Dychwelodd y gyfres ddiweddaraf o DRYCH i’n sgriniau’r wythnos diwethaf. Dw i’n dweud cyfres ond wrth gwrs y cwbl yw “drych” yw term ymbarél eithaf eang a roddir gan S4C ar unrhyw raglen ddogfen awr o hyd. Hynny yw, casgliad o raglenni unigol wedi eu creu gan gyfarwyddwyr a chwmnïau cynhyrchu gwahanol ydynt, sydd yn digwydd cael eu darlledu fel cyfres.