Sypreis hyfryd oedd gweld erthygl Dafydd Morgan yn ymateb i fy erthyglau diweddar ynglŷn a darpariaeth addysg a’r iaith Gymraeg. Braint o’r mwyaf oedd darllen ei eiriau caredig am safon fy erthyglau a’u cynnwys.
Hoffwn ad-dalu’r ganmoliaeth, gan fod ei erthygl yntau yr un mor wych, ac mi ddysgais lawer wrth ei darllen. Difyr oedd cael gweld y system addysg o ochr arall y bwrdd, fel petai, ac yntau wedi bod yn athro.
Diddorol hefyd oedd clywed am amrywiaeth ei brofiadau fel disgybl, rhwng tair ysgol wahanol; yma, rhoddwyd bys ar un agwedd o’r drafodaeth rwy’ wedi straffaglu hefo hi braidd, ’nôl yn yr ysgol ac yn y drafodaeth ddiweddar: y pwysau, teimlad o gyfrifoldeb… baich… euogrwydd…
Atgoffwyd fi o uniaethu â’r soned ‘Alltud’ gan W. Leslie Richards, pan wneuthum ei hastudio yn Ysgol Morgan Llwyd – bod yn alltud wrth siarad Cymraeg yn “strydoedd a siopau Seisnigaidd, sidét y dre”, a chario bwndel yr iaith o frwydr i frwydr.
Iaith y dosbarth, iaith y galon…
Cawsom drafodaethau cysylltiedig yn ddiweddar wrth recordio ein podlediad ‘Doctoriaid Cymraeg’ (sydd nawr ar gael ar Spotify/ Apple a.y.b!) draw yn y Saith Seren, yng nghwmni’r Clwb Clebran.
Roedd rhai wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg ac yn cofio cael eu dwrdio am siarad Saesneg yn yr ysgol, sydd yn eironig gan ystyried fod hyn oll yn digwydd o fewn trafodaeth am hawliau ieithyddol. Roedd yna naratifau diddorol ynglŷn a gorffen addysg 100% cyfrwng Cymraeg ac, yn debyg i’r hyn y mae Dafydd yn ei grybwyll, am fod heb y sgiliau iaith na hyder i gynnal sgwrs syml mewn siop.
Yn y cyfamser, roedd y sawl oedd wedi mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg wedi gwahaniaethu’r Gymraeg fel iaith y dosbarth, ac efallai, yn gwybyddol ac yn emosiynol, ddim yn ei gweld fel iaith gymdeithasol. Mae fy nheimladau i yn gymhleth.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i fy mhlentyndod – trwy fy nheulu a fy ysgol gynradd. Er i mi gael amser caled yn addysgol, mae gen i atgofion melys iawn o Ysgol Bodhyfryd. Yn y gofod rhwng gwersi, materion ffurfiol, a mynd adref, mae yna atgofion o ganeuon, jamborïau hefo cast C’mon Midffîld, cân actol, a dysgu am y coed hybrid difyr a byd natur ar gae hyfryd yr ysgol.
Wrth feddwl am naratif Dafydd fa’ma, taeraf taw athrawon oedd gennym ni, rhai dawnus, creadigol, wnaeth jobyn gwych o greu ymdeimlad cartrefol, clyd yn yr ysgol; y polisïau uniaith Gymraeg wnaeth fy scupper-o fi nes ymlaen (Mathemateg), a dyma pam rwy’ mor angerddol am y mater hyn.
Wnaeth ein gwestai Rhys Parry pigo lan ar y ffaith fy mod wedi defnyddio’r gair ‘teimlo’, a chawsom drafodaeth ddifyr am yr emosiynau a naws y Gymraeg yn ein bywydau, gan gynnwys yr hyn wnaeth Sean Fletcher ei ddweud ar y rhaglen Stori’r Iaith am y Gymraeg a Shona iddo fo.
Hoffwn ategu. Mae Wrecsam yn ardal ddwyieithog, reit lawr at enw’r stryd lle mae Ysgol Bodhyfryd wedi ei lleoli.
Mae hyn yn rywbeth i’w ddathlu a’i fwynhau, yn hytrach na’i grwgnach na’i ofni.
Addysg dwyieithog hwylus
Mae yna sawl un sydd yn gwrthod hyd yn oed trafod y syniad o addysg ddwyieithog, gan ddweud taw addysg uniaith Saesneg fyddai hynny yn y bôn. Medraf ddeall fod hyn yn dŵad o brofiadau cas, a dwi’n cydymdeimlo. Ond tydi pethau ddim yn gorfod bod fel ‘na, na’dan? Ddim os ydan ni’n cynllunio’n ofalus.
Ac nid jyst parablu’n bersonol ydw i fa’ma. Mae gen i Ddoethuriaeth Ymchwil Seicoleg Glinigol, felly dwi’n gwybod sut i ddarllen a dadansoddi ymchwil ysgolheigaidd. Fues yn ddarlithydd hefo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2015 a 2018, a des yn gyfarwydd â’r llenyddiaeth ‘Trawsieithu’, gan gynnwys ei gwreiddiau yn system addysg Cymru.
Dilynais y sgwarnog wedyn ar hyd a lled y byd, gan wir fwynhau’r siwrne trwy erthyglau a llyfrau niferus. Gwelais rai o sêr y sîn yn cyflwyno mewn cynhadledd ar ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor, a chyfrannais hefyd ar y cyd â ‘nghydweithiwr cyfatebol cyfrwng Saesneg.
Yna, un bore dros frecwast yng Ngwesty Boma yn Entebbe, darllenais erthygl yn y papur newydd, am sut roedden nhw yn trawsieithu yn yr ysgolion lleol, gan blethu’r ieithoedd brodorol niferus; roedden nhw’n gweld budd yn yr amlieithrwydd – o ran addysg ac yn gymdeithasol.
Dyma’r freuddwyd yn fy marn i; cael llithro’n llawen rhwng ieithoedd, fel mae’r Athro Ofelia García yn ei drafod, gan ymfalchïo mewn gofod amlieithog, a pheidio cael eich amddifadu o ieithoedd nac addysg.
Cydio mewn cyfle
Mae Dafydd Morgan yn darfod ei erthygl gan ddweud:
“Mae Dr Sara yn codi cwestiynau gwych ac mae’n ddigon dewr i gydnabod realiti sefyllfa’r Gymraeg o fewn byd addysg. Yn anffodus, dwi wir yn credu ei bod hi’n rhy hwyr i’w hateb nhw.”
Teimlais bach yn drist wrth ddarllen y geiriau hyn. Hoffwn gynnig nad yw hi byth yn rhy hwyr, te befo beth yw’r her; mae yna obaith wastad, ond i ni gydio ym mhob cyfle…