Bydd plac porffor yn cael ei ddadorchuddio yn Aberhonddu heddiw (dydd Gwener, Mawrth 3) i gofio am y Gymraes gyntaf i ennill gradd feddygol yn Ewrop.
Roedd Dr Frances Hoggan yn feddyg arloesol, ymgyrchydd a diwygwraig gymdeithasol, a hi hefyd oedd yr aelod benywaidd cyntaf o Goleg Meddygon Prydain.
Plac Dr Frances Hoggan, sydd i’w ddadorchuddio lle cafodd ei geni yn y Stryd Fawr yn Aberhonddu, fydd yr unfed ar ddeg i’w ddadorchuddio dan gynllun Placiau Porffor Cymru.
Syniad Julie Morgan a Jane Hutt, dwy o Aelodau Llafur o’r Senedd, oedd y cynllun yn wreiddiol yn 2017, a’i nod yw dathlu gorchestion menywod Cymru sy’n aml heb eu cofio, a sicrhau bod eu straeon ysbrydoledig yn cael eu hadrodd i’r genhedlaeth nesaf.
Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fydd yn dadorchuddio’r plac sydd wedi’i noddi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Pwy oedd Dr Frances Hoggan?
Cafodd Frances Hoggan ei geni yn 1843 yn 19, Y Stryd Fawr, Aberhonddu, lle mae siop Nicholls erbyn hyn.
Teithiodd hi i’r Swistir i raddio, gan nad oedd yn bosib i ferched ennill gradd feddygol yn y Deyrnas Unedig.
Graddiodd fis Mawrth 1870, dri mis ar y blaen i Elizabeth Garrett Anderson, sydd llawer yn fwy adnabyddus, ac a raddiodd o’r Sorbonne ym mis Mehefin yr un flwyddyn.
Gwnaeth Frances Hoggan enw iddi hi ei hun yno hefyd, gan gwblhau’r radd chwe blynedd dros dair blynedd yn unig.
Yn ogystal â brwydro – er gwaethaf llu o rwystrau – i gymhwyso’n feddyg a hithau’n ferch, bu’n ymgyrchu dros sicrhau y gallai menywod eraill gymhwyso a gweithio fel meddygon ym Mhrydain ac yn India.
Bu hefyd yn ymgyrchu i sefydlu ysgolion uwchradd i ferched yng Nghymru, ac yn ddiweddarach, gweithiodd dros ddiwygio cymdeithas yn yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol a De Affrica.
Yn 1874, priododd â meddyg arall, George Hoggan, a bu’r ddau’n cadw meddygfa yn Llundain lle arbenigai mewn afiechydon plant a benywod.
Dyma’r practis cyntaf i’w redeg gan ŵr a gwraig drwy wledydd Prydain.
Parhaodd i ymgyrchu drwy gydol ei hoes, a bu farw yn 1927.
Dadorchuddio ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
“Wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod mae’n wych gweld 11eg Plac Porffor Cymru yn cael ei ddadorchuddio i ddathlu llwyddiannau arloeswraig fel Frances Hoggan,” meddai Jane Hutt.
“Daeth yn feddyg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd rhwystrau lu yn wynebu menywod oedd am gymhwyso fel meddygon.
“Fel un o’r meddygon benywaidd cyntaf ym Mhrydain, bu’n gweithio’n agos gyda’r arloeswyr meddygol eraill, Elizabeth Garrett Anderson ac Elizabeth Blackwell.
“Roedd Frances hefyd yn fenyw oedd yn barod iawn i fod yn llafar yn gyhoeddus a siaradai’n eofn ar amryw o ddiwygiadau cymdeithasol – yn enwedig addysg a hyfforddiant i ferched – ynghyd ag iechyd y cyhoedd, perthnasau hiliol a hawliau anifeiliaid.
“Rwy’n gobeithio y bydd dadorchuddio Plac Porffor i nodi ei llwyddiannau yn sicrhau y bydd ei henw yn cael ei ddyrchafu i’w statws haeddiannol.”
‘Ysbrydoledig’
Dywedodd Elizabeth Jeffreys, sefydlydd prosiect hanes cymunedol Stori Aberhonddu a helpodd i drefnu dadorchuddio’r plac, fod “bywyd Frances Hoggan yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn rhywbeth y gall pawb yn Aberhonddu fod yn wirioneddol falch ohono”.
“Bu Frances yn brwydro yn erbyn rhagfarnau ei dydd i ddod yn arloeswraig ac yn arbenigwraig ar glefydau merched a phlant – a thynnodd sylw at lawer o feysydd eraill lle’r oedd angen gwelliannau,” meddai.
“Wrth i ni nesu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Fawrth 8fed, mae bywyd Dr Frances Hoggan yn ein hatgoffa o’r gwahaniaeth a wnaed gan arloeswyr benywaidd cynnar.
“Byddai’n wych pe bai pobl yn dod i weld y plac yn cael ei ddadorchuddio y tu allan i siop Nicholls yn y Stryd Fawr am 1yp ddydd Gwener, Mawrth 3.”
Dywed Sue Essex, Cadeirydd Placiau Porffor Cymru, fod y cynllun wedi dechrau yn 2017 “fel ffordd o gofio llwyddiannau’r merched hynod niferus yng Nghymru sydd, yn anffodus, wedi cael eu hanwybyddu gan y llyfrau hanes”.
“Rydym yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol i gael Placiau Porffor i fenywod ac rydym yn falch iawn o anrhydeddu gwraig mor arbennig â Frances Hoggan,” meddai.
“Rwy’n gobeithio y bydd hi’n ysbrydoli llawer o ferched ifanc heddiw i wthio’r ffiniau a helpu eraill fydd yn dod ar eu holau.”
Traddodiad anghydffurfiol Cymru
“Mae bywyd Frances Hoggan yn enghreifftio traddodiad anghydffurfiol Cymru, trwy ei hymgyrchoedd ar iechyd menywod, addysg i ferched a hawl menywod i astudio meddygaeth,” meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod y cyfraniadau arloesol hyn trwy ein Medal Hoggan flynyddol, sy’n dathlu cyfraniadau rhagorol gan fenywod mewn pynciau STEM.
“Rydym felly’n falch iawn o fod yn noddi’r Plac Porffor hwn sy’n anrhydeddu Frances Hoggan ac yn gobeithio y bydd yn ennyn diddordeb pellach yn y fenyw nodedig hon.”