Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd Cymru eisiau gweld “newid brys a thrawsnewidiol” i wella bywydau pobol nawr ac yn y dyfodol.
Wrth ddechrau ar y gwaith ar Ddydd Gŵyl Dewi heddiw (dydd Mercher, Mawrth 1), mae Derek Walker yn awyddus i adeiladu ar fomentwm ei ragflaenydd Sophie Howe.
Mae rôl y comisiynydd yn bodoli o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus greu effaith gadarnhaol heddiw, ar gyfer ein byd yfory.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i greu swyddfa i weithredu fel gwarcheidwad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a Derek Walker yw’r ail i wneud rôl y Comisiynydd.
Cafodd ei ddewis gan banel trawsbleidiol yn y Senedd ac mae’r rôl yn rhoi cyngor a chymorth i’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gymryd golwg tymor hir ar benderfyniadau polisi, ac i ddiogelu a hyrwyddo anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
‘Adeiladu ar y momentwm’
Bydd newid hinsawdd a’r argyfwng natur yn flaenoriaethau iddo, ymysg materion eraill fel yr argyfwng costau byw ac iechyd meddwl.
“Mae’n swydd unigryw yn gweithio mewn maes pwysig iawn. Mae yna lot i’w wneud, mewn sawl gwahanol faes, a nifer o flaenoriaethau gwahanol,” meddai Derek Waller, sy’n dad i ddau ac yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod yn wreiddiol o Gwmbrân, wrth golwg360.
“Ond y gwaith pwysig i fi ydy gwneud yn siŵr bod pobol Cymru’n teimlo bod Cymru’n lle gwahanol a gwell oherwydd y ddeddf ac oherwydd yr ymyrraeth rydyn ni’n ei chymryd dros Gymru yn unol â’r ddeddf i sicrhau ein bod ni’n osgoi problemau yn y dyfodol ac yn trin pethau mewn ffordd holistaidd er mwyn gwneud bywyd yn well i bobol Cymru.
“Byddan ni’n cychwyn ag ymarfer gwrando, oherwydd bod bwlch wedi bod i’r comisiynydd diwethaf orffen a fi’n dechrau mae nawr yn amser da i adolygu’r rhaglen waith, mynd allan i siarad â phobol, gweld be sy’n gweithio, a rhoi blaenoriaethau a rhaglen waith newydd ar gyfer y saith mlynedd nesaf mewn lle.
“Rydyn ni wir eisiau cysylltu efo pobol – nid er mwyn deall be ydy’r problemau, ond er mwyn trafod y datrysiadau. Mae yna rai pethau gwych yn digwydd, sawl cynllun gwyrdd yn digwydd dros Gymru sy’n mynd ag uchelgais y ddeddf yn ei blaen.
“Ond rydyn ni eisiau deall sut y gallwn ni weld mwy o rheiny dros Gymru.
“Dw i eisiau adeiladu ar fomentwm fy rhagflaenydd, a gweld hyd yn oed mwy o effaith dros Gymru i gyd.
“Mae’r materion mawr yn amlwg yn barod. Mae newid hinsawdd a’r argyfwng natur yn faterion hirdymor hollbwysig a fedrwn ni ddim aros i fynd i’r afael â nhw, a byddan nhw yn bendant ymysg y blaenoriaethau.
“Ond mae yna sawl mater arall hefyd y gallwn ni edrych arnyn nhw – yr argyfwng costau byw, y materion yn ymwneud â gofal cymdeithasol, heriau’n ymwneud ag iechyd meddwl ac iechyd yn ehangach.”
Cyn dod yn Gomisiynydd, roedd Derek Walker yn gweithio fel Prif Weithredwr Cwmpas, sef asiantaeth ddatblygu Cymru sy’n trio adeiladu mwy o gwmnïau a busnesau cymunedol, cryfhau cymunedau a gwella sgiliau pobol.
“Mae fy ngyrfa i wedi bod â sefydliadau lle rydyn ni’n trio gwneud gwahaniaeth, trio creu mwy o gyfiawnder cymdeithasol – o ran hynny mae’r [swydd newydd] yn cyd-fynd â fy nhrywydd gyrfa cyn hyn,” meddai.
‘Cydio ar y gefnogaeth’
Un o’r prif heriau ydy bod yna gymaint i’w wneud, meddai’r Comisiynydd newydd, gan ddweud ei bod hi’n hanfodol blaenoriaethu ac edrych lle y gellir cael yr effaith fwyaf bosib.
“Un o’r cyfleoedd ydy’r ffaith fy mod i wedi sylwi faint o gefnogaeth sydd tuag at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a faint o bobol sy’n ei gefnogi ac eisiau i ni barhau i wneud gwahaniaeth,” meddai.
“Mae yna gyfle i gydio ar y capasiti a’r syniadau a pharodrwydd eraill, tu allan i’r sector gyhoeddus, i ddod ar y siwrne hon a chreu symudiad er newid.
“Mae’n gyffrous iawn bod yna gymaint o gefnogaeth tuag at y ddeddf, a phobol eisiau gwneud iddi weithio.”
Mae’r ddeddf yn un eang iawn, a hynny ar bwrpas, meddai Derek Walker wrth esbonio ei bod hi’n annog cyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a Chymru’n ehangach i ystyried nad ydy materion yn bodoli mewn gwagle, ond eu bod nhw’n ddibynnol ar ei gilydd ac i’w trin felly.
“Yr uno yna yw un o’r pethau pwysicaf a mwyaf cyffrous am y ddeddf oherwydd mae’n gorfodi ni i feddwl am bopeth, dydych chi ddim yn meddwl am un mater a ddim yn ei gysylltu â materion eraill.
“Os ydych chi’n meddwl am ofal cymdeithasol, mae angen i chi gynnig gofal cymdeithasol o ansawdd da i bobol Cymru ond mae angen i chi sicrhau bod hynny ar gael i siaradwyr Cymraeg, grwpiau lleiafrifol yng Nghymru.
“Mae’n rhaid meddwl mewn termau eang wrth ddefnyddio’r ddeddf, a deall sut mae pethau’n uno â’i gilydd.
“Yn rhy aml, dydyn ni ddim yn gwneud hynny oherwydd rydyn ni’n canolbwyntio ar un mater penodol.
“Petaem ni’n eu cysylltu nhw â’i gilydd, byddan ni’n mynd ymhellach ac yn osgoi rhai o’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu.”