Bydd dyn sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl ac yn byw bywyd yn groes i gonfensiynau cymdeithasol yn destun rhaglen ar S4C nos Sul (Chwefror 19).
Antur yw bywyd i Paul O’Neill sy’n byw mewn fan ers iddo brofi heriau yn ei fywyd personol.
Penderfynodd e dair blynedd yn ôl y byddai’n symud allan o’i dŷ a throi ei fan ar gyfer gwaith yn gartref hefyd.
Gyda Paul O’Neill yn teithio, byw a gweithio yn Eifionydd a Phen Llŷn, bydd y rhaglen ddogfen DRYCH: Dyn yn y Van yn dilyn ei fywyd lliwgar a diddorol.
“Faint o bobl sy’n gallu gorffen gwaith a galw hyn yn adra?” meddai Paul O’Neill am ei gynefin newydd.
Torri’r rheolau
Dydy Paul O’Neill ddim yn byw bywyd gan ddilyn yr un rheolau â’r rhan fwyaf o bobol.
Dydy o ddim yn cynllunio, ddim yn yfed alcohol nac yn dibynnu ar neb arall.
Mae’n saer a handyman dawnus sy’n teithio o le i le ar gyfer ei waith, a dydy o ddim yn cynllunio ble mae’n mynd nesaf tan ei bod hi’n amser symud ymlaen a thanio modur y fan.
Mae presenoldeb Eilir Pierce, sy’n cysgodi bywyd Paul O’Neill am gyfnod i greu’r rhaglen ddogfen, yn cael cryn effaith ar ei ffordd o fyw ac yn cynnig sialensiau heriol a newydd gan nad yw wedi arfer bod o flaen camera.
“Tra’n gwneud y ffilm, wnes i hurio camper van er mwyn trio dallt mwy am Paul a bywyd mewn fan,” meddai Eilir Pierce.
“Mae Paul wedi arfer bod ar ben ei hun, so o’n i’n gorfod bod yn ofalus o beidio amharu ar ei ffordd impulsive o fyw.
“Mae’n brofiad anodd iddo fo ac i fi.”
“Chwalu’r byd” mae wedi’i greu iddo’i hun
“Gall hyn chwalu’r byd dwi wedi adeiladu yn hawdd,” meddai Paul O’Neill.
“Mae’n tynnu’r spontaneity allan o bywyd fi.”
Er mor hudolus a gwahanol yw bywyd iddo, mae’n delio â heriau iechyd meddwl dwys ac mae ei ffordd o ymdopi â’i anawsterau yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o bobol.
“Maen nhw’n dweud bod depression fel cylch,” meddai.
“A mwy isel dwi’n mynd, ar ôl dipyn, dwi’n eistedd yn y fan a gwneud dim, dim digon o confidence i fynd i siop lawr y lôn jyst i ’nôl peint o lefrith.
“Wna’i eistedd yna am ddau ddiwrnod heb fwyd na llefrith achos dwi’n rhy anxious ac isel i gerdded mewn i siop.
“That’s depression.
“Ac mae’n medru dod allan o nunlle.”
Mae wedi byw gyda dyslecsia er pan oedd yn blentyn, ac wedi delio â dibyniaeth ar alcohol yn oedolyn, gan gyfaddef iddo gyrraedd “rock bottom“.
- Bydd y rhaglen, sy’n agor cil y drws ar heriau byw gyda phroblemau iechyd, yn cael ei darlledu ar S4C am 9 o’r gloch nos Sul (Chwefror 19), ac ar gael wedyn ar S4C Clic a BBC iPlayer.