Mae ymchwil newydd gan Awdurdod Darlledu Iwerddon yn dangos bod 80% o bobol yn cytuno y bydden nhw’n gwrando mwy ar orsaf radio pe bai’r orsaf honno’n chwarae mwy o gerddoriaeth Wyddeleg.

Mae Conradh na Gaeilge wedi croesawu’r newyddion fod ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi gan y gweinidog Catherine Martin a’r Gweinidog Gwladol Patrick O’Donovan yn dangos bod lle i orsaf radio newydd yn yr iaith Wyddeleg ar gyfer pobol ifanc ar donfeddi FM, wrth i weinidogion fynegi cefnogaeth i’r fath wasanaeth.

Mae’r ymchwil gan Awdurdod Darlledu Iwerddon yn tynnu sylw at ddiddordeb gwrandawyr iau mewn cael mwy o ddewis o ran cynnwys clywedol drwy gyfrwng yr iaith.

Ar hyn o bryd, mae Raidió Rí-Rá yn darlledu ar-lein bob awr o bob dydd ar ffurf gorsaf siartiau i bobol ifanc, a’r nod yw darlledu’n llawn amser ar donfeddi FM a llwyfannau eraill yn y dyfodol.

‘87% yn gyfran fawr o unrhyw gymuned’

“Mae 87% yn gyfran fawr o unrhyw gymuned, ac mae’r JNLR yn dangos mai dyna nifer y bobol ifanc rhwng 15 a 34 oed – bron i 1.1m o bobol – yn gwrando ar y radio bob wythnos,” meddai Emma Ní Chearúil, rheolwr Raidió Rí-Rá.

“Mae cyfle yma i greu argraff ar y gymuned honno, a rhoi gwasanaeth Gwyddeleg gwych iddyn nhw.

“Mae gorsaf siartiau i bobol ifanc eisoes ar ffurf Raidió Rí-Rá ar-lein ac ar apiau, ac rydym yn gweithio tuag at ddarparu’r gwasanaeth hwnnw ar FM a llwyfannau eraill ar raddfa genedlaethol.

“Byddai hyn yn werthfawr, nid yn unig i bobol ifanc ond hefyd i rieni sy’n magu plant trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg gael yr opsiwn i wrando ar gynnwys Gwyddeleg gartref, ac i’r rheiny yn y gymuned Wyddelig sydd eisiau radio hwyliog, cyffrous, ynghyd â cherddoriaeth a diwylliant pop ar FM ac ar-lein bob awr o bob dydd.”

Adroddiad wedi’i gyhoeddi gan Awdurdod Darlledu Iwerddon

“Pan gafodd y cysyniad arfaethedig o wasanaeth Gwyddeleg newydd ei ddisgrifio – un fyddai’n cael ei yrru gan gerddoriaeth, yn chwarae cerddoriaeth ac yn rhoi sylw i gynnwys sy’n boblogaidd ymhlith cynulleidfa ifanc – dywedodd cyfran helaeth (38%) y bydden nhw’n fwy tebygol o wrando (ac wrth wrando, rydym yn golygu tiwnio i mewn o leiaf unwaith yr wythnos),” meddai ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi gan Awdurdod Darlledu Iwerddon.

“Fodd bynnag, pan gawson nhw eu hysgogi gan feini prawf penodol, wedi’u cyflwyno fel ffyrdd y gallai gorsaf newydd wahaniaethu ei hun oddi wrth orsafoedd eraill sydd ar gael i bobol ifanc, mae lefel y diddordeb fel pe bai’n cynyddu.

“Unwaith eto, daw cerddoriaeth i’r fei fel y peth allweddol sy’n rhaid ei gael ymhlith gwrandawyr, gyda pedwar ym mhob pump yn cytuno y byddai gorsaf sy’n chwarae mwy o’r gerddoriaeth rydych chi’n ei hoffi na gorsafoedd eraill yn eu gwneud nhw’n fwy tebygol o wrando.

“A byddai dau draean o’r sampl yn fwy tebygol o wrando pe bai’r orsaf yn siarad am y materion sy’n bwysig iddyn nhw.”