Mae senedd Catalwnia wedi cymeradwyo cynnig drafft yn annog y cwmni technoleg Google i beidio â chyfieithu enwau brodorol i’r Sbaeneg ar Google Maps.

Cafodd yr un cynnig ei basio ar yr ynysoedd Balearaidd, ac yng Nghatalwnia fe ddenodd cynnig un o bwyllgorau’r senedd gefnogaeth pleidiau annibyniaeth Esquerra, Junts per Catalunya a’r CUP, ynghyd â’r Sosialwyr ac En Comú Podem.

Yn ôl plaid Esquerra, y blaid oedd wedi cyflwyno’r cynnig yn ffurfiol, mae enwau lleoedd fel Empúries neu Penedès yn dal i gael eu trosi i’r Sbaeneg (Ampurias a Panadés), ac maen nhw’n dweud bod hyn hefyd yn digwydd ar ynysoedd neu mewn tiriogaethau eraill ledled Sbaen.

“Mae enwau lleoedd yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth annirweddol pobol ac yn elfen hanfodol o adnabod tiriogaethau,” meddai Irene Aragonès, llefarydd ar ran y pwyllgor diwylliant o blaid Esquerra.

Ychwanegodd nad oes “unrhyw synnwyr” mewn parhau i ddefnyddio enwau lleoedd sy’n ymgais yn hanesyddol i “gymhathu”.

Y cynnig

Mae’r cynnig yn galw ar Google i ddefnyddio’r un meini prawf yng Nghatalwnia ag y mae’n eu defnyddio mewn gwledydd eraill.

Ar y cyfan, bydd defnyddwyr Google Maps yn Sbaen yn gweld ‘Londres’ yn hytrach na’r enw Saesneg ‘London’ gan ei bod yn ddinas fawr ryngwladol, ond dydy enwau llefydd llai, megis Lerpwl, ddim yn cael eu cyfieithu.

Yn ôl Esquerra, mae hyn yn bwysig yn achos yr ieithoedd Catalan ac Aranaidd, gan fod gwahanol sillafiad yn cael ei ddefnyddio am resymau gwleidyddol, diwylliannol a thiriogaethol yng nghyfnod Franco.

Mae’r testun ar gyfer y cynnig hefyd yn cynnwys gwelliant yn galw ar lwyfannau digidol eraill megis Wikipedia i osgoi cyfieithu enwau lleoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Catalwnia i wneud mwy i atal patrymau peiriant chwilota Google rhag cuddio ‘trawiadau’ yn yr iaith Gatalan.