Ynys Enlli, rhyw ddwy filltir oddi ar arfordir Pen Llŷn, yw’r unig le yn Ewrop i gael statws ‘Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol’, am ei bod ymysg y llefydd tywyllaf yn y byd.

Gyda’r golau mawr agosaf yn dod o Ddulyn, sydd 70 milltir i ffwrdd, mae Enlli ymysg y llefydd gorau ar y blaned i wylio’r sêr.