Mae protestio treisgar yn digwydd mewn slym yn ninas Rio de Janeiro, Brasil ar hyn o bryd yn dilyn honiadau bod heddlu wedi lladd dyn ifanc yno.

Cafodd corff Douglas Rafael da Silva Pereira, sy’n 25 oed ac yn ddawnsiwr ar sioe deledu ym Mrasil, ei ddarganfod yn y slym ddoe.

Nid oes manylion wedi eu cyhoeddi am amgylchiadau’r farwolaeth, ond mae trigolion yn beio’r heddlu.

Roedd ffrwydradau ac ergydion gwn i’w clywed wrth i swyddogion heddlu symud i mewn i ardal Pavao-Pavaozinho, sydd ychydig lathenni o ble fydd rhai gweithgareddau Olympaidd yn cael eu cynnal yn 2016.

Mae’r gwrthdaro hefyd yn digwydd ychydig wythnosau cyn i’r ddinas groesawu twrnament Cwpan y Byd ym mis Mehefin.

Mae nifer o drigolion Brasil wedi cwyno am ymddygiad treisgar swyddogion heddlu ers sefydlu prosiect ddiogelwch yn 2008 sy’n ceisio cael gwared a gangiau o’r slyms.