Yn ystod eu cynhadledd, fe fydd Plaid Cymru’n lansio “cynllun economaidd newydd” i drawsnewid swyddi, creu swyddi gwyrdd a chefnogi busnesau bach.

Yn ôl yr arweinydd Adam Price, “dyma’r amser am weledigaeth newydd fydd yn troi economi Cymru yn un sy’n gweithio i bawb yng Nghymru”.

Dywed fod yr argyfwng economaidd presennol sy’n wynebu teuluoedd yng Nghymru’n “ganlyniad uniongyrchol” i doriadau Torïaidd a diffyg uchelgais y Blaid Lafur.

Dywed y byddai sicrhau bod Cymru’n cymryd perchnogaeth lawn dros ei hadnoddau naturiol, gan gynnwys datganoli llawn dros ystad y Goron, yn rhan o gynllun economaidd ehangach i “drawsnewid economi Cymru”, codi safonau byw pobol, a’u hamddiffyn rhag “anhrefn economaidd San Steffan”.

Bydd Cynhadledd Plaid Cymru’n cael ei chynnal ar Fawrth 3 a 4 yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli.

‘Digon yw digon’

“Biliau ynni uchel ond cyflogau yn cwympo,” meddai Adam Price.

“Gweithwyr ar streic a gwasanaethau cyhoeddus mewn argyfwng.

“Swyddi yn cael eu torri a busnesau’n mynd i’r wal.

“Dyma ganlyniad uniongyrchol dros ddegawd o doriadau Torïaidd a diffyg uchelgais a gweithredu gan y Blaid Lafur sydd wedi gwanhau economi Cymru gan adael pobol gyffredin yn brwydro i roi bwyd ar y bwrdd.

“Digon yw digon.

“Mae angen i ni drawsnewid ein heconomi nawr i godi safonau byw ac amddiffyn ein hunain rhag anhrefn economaidd San Steffan – gan gymryd perchnogaeth o’n hadnoddau naturiol a buddsoddi yn ein busnesau lleol.

“Gall Cymru fel cenedl annibynnol a rhydd o anhrefn San Steffan, fod yn berchen ar economi gref a deinamig, wedi’i seilio ar fusnesau cynhenid llwyddiannus.

“Felly nawr yw’r amser ar gyfer gweledigaeth newydd a fydd yn troi economi Cymru yn economi sy’n gweithio i bob rhan ac i bawb yng Nghymru.

“Dyna pam rwy’n falch o ddweud y bydd Luke Fletcher yn lansio cyn bo hir i cynllun Dros Gymru – sef rhaglen ar gyfer dyfodol ein cenedl ac economi newydd wyrdd, gymdeithasol gyfiawn, fydd yn cael ei gyrru’n lleol – ac y math o gynllun mae Llafur wedi methu ei ddelifro mor belled.”

‘Rhowch y grym i ni yng Nghymru’

“Rhowch y grym i ni yng Nghymru fel y gallwn ddechrau’r gwaith o drawsnewid economi Cymru – gan wneud tlodi yn ran o hanes, nid realiti miloedd o bobol pob dydd,” meddai Adam Price wedyn.

“Mae hynny’n dechrau gyda setliad cyllido tecach, pwerau ariannol cryfach a rheolaeth lawn dros ein hadnoddau naturiol – gan gynnwys datganoli ystad y Goron – fel y gallwn gymryd perchnogaeth o botensial anhygoel Cymru i yrru’r Chwyldro Diwydiannol Werdd nesaf.

“Ac mae gan Chwyldro Gwyrdd Cymreig y gallu i drawsnewid economi Cymru.

“I adfywio ac ail-fywiogi, i gysylltu cartrefi a busnesau gyda pŵer glân, dibynadwy, fforddiadwy, gan greu miloedd o swyddi da a thrydan rhad.

“A dim ond trwy ddychwelyd mwy o ASau Cymru Plaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf y gallwn gryfhau llais Cymru yn San Steffan a gorfodi’r prif weinidog nesaf i roi’r hyn yr ydym yn ei haeddu fel cenedl.”

Mhairi Black yn annerch y gynhadledd

Yn y cyfamser, bydd Mhairi Black o’r SNP yn annerch y gynhadledd, gan fynnu “na ddaw newid gwirioneddol fyth o du San Steffan”.

Dyma’r tro cyntaf iddi annerch cynulleidfa ers iddi ddod yn ddirprwy arweinydd yr SNP yn San Steffan, a bydd hi’n achub ar y cyfle i gefnogi Plaid Cymru a’r nod o ymreolaeth i Gymru a’r Alban.

Mae disgwyl iddi ddweud, “Gyda’r Torïaid a’r Blaid Lafur, sydd o blaid Brexit, bellach yn un, mae’n glir na ddaw newid gwirioneddol fyth i’r Alban na Chymru o du San Steffan”.

“Dim ond annibyniaeth – a’r pwerau llawn a ddaw yn ei sgil – all arwain at ddyfodol gwell.

“Mae pobol yn cydnabod mai dyma’r realiti, gyda chefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu yn y ddwy genedl Geltaidd.

“O dan y llywodraeth San Steffan hon, wedi’i hadeiladu ar slebogrwydd a ffrindgarwch, fe gawson ni ddegawd o lymder, Brexit trychinebus, cipio grym oddi ar ein seneddau datganoledig, ac nawr maen nhw’n gwthio pobol dros yr ynysoedd hyn i mewn i dlodi tanwydd drwy godi biliau ynni, er bod ganddyn nhw’r arian i’w torri nhw.

“Yn ogystal â bod yn llawforynion i Brexit Torïaidd ac wfftio’r posibilrwydd na fyddan nhw fyth yn ceisio ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd, mae’r Blaid Lafur o hyd wedi rhoi buddiannau San Steffan o flaen y bobol sy’n byw mewn gwledydd datganoledig, yn union fel y Torïaid.

“Yn y cyfamser, mae’r SNP a Phlaid Cymru wedi cydsefyll wrth ddwyn y llywodraeth San Steffan ddi-drefn i gyfrif, yn ogystal â chyflwyno’r achos positif dros ymreolaeth, a byddwn yn parhau i wneud hynny.”