Mae Cymru wedi codi £2.5m tuag at helpu i ailadeiladu bywydau plant sydd wedi cael eu heffeithio gan ddaeargrynfeydd Twrci a Syria.

Mae’r pwyllgor argyfyngau DEC Cymru yn helpu plant yn y ddwy wlad, gyda thros saith miliwn ohonyn nhw wedi cael eu heffeithio.

Mae’r daeargrynfeydd wedi chwalu bywydau teuluoedd, cartrefi ac addysg plant.

Dywed y Cenhedloedd Unedig fod 4.6m o blant yn Nhwrci a 2.5m yn Syria yn byw yn y deg talaith i gael eu heffeithio.

Mae’r asiantaeth CU Unicef yn pryderu bod “miloedd” o bobol wedi marw, ac y bydd angen cymorth dyngarol ar filiynau.

Apêl

Mae Apêl Daeargryn DEC Twrci-Syria yn cefnogi teuluoedd a phlant drwy elusennau sy’n aelodau o DEC a’u partneriaid sy’n gweithio yn y ddwy wlad.

Dros gyfnod o chwe niwrnod, mae’r apêl erbyn hyn wedi codi £2.5m yng Nghymru, gyda chyfanswm y Deyrnas Unedig yn cyrraedd y swm anhygoel o £84m.

Mae hyn yn cynnwys £5m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r cynllun cyfatebol UK Aid Match, a chyfraniad o £300,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae elusennau DEC a’u partneriaid lleol yn cyfrannu cymorth ar frys i blant a’u teuluoedd yn y ddwy wlad, sy’n cynnwys bwyd, dŵr, lloches a dillad cynnes.

Mae amddiffyn y rhai mwyaf bregus hefyd yn flaenoriaeth, wrth i blant sydd wedi eu gwahanu neu eu dadleoli o’u teuluoedd neu wedi eu gadael yn amddifad wynebu risg o gael eu hecsbloetio.

Yn ôl elusen DEC World Vision, mae nifer y plant sydd heb ofalwyr neu wedi eu gwahanu yn codi yn ddyddiol wrth i dimau chwilio ac achub barhau i ddod o hyd i blant a babanod o dan y rwbel.

Mae cefnogi iechyd meddwl plant hefyd yn hanfodol wedi iddyn nhw brofi erchyllterau.

Mae angen mannau diogel i blant gael chwarae, ac mae angen sefydlu unedau symudol i fynd i’r afael ag anghenion seicolegol yr erchylltra.

Mae Achub y Plant yn dosbarthu pebyll a hanfodion sy’n cynnwys blancedi, dillad cynnes, gwresogyddion, bwyd babanod a chewynnau.

Mae un plentyn sy’n derbyn cymorth yn chwe mlwydd oed, ac roedd yn cysgu’n drwm yn ei gartref yn Syria pan ddigwyddodd y daeargryn.

Cafodd ei daro ar ei ben a’i gladdu o dan y rwbel wrth i’w gartref ddymchwel o’i gwmpas.

Llwyddodd ei dad i’w achub, ond cafodd dau o blant eraill o’r un teulu eu lladd.

Mae Achub y Plant yn helpu’r teulu drwy gyfrannu cymorth cyntaf a bwyd iddyn nhw.

‘Effaith ddinistriol’

“Mae’r daeargrynfeydd wedi cael effaith ddinistriol ar fywydau ryw saith miliwn o blant,” meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru.

“Mae nifer wedi marw, llawer wedi eu hanafu, llawer mwy wedi colli aelodau o’r teulu, ffrindiau neu eu cartrefi.

“Mae goroeswyr bellach yn wynebu trychineb arall – ar ôl cael eu gadael heb gysgod digonol, bwyd, dŵr yfed diogel, neu gyfleusterau glanweithdra fel toiledau a dŵr glân a hynny mewn amodau gaeafol rhewllyd.

“Rhaid i’r gymuned ryngwladol wneud popeth o fewn ei gallu, ac mor gyflym ag y gall, i atal ail drychineb dyngarol.”

Yn ôl Johan Mooij, Cyfarwyddwr Ymateb Syria World Vision, “mae plant Syria unwaith eto mewn perygl o gael eu hanghofio yn dilyn yr argyfwng annirnadwy hwn”.

“Ar ôl dioddef o bron i ddeuddeg mlynedd o ryfel a dinistr, mae’r daeargryn enfawr hwn wedi ychwanegu cymhlethdod arall i’w bywydau ifanc, ac mewn rhai achosion hyd yn oed yn cipio eu hanwyliaid oddi arnyn nhw,” meddai.

“Mae’n fater brys ein bod yn mynd i’r afael ag anghenion plant ar eu pen eu hunain, er mwyn sicrhau eu bod yn dal i allu derbyn y gofal sydd wir ei angen arnyn nhw yng ngogledd-orllewin Syria.”

‘Anodd amgyffred’

Yn ôl Siân Stephen, Rheolwr Materion Allanol DEC Cymru, “mae’n anodd amgyffred maint y trychineb yma”.

“Mae’r ardal ddaearyddol a effeithiwyd gan y daeargrynfeydd ofnadwy hyn yn fwy na maint Cymru gyfan,” meddai.

“Pe bydden nhw wedi ein taro ni yma, does yna’r un cornel o Gymru na fyddai wedi teimlo’r effaith.

“Mae saith miliwn o blant wedi eu heffeithio gan y daeargrynfeydd – mae hynny’n fwy na dwbl ein poblogaeth gyfan ni.

“Mae’n dorcalonnus meddwl am yr hyn y maen nhw wedi bod trwyddo, a pha mor anodd y bydd y misoedd sydd i ddod iddyn nhw.

“Yn wyneb angen ar raddfa mor enfawr, dwi wedi fy llethu wrth weld yr ymateb sydd wedi bod yma yng Nghymru.

“Dw i’n teimlo gymaint o falchder wrth weld caredigrwydd cymunedau ar hyd a lled y wlad sy’n trefnu gweithgareddau i godi arian ar gyfer yr apêl.

“Er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n gyfnod economaidd anodd rydym wedi codi £2.5m mewn llai nag wythnos – mae’n anhygoel.

“Gall eich rhoddion helpu plant gyda phethau fel bwyd, dillad cynnes, lloches, gofal meddygol brys a gwaith i wella eu lles yn gyffredinol.”