Mae cyfres podlediadau Mudiad Meithrin wedi bod yn anelu i gyrraedd cynulleidfaoedd sy’n ffafrio derbyn eu gwybodaeth ar ffurf podlediadau, blogiau a dulliau llai traddodiadol.
Fis diwethaf, fe wnaeth y mudiad sefydlu podlediadau wythnosol Camau Bach i’r Cwricwlwm, yn trafod y cwricwlwm newydd, gyda’r bennod gyntaf yn rhoi sylw i’r Llwybrau Datblygu Lles a sut mae lles plant yn rhan hollbwysig o’r cwricwlwm newydd.
Charlotte Thrussle, Rheolwr Cylch Meithrin Bro Alun, oedd gwestai cynta’r podlediad, a Nia Parry yn cyflwyno.
Ers hynny, fe fu penodau gyda Vanessa Powell yn trafod cydweithio â’r Llywodraeth ar y cwricwlwm; Kayleigh Bickford o Gylch Meithrin Beddau yn trafod defnyddio technolegau a dulliau megis makaton, Facetime, canu ac actio; a llawer mwy.
Gyda’r Mudiadau Meithrin yn tyfu, mae’n rhaid lledaenu’r newyddion am y cwricwlwm newydd i ymarferwyr a rhieni newydd drwy ddulliau technolegol newydd fel podlediadau a blogiau.
“Rydym ni yn Mudiad Meithrin efo llawer o ymarferwyr newydd,” meddai Charlotte Thrussle wrth golwg360.
“Rydym wedi agor llwyth o gylchoedd meithrin newydd.
“Mae rhaid i ni gydnabod y ffordd mae ein hymarferwyr ni yn dysgu ac yn derbyn eu gwybodaeth.
“Yn yr un modd, mae’r rhieni yn ifanc, sut maen nhw’n derbyn eu gwybodaeth?
“Trwy edrych ac archwilio mewn i hyn rydym wedi gweld bod ein rhieni, ymarferwyr a rhanddeiliaid erbyn hyn yn ffafrio derbyn ei gwybodaeth drwy podlediadau, trwy flogs a phethau fel yna.
“Mae bywyd yn symud yn gyflym.
“Mae’r hyn sy’n gallu newid yn symud yn gyflym, ac felly rydym yn cael mynediad at ein rhieni a’n rhanddeiliaid ni trwy rannu ein gwybodaeth trwy’r ffordd yma o gyfathrebu.”
Cynnwys y podlediadau a blogiau
Mae’r podlediad cyntaf gan Charlotte Thrussle yn dweud ym mha fudiad meithrin y bydd y cwricwlwm yn cael ei ddefnyddio, ac fe fydd yn cael ei egluro gan ymarferwyr mewn ffordd fydd, gobeithio, yn apelio at rieni a phobol sydd eisiau bod yn ymarferwyr.
Yn ganolog i’r cwricwlwm mae beth mae plant yn ei hoffi.
“Rydym yn cynnal nhw’n wythnosol,” meddai Charlotte Thrussle.
“Mae dehongli’r cwricwlwm o safbwynt ein hymarferwyr ni ac o safbwynt y cylchoedd meithrin yma, rwy’n meddwl, yn mynd i apelio ac yn mynd i ddangos i rieni ni ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio mewn cylch meithrin beth yn union rydym ni’n gwneud.
“Rydym yn ymgynghori gyda phlant a sut rydym ni yn dilyn eu diddordebau nhw.”
‘Cwricwlwm pwrpasol’
Wedi’i greu gan ymarferwyr, mae’r cwricwlwm hwn yn addas ar gyfer plant bach.
“Buon ni’n ffodus i fod yn rhan o gynllun cyd-awduro’r cynllun yma, ac felly mae’n gwricwlwm pwrpasol ar gyfer y sector a gynhelir, ac felly yn hynod addas i’n plant bach yn ein cylchoedd meithrin,” meddai Charlotte Thrussle.
“Mae’n harweinyddion ni a’n staff ni yn y cylchoedd meithrin, a dros y sector i gyd, yn arbenigo mewn datblygiad plant, felly mae’n gwricwlwm pwrpasol ar gyfer plant dros Gymru gyfan.”
Oherwydd bod y cwricwlwm yn wych, yn ôl archwiliad, doedd dim angen gwneud newidiadau mawr iddo ond yn hytrach, adeiladu ar yr hyn oedd yn cael ei wneud yn barod.
Gyda Mudiad Meithrin yn fudiad Cymraeg a’r plant yn Gymraeg eu hiaith, mae Cymreictod a’r Gymraeg yn cael ei ddathlu yn y cwricwlwm newydd.
“Mi gafwyd archwiliad mawr ar y system addysg yng Nghymru dan yr Athro Graham Donaldson,” meddai wedyn.
“Cafodd y Cyfnod Sylfaen ei ganmol yn ei gyfanrwydd.”
Dywed fod yr hyn oedd yn cael ei gynnig, yn ogystal â lle’r oedd y llwyddiannau yn y Cyfnod Sylfaen, yn dangos mai “adeiladu ar y rhagoriaeth yma oedd ei angen, yn hytrach na thaflu popeth i ffwrdd a chychwyn eto”.
“Mae’r cwricwlwm newydd ond yn adeiladu ar yr hyn roeddem yn gwneud yn rhagorol cynt, ac felly yn gwella pethau rydym wedi gwneud yn hytrach na newid popeth.
“Mae’r hyn sydd wedi cael ei ychwanegu i’r cwricwlwm yn adlewyrchu’r byd mae’n plant ni yn byw ynddo ar hyn o bryd.
“Mae’n dathlu bod yn Gymraeg a’r iaith Gymraeg dros y lleoliadau i gyd, boed hynny’n lleoliadau Cymraeg neu Saesneg.
“Mae’n newyddion da iawn i ni fod gennym gwricwlwm pwrpasol ar gyfer ein sector a gynhelir ni, sef ein plant ifancach, ar ddechrau dysgu.”