“Mae cymryd amser i dy hun, i wella dy les meddwl yn beth da,” yn ôl Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal ar drothwy taith gerdded meddylgarwch.
Bydd y daith gerdded 4k yn cael ei harwain gan Rhys Wheldon-Roberts ar y cyd ag arweinydd meddylgarwch lleol arall ar Fawrth 18 am 9.30yb, a bydd yn cymryd tua thair awr.
Bydd y teithiau’n cael eu cynnal yn rheolaidd, ryw unwaith y mis.
Mae’n hawdd anghofio’r pethau bychain yng nghanol ein bywydau prysur, ac mae byw a bod yn y presennol yn hollbwysig i iechyd meddwl.
Dwysáu mae’r cysylltiad efo natur mewn lle mor arbennig â Chwm Idwal.
“Pan rydym yn ein bywyd dydd i ddydd, mae llawer ohonom yn gweld llawer o stresses, ac yn rhuthro o gwmpas yn y bywyd modern,” meddai Rhys Wheldon-Roberts wrth golwg360.
“Rydym reit aml yn anghofio cymryd pwyll a meddwl am le rydym ni a chymryd amser i’n hunain.
“Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n eithaf hot topic ar y funud, wrth gwrs.
“Mae cymryd amser i dy hun i wella dy les meddwl yn beth da.
“Beth mae meddylgarwch yn gwneud yw rhoi cyfle i rywun wneud hynny, gwneud i rywun sylweddoli sut maen nhw’n teimlo ar hyn o bryd, beth sydd o’u cwmpas a sylwi ar eu hunain.
“Dydy o ddim yn fater o wneud o’n gywir neu’n anghywir, ond yn fater o sylweddoli a chanolbwyntio ar y ‘rŵan’.
“Mae’r cysylltiad rhwng lles meddwl rhywun a natur yn eithaf cryf.”
Lefel ffitrwydd
“Mae gwneud yr ymarferion meddylgarwch mewn gwarchodfa natur fel Cwm Idwal yn gyfle gwych,” meddai Rhys Wheldon-Roberts wedyn.
Gyda llwybr Cwm Idwal yn un pleserus, bydd y daith yn hamddenol, heb ddringo a bydd digon o seibiant ar hyd y ffordd.
“Does dim rhaid bod lefel ffitrwydd uchel o reidrwydd.
“Mae’r daith i fyny i Gwm Idwal, os ydych yn ei nabod neu beidio, mae o’n rhyw 100 metr, ennill elevation mae rhywun ar hyd y daith.
“Mae’r llwybr ei hun yn llwybr da.
“Mae o’n llwybr creigiog felly byddai angen i bobol fod yn eithaf cyffyrddus.
“Does dim dringo.
“Yr unig beth arall o ran lefel ffitrwydd yw bod y daith yn dwy, dair awr ond rydym yn stopio nifer o weithiau ar ei hyd hi.
“Rydym yn mynd ar lefel eithaf araf.”
Natur
Mae meddylgarwch a natur yn mynd llaw yn llaw, felly mae Cwm Idwal efo’i rinweddau godidog yn berffaith i ymarfer meddylgarwch.
“Beth sy’n fanteisiol am ei wneud yn Gwm Idwal yw bod gen ti’r natur,” meddai Rhys Wheldon-Roberts.
“Mae’r cysylltiad hwnnw rhwng meddylgarwch a lles meddwl rhywun, a’r effeithiau positif mae natur yn gallu rhoi i hynna’n gymysgedd da.
“Mae Cwm Idwal yn le ffantastig, mae yna lawer o hanes i’r lle.
“Mae o’n warchodfa natur genedlaethol, ac mae wedi cael ei adnabod fel lle arbennig ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
“Daeth Charles Darwin i’r warchodfa ac i’r cwm ddwywaith yn ystod ei yrfa; mae hynny’n dangos pa mor bwysig yw’r lle.
“Mae’r llyn yn arbennig am ddau reswm; y ddaeareg yn y lle o ran y cerrig a lle mae’r cwm wedi ffurfio, a’r math o rewlifoedd sydd wedi ffurfio’r tir ei hun.
“Wedyn, y planhigion prin sy’n tyfu yn y warchodfa oherwydd siâp y cwm, a sut mae’r rhewlif wedi ffurfio siâp y tirlun yna.
“Ar ben hynny, mae gennym y ffordd mae’r tir yn cael ei reoli rŵan, sy’n gadael i lawer mwy o natur ddod i’r warchodfa.
“Mae gennym goed, planhigion gwahanol a nifer fawr o adar yn nythu yna hefyd.
“Mae yna lawer i weld, o hanes i astudio’r rhewlifoedd, y ddaeareg a’r natur.”
Mae manylion y daith, a sut i gysylltu er mwyn archebu lle, ar gael ar wefan Cwm Idwal.