Mae Catalwnia’n dathlu ‘La Dia de Sant Jordi’ (Diwrnod San Sior) heddiw gyda nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu i nodi’r achlysur.
Yn ôl traddodiad y wlad, mae cyplau yn cyfnewid rhosod a llyfrau gan nodi hefyd y dyddiad y bu farw’r awdur Miguel de Cervantes.
Mae Catalwniaid wedi bod yn dathlu’r diwrnod ers 1436, ond mae’r traddodiad o roi llyfrau wedi bodoli ers 1926.
Mae nifer o ffeiriau blodau a llyfrau’n cael eu cynnal yng Nghatalwnia heddiw, a’r mwyaf ohonyn nhw yn Sgwâr Sant Jaume y tu allan i adeilad llywodraeth y wlad.
Mae adeilad y llywodraeth hefyd ar agor i’r cyhoedd heddiw, yr unig ddiwrnod yn ystod y flwyddyn y mae’n cael ei agor.
Ers 1978, mae Catalwnia’n cynnal cystadlaethau llenyddol er mwyn rhoi hwb i lenyddiaeth a’r iaith Gatalan.
Mae’n gyfle hefyd i awduron newydd hyrwyddo’u gwaith.
Bellach, mae’r traddodiad o gyfnewid rhosod a llyfrau wedi ymestyn i’r Unol Daleithiau, Siapan a Ffrainc.
I nodi’r diwrnod, mae Clwb Pêl-droed Barcelona yn rhoi 2,500 o rosod i’w cefnogwyr yn y Camp Nou.
Bydd staff y stadiwm yn gwisgo gwisg draddodiadol Catalwnia wrth iddyn nhw ddosbarthu’r rhosod.