Mae prawf diagnostig newydd ar gyfer cyneclampsia yn cael ei gynnig i fenywod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae cyneclampsia yn gyflwr sy’n bygwth bywyd, ac os na chaiff ei drin fe all arwain at gymhlethdodau difrifol ar gyfer y fam a’r baban.

Bydd y prawf ffactor twf y brych (PLFG) newydd yn helpu i wella diagnosis, atal cymhlethdodau i’r fam, lleihau marw-enedigaethau ac atal genedigaethau cyn amser.

Y prawf

Dydy’r profion gwaed ac wrin sylfaenol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i asesu difrifoldeb cyneclampsia ddim yn ddigon sensitif i ragweld beth fydd yn digwydd i’r claf, felly mae nifer sylweddol o fenywod beichiog yn cael eu derbyn i’r ysbyty i gael eu harsylwi ymhellach.

Mae’r prawf PLGF newydd gafodd ei greu yn ystod y pandemig COVID-19 gan Dr Lynda Verghese a Dr Yee Ping Teoh yn cynorthwyo gyda gwneud penderfyniadau.

Mae’r prawf yn mesur lefelau PLGF mewn chwarter awr, gan alluogi i feddygon drefnu menywod beichiog yn gyflym yn ôl risg ac adnabod y rhai sy’n debygol o fod yn rhoi genedigaeth o fewn 14 diwrnod.

Dangosodd astudiaeth beilot y gellir trin y rhai sy’n wynebu’r risg uchaf, sydd â lefel PLGF annormal o isel, yn brydlon i atal cymhlethdodau pellach fel eclampsia, strôc neu farwolaeth y fam.

Cafodd 68% o fenywod ofal cyflym fel claf allanol heb gael eu derbyn i’r ysbyty a doedd dim unrhyw farw-enedigaethau na genedigaethau cyn amser cyn 37 wythnos.

Yn dilyn y canlyniadau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae’r prawf PLGF wedi’i gynnwys mewn canllawiau lleol ar gyfer rheoli menywod beichiog yn y gogledd sy’n cael eu hamau o fod â’r cyflwr cyn-eclampsia.

Mae’r prosiect hefyd wedi’i hyrwyddo gan Gomisiwn Bevan fel prosiect enghreifftiol yn y Senedd gyda’r nod o’i gyflwyno’n ehangach ar draws gweddill Cymru.

‘Cam cadarnhaol ymlaen’

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ar gyfer arloesi; yr wythnos hon fe lansiodd Llywodraeth Cymru’r Strategaeth Arloesi newydd i Gymru sy’n amlinellu sut y byddwn yn defnyddio arloesedd i gyflawni nodau Cymru a mynd i’r afael â’r heriau yn y system,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld datblygiadau sylweddol mewn arloesedd ym maes iechyd a gofal yma yng Nghymru, gydag enghreifftiau newydd a chyffrous o dechnoleg ac ymarfer clinigol yn dod o GIG Cymru, Prifysgolion Cymru a’r sector preifat.

“Drwy ein Strategaeth Arloesi, rwy’n edrych ymlaen at weld mwy a mwy o gynlluniau newydd fel y prawf PLGF, y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial a thechnolegau fel profion biopsi hylif yn cael eu cyflwyno ar draws y sector iechyd a gofal ymroddedig yng Nghymru.”

Mae’r prawf yn “gam cadarnhaol ymlaen”, yn ôl Dr Lynda Verghese, Obstetregydd Ymgynghorol a Gynaecolegydd, ac Arweinydd y Ward Esgor yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

“Mae’r prawf newydd hwn sy’n cael ei roi yn y man lle roddir gofal yn wych, ac yn gam cadarnhaol ymlaen mewn gofal mamolaeth,” meddai.

“Yn hanfodol, gellir gwneud y prawf yn agos at y cleifion ar y ward mamolaeth, gan osgoi unrhyw oedi diangen.

“Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd angenrheidiol i’r tîm meddygol ac i’r claf, gan leihau pryderon y fam a’i galluogi i ddychwelyd adref yn ddiogel i gael gofal fel claf allanol.

“Drwy ddefnyddio’r prawf hwn rydym yn gallu gwella profiad cyffredinol y menywod hyn, gan leihau’r effaith ar eu hiechyd meddwl ac osgoi’r straen o droi eu bywydau ben i waered – gall hyn gynnwys yr angen am ofal plant ychwanegol, amser i ffwrdd o’r gwaith, a chostau teithio diangen.”