Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i ddarparu llefydd i gartrefi modur barcio dros nos ger Llyn Padarn, ac mae pedair man arall yn cael eu hystyried gan Gyngor Gwynedd.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys creu naw lle parcio ym maes parcio Y Glyn yn Llanberis.
Byddai’r cynlluniau hefyd yn darparu llefydd parcio yng Nghaernarfon, Bermo, Cricieth a Phwllheli, gyda niferoedd y llefydd yn amrywio.
Derbyniodd Cyngor Gwynedd gais cynllunio ar Chwefror 1, sy’n ddiwygiad ar gais gafodd ei gyflwyno ddiwedd 2022.
‘Tynnu busnes oddi wrthym’
Fel rhan o ymgynghoriad, cafodd gwaith ymchwil ei gynnal er mwyn canfod barn trigolion a chymunedau Gwynedd am sefyllfa cartrefi modur yn lleol.
Cafodd y gwaith ymchwil ei gynnal ar-lein am gyfnod o chwe wythnos rhwng Gorffennaf 20 ac Awst 31, 2021.
Dywedodd 73.7% o’r 2,169 wnaeth lenwi’r holiadur yn gyflawn eu bod nhw o blaid treialu cyfres o lefydd parcio mewn safleoedd mwy trefol gan ddefnyddio meysydd parcio cyfredol y Cyngor neu fusnesau preifat.
Gyda’r posibilrwydd o roi’r cynlluniau ar waith erbyn y gwanwyn, mae meysydd carafanio lleol yn gofidio.
Un o’r rhain yw Emrys Jones, fu’n rhedeg maes gwersylla Llys Derwen ym mhentref Llanrug ger Llanberis ers dros 25 mlynedd.
Yn ddiweddar, mae wedi pasio’r awenau i’w ferch, a’i gŵr hithau Nathan Tandy.
“Mi fydd o’n effeithio ein busnes ni’n fawr,” meddai Emrys Jones wrth golwg360.
“Os bydd y Cyngor yn gadael i hyn ddigwydd mi fydd o’n cymryd busnes oddi wrth feysydd carafanio sy’n talu’r cyfraddau, a bydden nhw ddim.
“Mae’r cyfraddau wedi codi i ni, ond eto mae Cyngor Gwynedd am dynnu busnes pellach oddi wrthym a meysydd lleol eraill wrth ganiatáu hyn,” meddai Nathan Tandy wrth golwg360.
“Efallai fydd dy fusnes lawr tua 10-15% wedyn, wrth i fusnes benderfynu parcio fyny’n rhywle sy’n costio £10 y noson iddyn nhw.”
Un arall sy’n poeni yw rheolwr Parc Teithiol Morris Leisure yn Llanberis, sydd wedi’i leoli tua 200m o faes parcio Y Glyn.
“Dw i ddim yn hapus iawn yn clywed am y cynlluniau posib,” meddai Laura Ellis, sy’n rheoli’r parc gyda’i gŵr ers mis Mai y llynedd, wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl mai efallai’r math o bobol fydd eisiau ei ddefnyddio fydd y math o bobol fydd ddim eisiau aros yn ein parc ni, oherwydd rydyn ni’n reit ddrud.
“Ond y broblem wedyn ydi ein bod ni’n cael lot o bobol yn dod atom i ofyn a gawn nhw ddefnyddio’r cawodydd yn unig.
“Efallai fydd rhai o’n cwsmeriaid ni hefyd yn cael eu denu i’r maes parcio yma.
“Dydw i ddim eisiau i’r cynlluniau fynd trwodd o gwbl.”
Effaith lleol
Maen nhw hefyd yn poeni am sut y gallai ymddygiad posib ymwelwyr fyddai’n aros ym maes parcio y Glyn yn Llanberis effeithio pobol leol.
Bydd yn denu problemau pellach i’r bobol leol a’u cynefin, yn ôl Nathan Tandy.
“Maen nhw’n dweud na fydd barbeciws yn cael eu caniatáu, byddan nhw’n cael barbeciws,” meddai Emrys Jones.
“Oni bai bod rhywun yna i’w blismona, mi fyddan nhw yn cael barbeciws ac mi fyddan nhw’n drystiog achos does yna byth warden na dim byd yno.
“Byddai rhaid cael warden.
“Efallai fydd hanner y bobol sy’n aros yno yn bobol iawn, ond bydd yr hanner arall yn gadael llanast ac yn poeni dim.
“O leiaf ar faes carafanio, mae gen ti warden yn cadw golwg ar bopeth sy’n mynd ymlaen.”
“Bydd yna’n bendant mwy o sŵn yno a fyddai’n effeithio ar bobol leol,” meddai Nathan Tandy wedyn.
“Be’ sy’n ddiddorol hefyd ydy bod treth cyngor i fod i gynyddu o 5% ar gyfartaledd – bydd y 5% ychwanegol yna i bobol Llanberis a’r ardaloedd o gwmpas, i bob pwrpas, yn talu i godi’r sbwriel a gwarchod y maes parcio.
“Mae’n teimlo fel ei fod yn trechu’r amcan cyfan hefyd o gwmpas parcio a theithio wrth wahodd mwy o gerbydau.”
“Rydyn ni’n tueddu i fod yn llawn dros yr haf beth bynnag felly efallai fyddai’r effaith ar ein busnes ddim yn anferthol, ond y broblem fwyaf fyddai’r effaith lleol,” meddai Laura Ellis.
“Pwy sydd am glirio fyny ar eu holau? Dyna’r broblem.
“Mae’n anodd, achos rwyt ti eisiau i bobol ddod i’r ardal a gwario yn yr ardal, ond dwyt ti ddim eisiau iddyn nhw amharchu’r ardal.
“Rydyn ni’n trio cyfyngu ar adael grwpiau mawr aros efo ni achos maen nhw’n gallu ymddwyn yn waeth, ond byddai grwpiau mawr yn gallu aros yn fan hyn ac efallai creu llanast.”
Proses ymgynghori
Mae’r ddau fusnes yn credu y dylai proses ymgynghori fod wedi cael ei chynnal gyda busnesau lleol.
“Mae Cyngor Gwynedd yn anfon cylchlythyr wythnosol sy’n gadael i chi wybod am bethau sy’n digwydd yn eich ardal a gyda busnesau hefyd – mae o’n e-bost defnyddiol iawn,” meddai Nathan Tandy.
“Ond dydw i heb weld unrhyw beth yn y rheiny am y cynlluniau yma na holi am farn.
“Byddwn i’n sicr wedi rhannu fy marn.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd.
Ymateb Cyngor Gwynedd
“Fel ymateb i’r problemau di gynsail sydd wedi bod yn wynebu cymunedau Gwynedd dros y blynyddoedd diwethaf gyda gwersylla anghyfreithlon, fe benderfynodd Cyngor Gwynedd gynnal darn o waith ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
“Roedd adroddiadau o wersylla anghyfreithlon wedi bod yn amlygu ar draws y sir am sawl blwyddyn, fel enghraifft rydym yn aml wedi bod yn cyfri 30 – 40 o ‘camperfans’ yn y Glyn yn Llanberis.
“Yn ystod haf 2021 bu i ni ymgynghori gyda’n trigolion, perchnogion cartrefi modur a pherchnogion busnesau gwersylla ar draws y sir.
“Mae canlyniadau’r gwaith ymchwil i’w ddarganfod yma.
“Fe amlygwyd y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn eang ac fel y gwelwch cafwyd ymateb sylweddol gan y naill grŵp targed.
“Amlygodd yr ymgynghoriad gefnogaeth gan drigolion, perchnogion cartrefi modur a busnesau gwersylla i’r syniad o weithredu’r cynllun peilot.
“Amlygodd nifer o fusnesau lleol fod eu meysydd gwersylla yn aml yn llawn a’u bod yn croesawu’r ymgais i wella rheolaeth.
“Rydym hefyd wedi canfod barn a chyflwyno’r cynlluniau i fforwm Carafán a Gwersylla Cymru (Caravan & Camping Forum for Wales) a Llywodraeth Cymru.
“Mae safleoedd or fath yn gyffredin iawn ar y cyfandir ac wedi ei datblygu i wella rheolaeth a hybu buddion economaidd a chymunedol ac yn gweithredu ar y cyd gyda meysydd gwersylla a busnesau eraill.
“I gyd fynd â’r datblygiadau bydd Cyngor Gwynedd yn gosod mesurau gorfodaeth newydd mewn lleoliadau problemus megis Y Foryd a’r Glyn yn Llanberis.
“Byddwn hefyd yn uchafu ein gweithgaredd marchnata a chyfathrebu er mwyn amlygu ein meysydd gwersylla a sicrhau bod ein hymwelwyr yn aros yn yr ardal mewn lleoliadau cydnabyddedig a chyfreithlon.
“Bwriad cynllun ‘Arosfan’ ydi cael gwell rheolaeth or sefyllfa gyfredol er budd cymunedau a thrigolion Gwynedd.”