Mae pobol oedrannus yng Nghymru sy’n dioddef “ton o dwyll” yn colli £35,000 y dydd, yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu datgelu gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae’r blaid wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr yn San Steffan o “gysgu wrth y llyw” o ran y frwydr yn erbyn twyll, ac maen nhw’n galw am strategaeth frys i warchod dioddefwyr, gan gynnwys pobol oedrannus a bregus, rhag cael eu twyllo ar-lein.
Daeth y ffigurau i’r fei trwy gais Rhyddid Gwybodaeth gan y blaid i Action Fraud, oedd yn gofyn am fanylion pob achos o dwyll yn erbyn pobol dros 65 oed dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Cafodd cyfanswm o £51.2m ei golli dros y cyfnod hwnnw, sy’n cyfateb i £35,087 bob dydd.
Roedd 1,847 o achosion o dwyll yn erbyn pobol oedrannus yn 2019, i fyny i 3,366 yn 2022, ac roedd colledion ariannol wedi cyrraedd lefel newydd yn 2022, gyda phensiynwyr yn colli bron i £16.5m, i fyny o £6.8m yn 2021.
Ers dechrau 2019, mae mwy na 12,000 o achosion o dwyll yn erbyn pensiynwyr wedi cael eu cofnodi yng Nghymru.
Beirniadu’r Ceidwadwyr
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol San Steffan am fethu yn eu cyfrifoldeb i fynd i’r afael â thwyll.
Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi cyhoeddi’r Strategaeth ar Dwyll roedd yn ei haddo fis Mawrth y llynedd, oedd i fod i ddisodli cynlluniau 2021 i greu Cynllun Gweithredu ar Dwyll cenedlaethol, ond ddaeth honno ddim i’r fei yn y pen draw.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu bod rhaid i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi eu Strategaeth ar Dwyll ar frys, ar ôl misoedd o oedi.
Maen nhw hefyd yn galw am greu Asiantaeth Troseddau Ar-lein i gydlynu’r gwaith ar draws y wlad o fynd i’r afael â thwyll ar-lein.
“Mae pobol oedrannus ledled Cymru’n wynebu ton o dwyll, wrth i droseddwyr creulon eu targedu nhw am yr arian maen nhw wedi gweithio’n galed i’w ennill,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Ond yn rhy aml, mae’r twyllwyr ffiaidd sy’n targedu pensiynwyr bregus yn cael mynd yn rhydd.
“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cysgu wrth y llyw yn y frwydr yn erbyn twyll, a phobol oedrannus ein cenedl sy’n talu’r pris syfrdanol.
“Rhaid i weinidogion Ceidwadol, o’r diwedd, gyhoeddi eu strategaeth y bu cryn aros amdani i fynd i’r afael â thwyll, gan gynnwys mesurau i warchod dioddefwyr oedrannus a bregus rhag twyll ar-lein.
“Rhaid i bobol wybod, os ydyn nhw wedi dioddef twyll, y gallan nhw fynd at yr heddlu ac y bydd ymchwiliad i’w hachosion nhw.
“Ar hyn o bryd, gyda’r cyfraddau uchel dros ben, gallai nifer weld hyn fel ymarfer anobeithiol.
“Gyda phensiynwyr yng Nghymru’n colli dros £35,000 bob dydd yn sgil twyll, mae’r gost o oedi’n annerbyniol.”