Mae ymgyrchwyr sydd â phrofiad personol o broblemau tai wrthi’n ceisio atebion ar lawr gwlad i’r argyfwng tai.

Cafodd Siarter Cartrefi Cymru ei sefydlu yn 2020 gan ymgyrchwyr cymunedol sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau tai.

Ddydd Sadwrn (Chwefror 18), bydd y grŵp yn cynnal Cynhadledd Argyfwng Tai, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn y gynhadledd bydd Siarter Cartrefi Cymru yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.

“Rydyn ni wedi gwahodd pobol sydd wedi eu heffeithio’n uniongyrchol gan yr argyfwng rai sydd wedi eu profi effaith ail dai, tai gwyliau a phrisiau tai uchel yn ein cymunedau, yn ogystal â phobol sy’n gweithio ym maes tai a chynllunio,” meddai Cara Wilson ar ran Siarter Cyfiawnder Cartrefi.

“Mae rhoi llais i bawb yn allweddol i’r gynhadledd.

“Yn hytrach nag anerchiadau, bydd mynychwyr yn arwain ar drafod polisïau radical a blaengar, sy’n blaenoriaethu ein cymunedau.

“Yn dilyn y gynhadledd bydd Siarter Cartrefi Cymru yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.

“Mae dod ag ymgyrchwyr a chymunedau ynghyd gyda’r rhai sy’n creu polisi yn greiddiol i’r gynhadledd.”

Datrysiadau – nid heriau a phroblemau

“Nid ein bwriad yw canolbwyntio ar yr heriau a’r problemau, ond y datrysiadau felly byddwn ni’n cyflwyno adroddiad yn crynhoi syniadau’r gynhadledd, ac yn ei gyflwyno i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn y Gwanwyn,” meddai Cris Tomos, sy’n aelod o Bwyllgor Siarter Cyfiawnder Cartref.

“Rydyn ni hefyd yn bwriadu gofyn i’r Llywodraeth gynnal Cynulliadau Dinasyddion i drafod materion mae’r gynhadledd yn dymuno eu trafod ymhellach.”