Mae disgwyl i Senedd Catalwnia alw Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, a nifer o weinidogion eraill i roi tystiolaeth ar Fawrth 3 i’r comisiwn sy’n cynnal ymchwiliad i helynt meddalwedd ysbïo Pegasus.

Yn ôl asiantaeth newyddion a gorsaf radio yng Nghatalwnia, mae agenda’r ymchwiliad yn enwi nifer o weinidogion a dirprwy arlywyddion Catalwnia fydd yn dystion.

Mae’r rhestr wedi’i chymeradwyo gan swyddfa’r comisiwn, sy’n gyfuniad o bleidiau gwleidyddol Esquerra Republicana, Junts per Catalunya a CUP ac sy’n cael ei gadeirio gan Josep Maria Jové o Esquerra.

Mae helynt ‘Catalangate’ yn ymwneud ag ysbïo honedig yn erbyn arweinwyr ac ymgyrchwyr yn y mudiad annibyniaeth gan ddefnyddio meddalwedd Pegasus a Candiru.

Cefndir

Rhwng 2017 a 2020, mae adroddiadau bod dyfeisiau o leiaf 65 o wleidyddion ac ymgyrchwyr o Gatalwnia wedi cael eu targedu gan feddalwedd ysbïo.

Ymhlith y rhai gafodd eu targedu mae arweinwyr Catalwnia, Aelodau o Senedd Ewrop, deddfwyr ac aelodau o fudiadau amrywiol tros annibyniaeth.

Ar Ionawr 20, cytunodd swyddfa’r comisiwn i alw oddeutu 80 o dystion, gan gynnwys Mariano Rajoy, cyn-Brif Weinidog Sbaen; Pablo Iglesias, cyn-arweinydd Podemos; nifer o gyn-weinidogion llywodraeth ac uwch-swyddogion sefydliadau amrywiol, ynghyd â Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia sydd bellach yn aelod o bwyllgor Pegasus yn Senedd Ewrop.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod cymryd rhan yn yr ymchwiliad, gan ddweud nad ydyn nhw’n atebol i ymchwiliad yng Nghatalwnia er eu bod nhw’n “parchu” Senedd Catalwnia.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw eisoes wedi trafod y mater sawl gwaith.