Byddai buddsoddiad pellach o £10m gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal plant.

Mae’r cyllid ychwanegol yn rhan o gynllun cam wrth gam i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais yn benodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Bydd y buddsoddiad newydd yn caniatáu i 2,200 yn fwy o blant fanteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg yn 2023-24.

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant ifanc sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae’n cynnwys gofal plant rhan amser am ddim i blant dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.

Yn ystod 2023-24 a 2024-25, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi cyfanswm o £46m i ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i gefnogi plant a theuluoedd ledled Cymru sy’n wynebu’r heriau mwyaf.

Mae disgwyl i gam 2 gefnogi dros 4,500 yn rhagor o blant dwy oed i gael gafael ar ofal plant Dechrau’n Deg o ansawdd uchel yn 2023-24.

Yn 2024-25, bydd cam 2 yn cefnogi 5,200 yn rhagor o blant dwy oed.

‘Gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol’

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, wedi gwneud cyhoeddiad am y cyllid wrth ymweld ag Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd.

“Mae datblygu cefnogaeth o ansawdd uchel i blant a theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i Lywodraeth Cymru,” meddai Julie Morgan.

“Rwy’n falch o gael cyhoeddi bod £10m ychwanegol ar gael yn 2023-24 i ehangu cwmpas y cynllun, a fydd yn caniatáu i fwy o blant gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel.

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau a deilliannau miloedd o blant a’u teuluoedd ledled Cymru, ac yn cynnig cyfle i fwy o blant gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

“Mae gofal a dysgu o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad plant ac yn allweddol i’w paratoi ar gyfer yr ysgol ac i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad, yn enwedig i’r plant hynny sy’n wynebu’r heriau mwyaf.”

‘Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant’

“Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant,” meddai Siân Gwenllian.

“Y cyllid hwn yw’r cam diweddaraf yn ein hymdrech i gyflawni ein hymrwymiad i ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar gryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.

“Bydd y £10m ychwanegol hwn yn rhan o ddull gweithredu cam wrth gam ar gyfer cyflwyno’r ymrwymiad hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol.

“Mae’n fater o ddarparu gofal plant hygyrch, sydd o fudd i’r plant a’u teuluoedd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobol ledled y wlad.”