Yn ogystal â thalu mwy o dreth cyngor, mae perchnogion ail gartrefi yn Sir Benfro wedi gostwng biliau treth heddlu trigolion lleol, yn ôl adroddiad sy’n mynd gerbron y Cyngor Sir heddiw (dydd Iau, Mawrth 2).

Clywodd aelodau o Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor yn ddiweddar y byddai praesept yr heddlu ar gyfer pob eiddo Band D nad yw’n ail gartref yn cynyddu gan bron i £6 heb bremiwm ail gartrefi yn Sir Benfro.

Caiff y premiwm ail gartrefi 100% yn Sir Benfro ei ddefnyddio hefyd i dalu elfen praesept yr heddlu o’r bil treth cyngor ar y cyfan.

Fe fydd cyfarfod llawn y Cyngor Sir yn ystyried argymhelliad diweddar gan y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn ymwneud â Hysbysiad Cynnig blaenorol gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Mark Carter.

Cafodd yr Hysbysiad Cynnig ar elfen braesept yr heddlu o’r bil treth cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag ei gyflwyno ganddo’n ddiweddar, gan alw am archwilio i “gywirdeb a chyfreithlondeb” casglu premiwm ar braesept yr heddlu gan y Cyngor.

Fe amcangyfrifodd fod hynny’n cyfateb i £1.268m ychwanegol yn cael ei roi i’r heddlu.

“Byddwn hefyd yn gofyn fod y pwyllgor yn archwilio sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwario’r arian ychwanegol hwn, sut mae’r swm yma o arian yn lleihau effeithiau ail gartrefi a chartrefi gwag yn y sir hon ac yn rhoi budd i’w thrigolion,” meddai.

Adroddiad

Eglurodd adroddiad ar gyfer aelodau’r pwyllgor ar y pryd na chafodd y refeniw ychwanegol ei roi i Heddlu Dyfed-Powys.

“Tra nad yw cyflwyno’r premiymau’n cynyddu’r cyllid ar y cyfan i Heddlu Dyfed-Powys, mae’n newid cyfran eu costau mae disgwyl i Sir Benfro ei hariannu,” meddai.

Clywodd aelodau’r pwyllgor fod hyn yn golygu y byddai praesept yr heddlu ar gyfer eiddo Band D cyfartalog nad yw’n ail gartref yn codi o £290.16 i £296.12 heb bremiwm treth ail gartrefi.

Pleidleisiodd aelodau’r pwyllgor dros beidio mabwysiadu cynnig y Cynghorydd Mark Carter ar ôl gwybodaeth i’w egluro, gan argymell fod y Cyngor llawn yn gwneud yr un fath.

Fe fydd yr Hysbysiad Cynnig bellach yn mynd gerbron y Cyngor llawn heddiw, gydag argymhelliad nad yw’n cael ei fabwysiadu;

“Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, er eu bod yn deall pam fod yr Hysbysiad Cynnig wedi cael ei gyflwyno, nad oedd prif hanfod yr Hysbysiad Cynnig – sef fod Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn arian ychwanegol – yn ddilys.”

Mae newidiadau i’r dreth gyngor sylfaenol o ganlyniad i unrhyw bremiwm neu newidiadau yn y tri awdurdod bilio eraill (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys) yn cael effaith ar y presaept sydd ar Sir Benfro i Ddyfed-Powys.