi eu geni yma neu sydd wedi byw yma ers talwm, am eu hymdeimlad o berthyn yng Nghymru.
“Ydyn nhw wedi cael cwestiynau fel “O ble wyt ti’n dod?” ac os oes ganddyn nhw, pa effaith gafodd e arnyn nhw.
“Cawn ni i gyd ein holi, “O ble wyt ti’n dod?” drwy’r amser mewn pob math o wahanol sgyrsiau.
“Gall fod yn chwilfrydedd, gall fod yn gwestiwn cyfeillgar, ac mae modd ei ofyn mewn ffordd sydd â chyd-destun gwahanol.
“Gall fod yn ficro-ymosodol, neu gall fod yn ffordd o ddweud wrth rywun, ‘Dydych chi ddim o fan hyn, dydych chi ddim yn perthyn’.
“Mae yna wahanol ffyrdd o holi.
“Mae’n debyg y bydd atebion gwahanol gan y siaradwyr gwadd am eu profiadau.
“Un o’r cwestiynau fydd, sut mae’r Gymraeg yn ffurfio hunaniaeth Gymreig?
“Byddwn yn edrych ar yr hyn mae bod yn Gymraes yn ei olygu i wahanol bobol, hunaniaeth Gymreig pobol a’r ymdeimlad o berthyn yng Nghymru.
“Hefyd, y cysyniad o Gymreictod. Ydy e wedi bod yn rhy gyfyng? Ydy e’n rhy gyfyng?
“Sut fyddai pobol yn Lloegr yn gweld bod yn Gymry o ran sut mae’n cael ei ganfod pan ydych chi yng Nghymru, a chithau’n Gymro neu Gymraes.
“Dw i’n meddwl bod bod yn Gymro neu Gymraes yn fwy o gysyniad eang nag sy’n cael ei weld wrth eich bod chi tu allan i Gymru.”
Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Hap a damwain oedd i’r fforwm hwn ddisgyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, felly penderfynwyd ei ddathlu gyda siaradwyr gwadd benywaidd.
Mae Grainne Connolly yn credu bod ei phrofiadau sy’n unigryw i ferched wedi chwarae rhan yn ei hunaniaeth.
“Mae bod yn fenyw yn siapio fy hunaniaeth, oherwydd mae ein hunaniaeth yn cynnwys ein profiadau ni,” meddai.
“Fel menyw, mae gennych chi’r profiad benywaidd, sy’n wahanol i brofiad dyn.
“Mae gennym ni groesfannau.
“Rydyn ni’n rhannu profiadau ar draws y rhywiau gwahanol, ond byddan nhw’n brofiadau menywod sy’n wahanol i ddynion.
“Yn y ffordd honno, rwy’n meddwl bod bod yn fenyw yn llywio eich profiad unigol.”
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Gyda Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ei le ers Mehefin, mae Grainne Connolly yn credu bod Llywodraeth Cymru yn angerddol a’n bod ar ein ffordd tuag at fod yn wrth-hiliol oherwydd bydd rhaid i systemau newid.
“Maen nhw’n gweithio’n galed i roi’r cynllun gweithredu hwnnw ar waith, ac mae hynny ar draws 11 o sectorau gwahanol yng Nghymru,” meddai.
“Mae’n gynllun uchelgeisiol iawn, mae’n flaengar iawn, a byddai’n ein gwneud ni’r genedl wrth-hiliol gyntaf yn y byd.
“Eu nod yw y byddwn yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030.
“Maen nhw’n gwybod na fyddwn yn dileu hiliaeth, ond byddan nhw’n ceisio newid y systemau sy’n dal i fod yn wahaniaethol i ryw raddau ledled Cymru, fel eu bod yn dileu hiliaeth.
“Fydd hiliaeth ddim yn cael ei derbyn na’i goddef ar draws llawer o sectorau ledled Cymru.
“Rwy’n meddwl bod Llywodraeth Cymru yn angerddol iawn dros gefnogi eu cymunedau ethnig lleiafrifol a gwneud Cymru yn ofod cynhwysol i bawb.
“Allan nhw ddim gwneud hynny ar eu pen eu hunain.
“Gallan nhw ysgrifennu cynlluniau gweithredu, gallan nhw wneud yr ymchwil, gallan nhw gael eu huchelgais, ond bydd angen i bawb yng Nghymru weithio i gyflawni hynny.”