Mae gwirfoddolwr a chyngorydd yng Nghaernarfon, sy’n cludo nwyddau i gymunedau gafodd eu taro gan ddaeargrynfeydd yn Nhwrci a Syria, yn dweud bod angen i’r digwyddiadau fod ar y teledu’n amlach er mwyn atgoffa pobol o’r sefyllfa arswydus.

Ar Chwefror 6, roedd daeargryn yn ne a chanolbarth Twrci, yn ogystal â gogledd a gorllewin Syria, ac mae un sy’n gynghorydd tref yng Nghaernafon yn gwirfoddoli i Borthi Dre, sy’n mynd â nwyddau i drigolion y ddwy wlad yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu taro.

Bu nifer o wirfoddolwyr yn gweithio ar y prosiect, gan gynnwys un o’r gymuned Twrcaidd sy’n gweithio mewn siop kebabs yng Nghaernarfon oedd wedi gyrru’r lori llawn nwyddau i Fanceinion.

Yn hael iawn, rhoddodd nifer o bobol o Gaernarfon nwyddau i’r apêl, ac mae’r Cynghorydd Kenny Richards (Khan) yn dweud bod yr ymdrech wedi bod yn “wych”.

“Yn gyntaf ac yn bennaf, mae Porthi Dre yn anfon diolch diffuant, cariad a pharch at eich rhoddion, yn enwedig yr holl wirfoddolwyr a roddodd eu hamser i gategoreiddio, bagio a labelu popeth gyda dagrau distaw llawn tristwch a gobaith tuag at ddioddefwyr y trychineb ofnadwy hwn,” meddai Kenny Richards (Khan) wrth golwg360.

“Ni all geiriau mewn unrhyw iaith ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd i’r bobol sy’n dioddef mor ddrwg.”

‘Erchyll’

Yn ôl Kenny Richards (Khan), mae’r daeargrynfeydd yn cael digon o sylw ar y newyddion, ond fyddai mwy o sylw i’r argyfwng dyngarol yn fuddiol gan ei fod mor ofnadwy.

Ac mae’r rhai sydd wedi arfer ag effaith rhyfel wedi’u syfrdanu gan effaith y daeargrynfeydd.

“Rwy’n meddwl bod y daeargryn hwn wedi cael digon o sylw yn y cyfryngau,” meddai Kenny Richards (Khan) wrth golwg360.

“Ond mae angen iddo fod ar y sgrîn yn amlach i atgoffa pobol o arswyd yr hyn sydd wedi digwydd yn Nhwrci a Syria. Mae’n erchyll.

“Aeth rhywun â chriw camera allan i’r BBC.

“Roeddwn i’n siarad â chynhyrchydd, ddaru nhw anfon criw dau berson allan, a chysgu yn y fan.

“Maen nhw wedi arfer ymdrin â materion rhyfel ac fe ddywedon nhw rywbeth tebyg i ‘Mae hwn yn waeth na lle wedi’i effeithio gan ryfel’.

“Dydyn nhw erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg.

“Doedden nhw ddim yn gallu ymolchi, doedden nhw ddim yn gallu glanhau, roedden nhw’n sownd yng nghefn y fan.

“Dywedon nhw fod y dinistr yn arswydus.

“Yr anhawster sydd gan Syria yw eu bod nhw efo rhyfel cartref, ac mae gennych chi’r holl wleidyddiaeth yn gysylltiedig â hyn.”

Cofis yn helpu

Hassan Yalcin o Caernarfon Kebabs a Kenny Richards (Khan) benderfynodd fod angen helpu trigolion Twrci a Syria.

Gwirfoddolodd llawer o drigolion Caernarfon i helpu casglu’r nwyddau, ac roedd llawer o waith i gael trefn ar bethau.

Roedd llawer o drafferth hefyd wrth gysylltu â’r bobol fyddai’n derbyn y nwyddau.

Gyrrodd Hassan y fan yn llawn nwyddau i Fanceinion wedyn.

“Roedd 20 yn gwirfoddoli, ond nid oeddent i gyd yno ar unwaith,” meddai.

“Roedd o leiaf wyth yn gweithio bob dydd.

“Cymerodd gryn dipyn i weithio allan sut i wneud pethau.

“Roedd y merched i gyd yn labelu’r bagiau a’u gwagio, roedden nhw’n sortio trowsus y bechgyn gan fod y stwff yn dod i mewn.

“Roedd yr un eitemau yn cael eu rhoi mewn bag, felly roedd yn haws i’r bobol ar y pen arall ddeall beth oedd ynddyn nhw.

“Roedd trowsus mewn un bag, ac roedd gan un arall topiau.

“Y cyfan wnaethon ni oedd mynd â’r lori i faes awyr Manceinion.

“Cytunodd y ddau ohonom fod angen i ni wneud rhywbeth.

“Ffoniodd Hassan Lysgenhadaeth Dwrcaidd Llundain, ond doedd dim ateb.”

Angen nwyddau penodol

Ond yn dilyn sgyrsiau rhwng amrywiol lysgenhadon a’r gwirfoddolwyr, roedd popeth yn ei le ac fe wnaethon nhw gytuno i dderbyn y nwyddau o Gaernarfon.

“Ond roedd problem gyda gormod o ddillad,” meddai wedyn.

“Roedden nhw eisiau eitemau penodol.

“Ar un adeg, roeddem yn mynd i banig na fydden nhw’n eu derbyn, ond gwnaethon nhw dderbyn popeth oherwydd gwaith Hassan.”

Gwaith gwerthchweil

Yn sgil ei waith, mae Kenny Richards (Khan) yn cofio un stori arbennig o emosiynol am natur ddynol un ddynes gyfrannodd ddillad yn dilyn marwolaeth ei gŵr.

“Digwyddodd rhywbeth hyfryd iawn ym Mhorthi,” meddai.

“Daeth gwraig hyfryd â sawl bag efo eitemau.

“Eglurodd mewn llais simsan, emosiynol fod yr eitemau hyn yn golygu llawer iddi.

“Dim ond tri mis yn ôl, collodd ei hannwyl ŵr.

“Aeth yn ei blaen i egluro, ers marwolaeth ei hannwyl ŵr, na allai hyd yn oed agor ei gwpwrdd dillad gan ei fod yn rhy boenus iddi.

“Roedd yn brifo, a’r boen yn amlwg yn ei chorff, ei llygaid a’i chalon.

“Fodd bynnag, hyd yn oed yn fwy prydferth, hyd yn oed yn fwy poenus, eglurodd ei bod yn dymuno y byddai ysbryd dillad ei gŵr yn treiddio i gynhesrwydd a chariad at bobol Twrci a Syria sydd wedi’u curo a’u torri.

“Diolch yn fawr iawn i’r person hardd hon, a phob un ohonoch sydd wedi ymateb i’r alwad.”

Caredigrwydd y Cofis

Wedi’i fagu yng Nghaernarfon, mae gan Kenny Richards (Khan) gariad mawr tuag at y dref a’i phobol.

Yn ei farn o, dangosodd pobol Caernarfon garedigrwydd at gyd-ddyn, dim ots beth yw eu sefyllfa ariannol eu hunain.

“Rwy’n caru Caernarfon,” meddai.

“Cefais fy magu yma yn blentyn.

“Rwy’n caru’r dref hon.

“Mae pobol Caernarfon wedi bod yn wych.

“Mae hon yn dref fechan gyda llawer o bobol yn ddi-waith ac yn cael trafferthion, ond nid pawb.

“Dim ots o ble roedd pobol yn dod, na’u sefyllfa economaidd, roedd pawb yn helpu.

“Roedd yn dangos caredigrwydd y Cofis.

“Roedd yn wych.”

Gweithwyr achub ar y rwbel yn Syria

‘Hunllef sydd byth yn dod i ben’: Galw am roi fisas i Syriaid sydd wedi’u heffeithio gan y daeargrynfeydd

Mae Cymdeithas Syriaidd Cymru ymysg y rhai sy’n galw am raglen fisas i Syriaid â theulu agos yng ngwledydd Prydain fyddai’n cynnig llety iddyn nhw
Gweithwyr achub ar y rwbel yn Syria

Cymru’n codi £2.5m tuag at ailadeiladu bywydau plant yn dilyn daeargrynfeydd Twrci a Syria

Mae dros saith miliwn o blant wedi cael eu heffeithio gan y daeargrynfeydd
Phil Irving yn ei wisg achub bywydau

Y dyn o Hwlffordd sy’n achub bywydau ar ôl daeargryn Twrci

Fe wnaeth Phil Irving dynnu dau o bobol o’r rwbel yn fyw
Gweithwyr achub ar y rwbel yn Syria

Y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn lansio Apêl Daeargryn Twrci-Syria

Mae dros 11,000 o bobol wedi’u lladd erbyn hyn