Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw (dydd Mercher, Mawrth 1), maen nhw’n annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gaiff ei gynhyrchu’n gynaliadwy.

Maen nhw hefyd yn galw am gefnogaeth i ffermwyr er mwyn parhau gyda dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd.

Annog i ddewis cynnyrch Cymreig

“Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaladwy.

“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu.

“Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI), gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg.

“Mae mor faethlon a chynaladwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”

‘Rhoi ein diwydiant ffermio yn gyntaf’

Fodd bynnag, mae Glyn Roberts yn galw am gefnogaeth i ffermwyr Cymru, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn parhau gyda dulliau cynaladwy o gynhyrchu bwyd.

“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd,” meddai.

“Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol.

“Felly, rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”