Mae’n bymtheg mlynedd union heddiw (dydd Gwener, Chwefror 17) ers i Kosovo gyhoeddi annibyniaeth, ond mae Serbia yn dal i wrthod ei chydnabod fel gwladwriaeth.

Gyda’r rhyfel yn Wcráin ar ei hanterth erbyn hyn, mae pryderon ar draws gwledydd y Balkan y gallai arwain at ansefydlogrwydd pellach yn y rhan honno o’r byd.

Mae’r Gorllewin yn pwyso ar Serbia a Kosovo i gymodi a chydweithio’n agosach er mwyn lleihau’r perygl o ansefydlogrwydd.

Dechreuodd yr anghydfod ym mis Chwefror 1998 pan wrthdystiodd Byddin Ryddid Kosovo yn erbyn Llywodraeth Serbia yn y rhanbarth, lle’r oedd 90% o’r boblogaeth yn Albaniaid ethnig.

Fis Mehefin y flwyddyn ganlynol, ar ôl cyrchoedd bomio oedd wedi para 78 diwrnod yn erbyn targedau milwrol Serbia yn y gobaith o atal Albaniaid rhag cael eu lladd, llofnododd rhai o wledydd yr hen Iwgoslafia, gan gynnwys Serbia a Montenegro, gytundeb i dynnu lluoedd a heddlu arfog allan o Kosovo.

Yn sgil hynny, cafodd grym ei drosglwyddo i NATO a’r Cenhedloedd Unedig yn y gobaith o sicrhau heddwch.

Fis Tachwedd 2001, cafodd etholiad seneddol cyntaf Kosovo ei gynnal dan oruchwyliaeth OSCE, prif oruchwylwyr diogelwch a hawliau Ewrop, a chafodd llywodraeth glymblaid ei sefydlu.

Fis Chwefror 2007, cafodd cynlluniau ar gyfer “annibyniaeth dan oruchwyliaeth” eu cyflwyno gan gynrychiolydd o’r Cenhedloedd Unedig, ond fe wnaeth Rwsia wrthwynebu’r cynlluniau hynny gan gefnogi Serbia wrth iddyn nhw wrthod ildio’r awennau ac arweiniodd hynny at atal sêl bendith y Cenhedloedd Unedig.

 

Dyma amserlin sy’n dangos hanes Kosovo ers iddi gyhoeddi annibyniaeth ar Chwefror 17, 2008.


Chwefror 17, 2008

Ar ôl i drafodaethau dan arweiniad y Cenhedloedd Unedig ddirwyn i ben heb ddatrysiad, cyhoeddodd Kosovo ei hannibyniaeth gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau a’r rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth degau o filoedd o bobol brotestio yn Belgrade, a chafodd Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yno ei rhoi ar dân gan garfan fechan o’r protestwyr, gan ladd un person.

Cafodd Kosovo ei chydnabod fel gwladwriaeth gan dros 100 o wledydd yn y pen draw, ond roedd Serbia yn dal i wrthwynebu gyda Rwsia, Tsieina a gwledydd eraill yn eu cefnogi nhw.

Yn sgil gwrthwynebiad Rwsia ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, cafodd Kosovo ei gwahardd rhag dod yn aelod o’r Cenhedloedd Unedig.

Mehefin 2008

Fis Mehefin 2008, cafodd EULEX ei sefydlu gan yr Undeb Ewropeaidd gyda’r nod o leihau llygredd a thorcyfraith wedi’i drefnu yn Kosovo. Fe wnaethon nhw hyfforddi heddlu a barnwriaeth annibynnol Kosovo ac ymchwilio i droseddau rhyfel o’r 1990au oedd yn rhy sensitif, yn ôl rhai, i gael eu goruchwylio gan farnwyr lleol.

Chwefror 2009

Fis Chwefror 2009, fe wnaeth tribiwnlys rhyngwladol erlyn pum uwch-swyddog Serbia, gan gynnwys pennaeth staff y fyddin a chyn-bennaeth heddlu Kosovo yn sgil troseddau rhyfel, gan gynnwys gwahardd, alltudio a llofruddio Albaniaid Kosovo yn ystod cyrchoedd bomio NATO yn 1999.

Gorffennaf 2010

Fe wnaeth y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol gyhoeddiad dyfarniad ar sail barn nad oedd datganiad annibyniaeth Kosovo wedi torri cyfraith ryngwladol gyffredinol.

Gorffennaf 2011

Fe wnaeth Serbiaid lleiafrifol yng ngogledd Kosovo losgi ffiniau gyda Serbia ar ôl i heddlu Albaniaid Kosovo geisio meddiannu’r rhanbarth a gweithredu ar sail penderfyniad y llywodraeth i atal mewnforion o Serbia wrth ymateb i waharddiad Serbia ar yr holl nwyddau o Kosovo ar ôl iddyn nhw gyhoeddi annibyniaeth.

Medi 2012

Daeth goruchwyliaeth ryngwladol o ddemocratiaeth ifanc Kosovo i ben, ond fe wnaeth EULEX barhau â’u gwaith o ganlyniad i dorcyfraith parhaus ac fe wnaeth eu rôl newid i un o fonitro’r sefyllfa o 2018 ymlaen.

Ebrill 2013

Llofnododd Pristina a Belgrade gytundeb yn eu hymrwymo i sgwrs dan oruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd er mwyn datrys anghydfodau. Cytunodd Pristina i roi ymreolaeth rannol i Serbiaid Kosovo fu’n cwyno am wahaniaethu yn eu herbyn, o dan gymdeithas o diroedd lle’r oedd trwch y boblogaeth yn Serbiaid. Ond fe fu oedi yn sgil gwrthwynebiadau Uchel Lys Kosovo i rannau o’r cytundeb roedden nhw’n eu hystyried yn anghyfansoddiadol.

Awst 2015

Fe wnaeth deddfwyr gymeradwyo llys arbennig i gynnal achosion troseddau rhyfel. O ganlyniad i ystyriaethau’n ymwneud â chynnal achosion yn lleol, roedd yr achos yng ngofal barnwyr rhyngwladol yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd.

2017

Fe wnaeth gwrthbleidiau Albaniaid Kosovo ryddhau nwy dagrau dro ar ôl tro yn y senedd fel rhan o ymgyrch barodd rai misoedd i atal unrhyw gytundeb normaleiddio gyda Serbia, ac un arall gyda Montegro ynghylch diffinio ffiniau.

Rhagfyr 2018

Fe wnaeth Kosovo sefydlu lluoedd arfog, gan arwain at brotestiadau o du Belgrade.

Tachwedd 2020

Ar ôl cael ei enwi yn llys troseddau rhyfel Kosovo, fe wnaeth yr Arlywydd Hashim Thaci, cyn-swyddog y KLA, ymddiswyddo a’i estraddodi i’r Hâg i sefyll ei brawf.

2021-22

Fe fu gwrthdaro ynghylch ymdrechion llywodraeth Pristina i orfodi Serbiaid i fabwysiadu rhifau cofrestru ceir Serbiaidd yng ngogledd y wlad. Cododd Serbiaid rwystrau ffordd, ac fe fu gwrthdaro ffyrnig wrth i brotestwyr a’r heddlu saethu at ei gilydd.

Roedd NATO, sydd â 3,700 o filwyr yn Kosovo, yn barod i ymyrryd pe bai’r gwrthdaro’n gwaethygu ond cafodd rhwystrau ffyrdd eu dymchwel gan dawelu’r sefyllfa ar ôl i ymyrraeth yr Undeb Ewropeaidd arwain at benderfyniad gan lywodraeth Pristina i beidio â gweithredu’r rheol rhifau cofrestru ceir tan ddiwedd 2023.

Ionawr 2023

Ar ôl blynyddoedd o drafodaethau dan oruchwyliaeth yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth cynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau ac Ewrop gyfarfod ag arweinwyr Serbia a Kosovo i’w hannog nhw i lofnodi cynllun normaleiddio 11 pwynt gafodd ei gyflwyno ganol 2022. Roedd y cynllun yn galw am adfer hen gytundebau, gan gynnwys cyfres o fwrdeistrefi Serbiaidd â lled-ymreolaeth, ond daeth gwrthwynebiad gan Albin Kurti, Prif Weinidog Kosovo, ar sail y ffaith y byddai hyn yn sefydlu gwladwriaeth fechan gan hollti Kosovo ar sail ethnigrwydd. Ond cafodd ei bryderon eu hwfftio gan y Gorllewin.

Chwefor 2, 2023

Fe wnaeth Aleksandar Vucic, Arlywydd Serbia, rybuddio’r senedd y byddai trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben ac y byddai mynediad at gronfeydd arian a buddsoddiadau’n cael ei wrthod pe na bai Serbia yn derbyn cynllun yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth deddfwyr cenedlaetholgar y gwrthbleidiau gyhuddo’r llywodraeth o “frad”. Yn Pristina, dywedodd Kurti na fyddai’n bosib i Serbiaid gael ymreolaeth oni bai bod “strwythurau anghyfreithlon yn cael eu dymchwel ac arfau anghyfreithlon yn cael eu hildio”.

Chwefror 6, 2023

Cytunodd Kurti i gynllun yr Undeb Ewropeaidd, gyda rhai amodau ychwanegol. Dywedodd fod y cynllun yn “sail ar gyfer trafodaethau pellach ac yn llwyfan cadarn i symud ymlaen” ar yr amod fod pryderon megis sicrwydd rhyngwladol yn cael sylw, gan nodi rhai amodau ar gyfer ymreolaeth Serbiaidd yn lleol.