O’r pellter yma, mae’n ymddangos mai peth doeth i’r blaid unolaethol fwya’ – y DUP – fyddai derbyn y cytundeb newydd ynglŷn â Gogledd Iwerddon.

Chawn nhw ddim cynnig gwell na hwn, sy’n lliniaru rhywfaint ar rai o’r gofynion biwrocrataidd wrth symud nwyddau i mewn o dir mawr gwledydd Prydain ac sy’n pellhau gafael y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd ar y drefn yng Ngogledd Iwerddon.