Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyhoeddi adroddiad yn galw am agwedd newydd tuag at undebau llafur a pherthnasau diwydiannol.

Daw hyn wrth iddyn nhw ymateb i’r gyfres o streiciau ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi taro sawl maes.

Yn ôl yr adroddiad, mae rhai gweithwyr yng Nghymru’n dal i weithio dan amodau “syfrdanol” mewn swyddi â chyflogau isel.

Mae’r adroddiad, sy’n rhoi sylw i’r lifrau datganoledig sydd ar gael i gefnogi undebau llafur, yn cynnwys ymchwil wrth y ddesg i arfer da mewn modelau perthnasau diwydiannol ar draws y byd, a’r system yng Nghymru, ac yn siarad â gweithwyr yng Nghymru ynghylch eu profiadau gwaith.

Mae’r adroddiad yn galw ar Gymru i ddilyn model sydd i’w weld mewn gwledydd lle mae niferoedd uchel o weithwyr yn aelodau o undebau llafur, yn ogystal â rhai sydd â chynhyrchiant, incwm a lefelau lles uchel, megis Norwy, Sweden a Denmarc.

Mae hefyd yn cymharu’r sefyllfa yn y gwledydd hynny â sefyllfa’r Deyrnas Unedig, lle mae gwrthdaro rhwng llywodraethau ac undebau llafur a lefelau uwch o anghydfodau diwydiannol na gwledydd lle mae mwy o gyfathrebu mwy aeddfed ag undebau llafur.

‘Canlyniadau anochel ein model economaidd presennol’

“Fe wnaeth ein cyfweliadau â gweithwyr yng Nghymru ddatgelu rhai amodau syfrdanol, megis diffyg ystyriaeth o iechyd a diogelwch, yn ogystal â gweithwyr yn gorfod gweithio chwe niwrnod yr wythnos ar gyflogau isel i gael deupen llinyn ynghyd, heb dâl salwch os ydyn nhw’n cwympo’n sâl,” meddai Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig.

“Caiff rhai eu cyflogi ar gytundebau rhan amser, ond mae gofyn eu bod nhw ar gael am oriau llawn amser, sy’n eu cloi nhw i mewn i gyflog eithriadol o isel.

“Rydym wedi gweld marweidd-dra cyson mewn safonau byw yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi’i nodi gan donnau diweddar o weithredu’n ddiwydiannol.

“Dyma ganlyniadau anochel ein model economaidd presennol, sydd ddim yn gweithio.

“Mae ein hadroddiad newydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i atgyfnerthu model newydd o berthnasau diwydiannol yng Nghymru.

“Rydym am ddilyn y gwledydd arfer da sydd â lefelau uchel o ddeialog rhwng llywodraeth ac undebau, yn hytrach na chorddi’i gilydd.

“Mae’r gwledydd hyn, megis Norwy a Sweden, yn dueddol o fod ag undebau llafur sydd wedi’u grymuso a llai o drafferthion diwydiannol, mwy o gynhyrchiant, cyfraddau tâl uwch a lefelau lles uwch ar y cyfan na’r Deyrnas Unedig a Chymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw “eisoes wedi ymrymo” i gydweithio ag undebau llafur a chyflogwyr “i gyflwyno gwaith diogel a gwerthchweil”.

“Rydym yn parhau i gefnogi Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ac i hybu undebau llafur, gan gynnwys drwy ein rhaglen beilot diweddar ‘Undebau a’r byd gwaith’ mewn ysgolion.

“Rydym hefyd wedi ymgynghori’n eang ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus sydd wedi’i gyflwyno gerbron y Senedd.

“Pe bai’n cael ei basio, byddai’n gwneud gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn fwy ffurfiol ac yn cyflwyno dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus newydd mwy cymdeithasol gyfrifol.”