Mae rhai blogwyr wedi bod yn trafod syniadau eitha’ sylfaenol… y gwahaniaeth rhwng ideoleg a syniadau arwynebol i ennill pleidleisiau. Llef un yn llefain yn yr anialwch oedd gan Andrew Potts…

“… mae arnon ni angen gwleidyddion sydd â chred a delfrydau. Pleidiau sy’n sefyll tros rywbeth. Polisïau sy’n diffinio’r math o lywodraeth yr ydych chi eisiau ei hethol. Pobol sy’n gallu arwain, yn hytrach na dim ond dilyn (y wyddoniaeth, etc) ac osgoi eu cyfrifoldeb. Mae’n hen bryd bod egwyddorion a chred yn golygu rhywbeth eto. Nad yw pleidleisiau jyst yn cael eu prynu gydag addewidion i wario mwy na’r gwrthwynebwyr. Fod celfyddyd perswâd trwy ddadlau rhesymegol yn disodli rhethreg chwyddedig. Fod ideoleg, ynghyd â pholisïau cadarn ac egwyddorion, yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi – a phleidleisio drosti.” (nation.cymru)

Mae John Dixon yn gweld rhai o’r un problemau ond yn gweld mai un rheswm am hynny ydi fod y prif bleidiau’n rhannu ideoleg sylfaenol…

“Mae ‘polisi’ wedi dod yn rhywbeth y maen nhw’n ei ddweud er mwyn ennill pleidleisiau (ac, yn bendant iawn, ddylech chi ddim drysu hynny gyda’r hyn y byddan nhw’n ei wneud os cawn nhw eu hethol). Gor-ddweud ydi dadlau (fel yr ydw i weithiau wedi gwneud) nad oes ‘dim’ gwahaniaeth rhyngddyn nhw, ond prin fod y gwahaniaeth rhwng polisïau llym, milain a dideimlad ar un llaw ac, ar y llall, bolisïau llym gydag wyneb caredig ac ychydig o liniaru yn wahaniaeth ideolegol… ar yr holl brif bwyntiau o economeg neoryddfrydol, mae’r ddwy blaid yn canu o’r un llyfr emynau, hyd yn oed os yw un yn denor a’r llall yn fas. I’r naill a’r llall, yr unig ateb posib bellach i’r cwestiwn ‘beth yw pwynt pleidiau?’ yw ‘sicrhau mai’r giang yma sy’n cael eu hethol yn hytrach na’r giang arall’, yn hytrach na chyflwyno gwir ddewisiadau i’r pleidleiswyr ynglŷn â’u dyfodol.” (borthlas.blogspot.com)

Math arall o ddadl egwyddorol oedd gan David Llewellyn ar nation.cymru… awgrym y dylen ni, o gofio hanes y bobol frodorol, fod yn llawer llai balch o’n ‘trefedigaeth’ ym Mhatagonia…

“… bydd llawer yng Nghymru’n dal i fynd yn ddagreuol wrth feddwl am [siaradwyr Cymraeg Patagonia] yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn Ne America, yn chwifio baner sy’n gosod draig ar faner yr Ariannin pan fydd rygbi; prawf pendant mai ni yw’r genedl orau ar y Ddaear. Bu llawer o gyfnewid diwylliannol ystyrlon tros y blynyddoedd – cynhyrchodd Kyffin Williams beth o’i waith gorau yno – ond mae’n hen bryd i ni yng Nghymru yn 2023 ddechrau siarad am realiti ein ‘coloni’ lythrennol ar ochr arall y byd, gydag onestrwydd a heb sentiment [oherwydd] difodiant creulon pobol Tehuelche Chubut a fu’n byw ar y tiroedd hynny am filoedd o flynyddoedd cyn i Lewis Jones a’r Parch Michael D Jones gyrraedd ar y Mimosa [sic].”