Mae gwaith ugain o artistiaid a beirdd blaenllaw wedi dod at ei gilydd dan un to mewn arddangosfa newydd ym Mae Caerdydd sydd wedi’i hysbrydoli gan Lwybr Arfordir Cymru.
Bydd yr arddangosfa, sy’n agor heddiw (Mawrth 1), yn nodi diwedd dathliadau dengmlwyddiant y llwybr yn yr Eglwys Norwyaidd.
Cafodd y gweithiau eu harddangos yn unigol fel rhan o Celf Coast Cymru y llynedd, prosiect lle aeth deg bardd a deg artist ati i greu gweithiau sydd wedi’u hysbrydoli gan eu rhan leol o’r llwybr.
Ifor ap Glyn oedd yn gyfrifol am guradu’r elfen farddoniaeth, tra bo Dan Llywelyn Hall wedi arwain ar yr ochr gelf.
Ynghyd â dewis pum bardd Saesneg a phum Cymraeg, eu hanner nhw’n ddynion a’r hanner arall yn fenywod, gwaith Ifor ap Glyn oedd cyfieithu’r cerddi o’r naill iaith i’r llall.
“Y nod oedd dathlu dengmlwyddiant Llwybr yr Arfordir drwy fanteisio ar y ffaith ei bod hi wedi’i rhannu, er dibenion gweinyddol, i ddeg rhan,” eglura wrth golwg360.
“Tu hwnt i hynny, eisiau rhywbeth fyddai’n cyfleu rhin y llwybr a sut mae’r llwybr yn fodd i fwynhau’r gofod arbennig yna rhwng tir a môr.
“Mae hi’n ffin ddynol, ond weithiau i rai mae yna elfen o ffin ysbrydol yna.
“Yn sicr, mae’r llwybr yn fodd i bobol ddengyd o’u gofalon bob dydd.”
‘Pe bai’r môr yn gallu siarad’
Mae themâu fel hanes, natur, ecoleg a lles ysbrydol y llwybr yn codi drwy waith beirdd fel Hanan Issa, Guto Dafydd, Gillian Clarke a Haf Llewelyn.
Dychmygu beth fyddai’r môr yn Sir Gaerfyrddin yn ei ddweud pe bai’n gallu siarad wna cerdd Elinor Gwynn.
“Fe benderfynais i sgrifennu darn fyddai bron yn gazateer yn disgrifio gwahanol leoedd a natur yr arfordir, be oedd yn hynod am y darn yma o’r arfordir,” meddai wrth golwg360.
“Yn ffodus, dw i wedi bod yn gwneud ymchwil dros y blynyddoedd diwethaf yma ac wedi ffeindio sawl peth diddorol yn yr archifau felly roedd e’n gyfle i sôn am ychydig o’r pethau yna hefyd.”
Iwan Bala oedd yr artist ar gyfer y rhan honno o’r arfordir, ac roedd yn awyddus i greu map, ac am i Elinor Gwynn ysgrifennu geiriau fyddai’n gallu cael eu defnyddio ar y map.
“Mae yna dri aber hyfryd yn Sir Gâr ac roedd [Iwan Bala] yn eu gweld nhw’n ffurf eithaf benywaidd,” meddai Elinor Gwynn.
“Wrth edrych ar fap o Sir Gâr, roeddwn i’n gweld yr aberoedd yma’n estyn mewn i’r tir fel breichiau neu fysedd seren fôr.
“A dechreuais i feddwl y byswn i’n dechrau’n fan honno, rhywbeth am y môr yn ymbalfalu am y tir a rhoi ryw bersbectif fel tasa’r môr yn siarad.
“Fel tasa’r môr yn gymeriad, yn wreigan hardd ond yn farus, a be fysa hi’n ddweud am y darn yma o’r arfordir?”
Enwau coll a busnesau’r gorffennol
Yn ‘Pe bai’r môr yn gallu siarad’, mae’r bardd yn dychmygu sut fyddai’r môr yn disgrifio’r newidiadau i’r arfordir.
“Yn y llyfrgell, mae yna lyfrau sy’n cofnodi mewn gwahanol flynyddoedd y gwahanol fusnesau oedd yn nhrefi Cymru,” meddai.
Roedd y busnesau mewn trefi fel Talacharn a Llanelli yn cynnwys bancwyr, bragwyr, gwneuthurwyr hetiau, argraffwyr a rhwymwyr llyfrau, ond yr elfen ddifyrraf i Elinor Gwynn ddod ar ei thraws oedd cofnod o hen enwau sydd wedi mynd yn angof.
Mae sawl un o’r enwau o ardal Glanyfferi’n cael eu crybwyll yn y gerdd, megis Gwter Nansi, Lloc y Llong, Bancdraw, Cwr Glas, Pwll Pastwn, Pwll yr Ychen, Pwll Cornel.
Elinor Gwynn oedd un o’r bobol gyntaf i gerdded Llwybr yr Arfordir pan agorodd yn 2012.
“Y diwrnod ar ôl i’r llwybr gael ei agor yn swyddogol, penderfynais i y bydden i’n cerdded a gosod her i’n hunan o drio byw ar £10 y dydd,” meddai.
“Roedd hynna’n golygu cysgu allan ar ben clogwyni a ryw bethau felly, ac aeth gweddill fy nghyflog am y cyfnod oeddwn i’n cerdded i ddwy elusen.”
‘Trawsnewid diwylliannol’
Mae’r artistiaid ar y prosiect yn cynnwys Simon Page, Bob Guy, Manon Awst a Brian Jones.
Cerflun o gadair lan y môr efo carreg fawr yn eistedd arni ydy cyfraniad Manon Awst i’r arddangosfa, dan yr enw ‘Trwmgwsg’, neu ‘On the Rocks’ yn Saesneg.
“Dw i’n licio’r tensiwn yna rhwng y gwahoddiad yna i ymlacio a’r naws hafaidd, ond wrth gwrs dydy hi ddim yn bosib eistedd yn y gadair,” meddai, gan egluro bod y garreg wedi dod o Barc y Morglawdd yng Nghaergybi.
“Roedden nhw’n gofyn i fi ymateb i arfordir Ynys Môn achos fe wnes i dyfu fyny ym Mhencaernisiog wrth ymyl Rhosneigr.
“Wedyn roeddwn i’n licio meddwl am y tensiwn yna rhwng strwythurau naturiol yr arfordir, strwythurau sydd fel arfer yn ddaearegol, a’r trawsnewid sy’n digwydd yn ddiwylliannol, yn enwedig mewn llefydd arfordirol fel Rhosneigr ac Abersoch lle ti’n gweld twristiaeth bron yn cymryd drosodd yr arfordir yn gyfan gwbl, ac effaith hynna.
“Yn fy ngwaith, dw i’n gwneud lot o gerfluniau a gosodiadau’n ymateb i safleoedd penodol, a dw i’n chwarae lot efo themâu ecolegol am fyd natur, a’r tensiwn yna rhwng pobol a byd natur.
“Dw i wedi bod yn gweithio lot efo daeareg Ynys Môn yn y gorffennol, felly roedd hwn yn gyfle arall i fynd i chwilio am garreg benodol.”
A lle ydy hoff le Manon Awst ar Lwybr yr Arfordir?
“Gan fy mod i wedi tyfu fyny yn yr ardal, roeddwn i’n mynd i Farclodiad y Gawres o hyd a dw i wedi gwneud sawl prosiect celf yn ymateb i’r safle neolithig yna. Mae o reit ar yr arfordir rhwng Rhosneigr ac Aberffraw, ac mae hi jyst yn safle anhygoel,” meddai.
- Mae bob un o’r gweithiau’n cael eu cyhoeddi mewn llyfr coffa, Celf Coast Cymru 10, sydd ar gael i’w brynu yn yr arddangosfa, fydd yn yr Eglwys Norwyaidd tan Fawrth 26.