Mae dynes wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth tri o blant bach mewn ty yn ne Llundain.

Fe gafodd y wraig 43 oed ei chymryd i’r ddalfa wedi i gyrff merch bedair oed, a dau fachgen teirblwydd gael eu canfod mewn ty mawr yn New Malden neithiwr.

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad a’r marwolaethau.

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau fod y wraig wedi cael ei chludo i’r ysbyty i gael triniaeth cyn cael ei hanfon adref, ac yna ei harestio.