Mae trefnydd Cynhadledd Argyfwng Tai Cymru, sy’n cael ei chynnal ym Machynlleth ddydd Sadwrn (Chwefror 18), yn dweud bod y digwyddiad yn gyfle i’r rheiny “sydd wedi cael llond bol gael llais”.
Bydd cyfle yn y gynhadledd, sy’n dechrau am 10 o’r gloch y bore, i gydgynhyrchu syniadau, datrysiadau a gweithrediadau.
Drwy ddod â chymunedau a gweithwyr tai proffesiynol ynghyd, mae lle i gredu y bydd modd cynhyrchu ymatebion arloesol ar y cyd, fydd yn ymarferol a chynaliadwy wrth ymateb i’r argyfwng parhaus.
Gyda chymorth Julie James, sydd â chyfrifoldeb am Dai a Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, mae gwahoddiad i ymgyrchwyr tai, cynghorwyr sir, gweithwyr tai proffesiynol, llunwyr polisi Llywodraeth Cymru, ac unrhyw un sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag anghenion tai pobl Cymru, i fynd i’r Gynhadledd Argyfwng Tai.
Bydd y syniadau gaiff eu datblygu ar y cyd yn y gynhadledd yn cael eu cyflwyno i’r Senedd ac mewn adroddiad fydd ar gael i’r cyhoedd ei weld.
“Dyma gyfle i bobol sydd wedi cael llond bol cael llais,” meddai’r gantores Catrin O’Neill, sy’n aelod o Gyngor Cymuned Aberdyfi ac yn ymgyrchydd ar yr argyfwng tai, wrth golwg360.
“Rydym wedi gofyn i bobol o’r llywodraeth a chynghorau, a phobol sy’n gweithio yn y sector tai, ond rydym eisiau i bobol ar lawr gwlad, pobol o’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio, ddod i’r gynhadledd.
“Mae o’n beth i bawb fod yn rhan ohono fo.
“Dydy o ddim yn beth high brow fel ymgynghoriadau.
“Y Llywodraeth sydd wedi rhoi’r arian i ni roi hyn ymlaen.
“Mae’n grêt i gael lleisiau’r bobol sy’n gweithio yn y sector, ond dyma gyfle i bobol sydd wedi cael llond bol gael llais.
“Mae o am ddim, ac rydym yn cynnig cawl a phaned o de.
“Mae’n gyfle i gyfarfod a phobol, gan fod llawer o bobol yn teimlo’n unig efo beth sy’n mynd ymlaen.
“Mae gymaint ohonom ni yn teimlo’r un peth.
“Mae o’n bwysig nad yw pobol yn teimlo ar ben eu hunain, oherwydd mae’n effeithio ar iechyd meddwl pobol.
“Mae’n gyfle i siarad, rhwydweithio a gweld ein bod ni ar yr un ochr.
“Dydyn ni ddim yn trio beio neb.
“Rydym eisiau dod o hyd i syniadau a helpu’n gilydd.”
Pwrpas y cyfarfod
Mae dau bwrpas i’r cyfarfod, yn ôl Catrin O’Neill.
Yn y lle cyntaf, mae’n dweud bod angen darganfod polisïau newydd er mwyn cyflwyno syniadau i’r llywodraeth.
“Maen nhw’n gwneud llawer o waith ar hwn yn barod, ond rydym yn gobeithio trwy gydweithio a fyny at 100 o bobol bydd yna syniadau newydd sydd dydy pobol heb feddwl am eto,” meddai.
“Rydym eisiau bod yn weddol radical oherwydd bod gymaint o bwysau ar y cymunedau rŵan ac ar yr iaith Gymraeg, felly rydym yn gorfod gwneud rhywbeth ar frys.”
Maen nhw hefyd yn gobeithio mynd efo’r syniad o greu Cynulliadau Dinasyddion er mwyn i bobol ar lawr gwlad gael dweud beth sy’n digwydd, a sut maen nhw’n cael eu heffeithio, a beth ydy’r syniadau sydd ganddyn nhw.
“Mae’r Llywodraeth yn gwneud llawer o ymgynghoriadau o hyd ar bethau ond os nad ydych yn gwybod sut i siarad iaith yr ymgynghoriadau a’i deall maen nhw’n anodd llenwi mewn,” meddai wedyn.
“Dydy’r rhan fwyaf o bobol ddim yn gwybod am yr ymgynghoriadau.
“Rydym yn trio cael llais pobol Cymru a cheisio cael pobol Cymru i siarad efo’r llywodraeth a dweud beth maen nhw ei angen, a beth ydy eu syniadau nhw i wneud pethau’n well.”
Y Llywodraeth yn gweithredu
Mae’r Llywodraeth eisoes wedi sefydlu cynlluniau peilot mewn rhai ardaloedd, wedi newid polisïau cynllunio, ynghyd â gosod rheolau llymach ar lety gwyliau ac ail gartrefi mewn ymgais i fynd i’r afael â’r sefyllfa dai yng Nghymru.
Maen nhw wedi galluogi cynghorau i godi’r premiwm treth cyngor gan 300%, ac mae Cyngor Gwynedd wedi cynyddu’r dreth gan 150% yn ddiweddar.
“Dydy’r pwysau ddim mor ddrwg rŵan ag yn ystod y cyfnod clo, pan oedd pawb yn prynu llety gwyliau er mwyn eu rhentio nhw allan,” meddai Catrin O’Neill.
“Mae llawer o bobol yn mynd dramor rŵan ac mae’r llety gwyliau yn wag.
“Efo’r dreth cyngor yn mynd fyny ac efo’r rheoliadau yn dod mewn, mae llawer o bobol yn trio gwerthu.
“Mae llawer o dai ar werth yn Aberdyfi oherwydd y pethau yma.
“Dydy o ddim yn gostwng y prisiau.
“Mae tai ar werth ond dydy pobol leol dal methu fforddio prynu’r tai yma, yn enwedig yn Aberdyfi.
“Mae yna fwthyn bach dau lofft ar Stryd yr Eglwys heb ardd na golygfa, ac maen nhw wedi rhoi hwnna fyny am £340,000.”
Pobol yn ddigartref
Yn ôl Catrin O’Neill, mae angen dweud wrth bobol am beidio â rhoi eiddo ar y farchnad nac ar rent.
“Mae llwyth o bobol mewn gwely a brecwast brys ac yn cysgu ar soffas pobol,” meddai.
“Mae teuluoedd cyfan heb nunlle i fynd.
“Roedd teulu o ardal Aberteifi ar Facebook ac roeddent yn gorfod mynd i Hwlffordd i gael tŷ cyngor.
“Pe baen nhw wedi troi’r tŷ cyngor yna lawr, fydden nhw ddim yn cael cynnig arall.
“Roedd y plentyn yn y teulu yn gorfod mynd o ysgol Gymraeg i ysgol ddi-Gymraeg.
“Mae’r stwff yma dal yn mynd ymlaen.
“Mae’r Llywodraeth y trio, ond dydy o ddim yn digwydd yn ddigon cyflym.”