Rhaid datganoli pwerau dros hawliau cyfraith cyflogaeth i Gymru er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr i streicio, yn ôl Plaid Cymru.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 1), bydd y blaid yn dadlau y byddai datganoli’r pŵer yn sicrhau hawliau a phwerau bargeinio gweithwyr.

Bydd Bil Streiciau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, yn ceisio cyflwyno gofynion newydd i weithwyr ac undebau llafur sy’n awyddus i streicio.

Os nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hynny, byddai undebau llafur yn wynebu colli amddiffyniadau cyfreithiol rhag cael eu herlyn.

Yn yr un modd, byddai gweithwyr yn gallu cael eu diswyddo am gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol.

Er bod y Blaid Lafur wedi cyfaddef bod y ddeddf yn ymosod ar hawliau gweithwyr, dydyn nhw ddim wedi cefnogi’r galwadau am ddatganoli’r pwerau.

‘Amddiffyn gweithwyr’

Mae Plaid Cymru’n dweud bod gwrthwynebiad Llafur i ddatganoli’r pwerau dros hawliau gweithwyr yng Nghymru yn golygu eu bod nhw’n mynd yn groes i’w Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, gafodd ei gyflwyno i’r Senedd fis Mehefin y llynedd.

Nod y bil hwnnw yw gwella gwasanaethau cyhoeddus drwy “weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol”.

Bydd hyn yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n “wlad gwaith teg” o fewn fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â ffurfioli perthynas rhwng undebau llafur, Llywodraeth Cymru, a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus.

“Mae Plaid Cymru’n credu y dylai’r hawl i streicio am gyflog teg ac amodau gwaith diogel fod yn rhan annatod o hawliau dinasyddion yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi.

“Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn benderfynol o ddileu’r hawl hwn drwy eu deddf gwrth-streicio hunllefus, ac nid yw’n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru eisiau’r pŵer i’w amddiffyn.

“Byddai’r ddeddfwriaeth bresennol y mae San Steffan am ei phasio yn ceisio dirwyo neu ymddiswyddo undebau a gweithwyr yn y maes iechyd, gwasanaethau tân ac achub, addysg, trafnidiaeth, gwastraff niwclear ac ymbelydrol, a lluoedd y ffin.

“Mae’r gweithwyr allweddol hyn yn cadw’r wlad i fynd, felly mae eu gallu i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon yn arf bargeinio hanfodol er mwyn sicrhau amgylchedd gwaith diogel a thâl teg.

“Mae absenoldeb y Blaid Lafur ar y llinellau piced yma wedi derbyn sylw ar draws pob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig.

“Rhaid iddynt yn awr fanteisio ar bob cyfle i amddiffyn ein gweithwyr a gallant wneud hyn trwy gefnogi ein galwadau a datganoli pwerau dros hawliau gweithwyr yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, eu sicrhau.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.